Pam mae'r galw am ddyfeisiadau electroneg wedi cynyddu?
Mae dyfeisiau electronig yn defnyddio trydan i weithio ac yn cynnwys pethau fel ffonau, cyfrifiaduron, setiau teledu a chonsolau gemau. Gall y dyfeisiau hyn wneud ystod eang o bethau fel dangos fideos, chwarae gemau, neu ei gwneud hi'n bosibl cysylltu â dy ffrindiau a dy deulu.
Datblygiadau technolegol
Mae arloeseddDulliau, syniadau neu gynhyrchion newydd. parhaus mewn technoleg yn cyflwyno dyfeisiau electronig newydd gyda swyddogaethau a chyfleusterau newydd. Gall hyn greu galw am y cynnyrch diweddaraf.
Diwylliant defnyddwyr
Mae’n bosibl bod pwysau gan defnyddiwrPerson sy’n archebu, neu’n defnyddio nwyddau, cynhyrchion neu wasanaethau at ddefnydd personol yn bennaf. ac ymgyrchoedd hysbysebu, yn enwedig drwy’r cyfryngau cymdeithasol, wedi arwain at awydd cynyddol am y teclynnau diweddaraf. Mae hyn wedi cyfrannu at gynhyrchu a phrynu mwy o ddyfeisiau electronig.
Cyfleustra
Mae dyfeisiau electronig yn gwneud gwahanol swyddogaethau ac yn gwneud pethau’n gyfleus, felly mae pobl yn gallu teimlo nad ydyn nhw’n gallu gwneud hebddyn nhw yn y byd modern. Mae hyn yn golygu bod galw mawr am eitemau fel ffonau symudol, setiau teledu, cyfrifiaduron a pheiriannau golchi llestri ac mae hyn yn gyrru eu cynhyrchiad.
Gyda’i gilydd, mae’r ffactorau hyn yn cyfrannu at y cynnydd mewn cynhyrchu electronig, gan gynnal cylch o alw gan ddefnyddwyr a datblygiadau technolegol.
Fideo: Electroneg gynaliadwy
Mae cymaint wedi newid dros y ganrif ddiwethaf. Erbyn hyn, mae’n gallu teimlo bod wastad rhyw ddarn newydd o dechnoleg y dylen ni ei gael.
Mae dyfeisiau electronig yn gwneud hi'n bosib i ni wneud cymaint o bethau ond maen nhw hefyd yn cael effaith fawr ar y blaned.
Mae’r broses o greu, defnyddio a thaflu dyfeisiau electronig yn cael effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r rhan fwyaf o ddyfeisiau yn cael eu creu gan ddefnyddio metelau sy’n brin ac yn gyfyngedig – mae hynny’n golygu, ar ôl i ni eu defnyddio i gyd, bydd yna ddim mwy ar gael.
Mae’r metelau hyn yn cael eu cloddio o’r ddaear. Gall hynny fod yn wael iawn i’r amgylchedd.
Mae’n rhaid clirio tir er mwyn gallu cloddio am y metelau yma – a gall hynny ddinistrio cartrefi’r bywyd gwyllt lleol a niweidio’r ecosystem, neu’r gymuned naturiol yno.
Hefyd, mae’r cloddio yma’n defnyddio cemegau gwenwynig sy’n gallu cyrraedd y tir a'r dŵr gerllaw.
Un o’r rhesymau pam rydyn ni’n defnyddio mwy o drydan heddiw nac oedden ni yn y gorffennol, yw’r ffaith fod gyda ni gymaint o ddyfeisiau electronig.
Gall cyfrifiadur gemau pwerus ddefnyddio yr un faint o egni â thair oergell ac yna mae’r broblem o e-wastraff. Dyma’r term rydyn ni’n ddefnyddio ar gyfer y dyfeisiau electronig sy’n cael eu taflu.
Dyma’r math o wastraff sy’n tyfu gyflymaf yn y byd.
Mae’r rhan fwyaf o ddyfeisiau electronig yn cael eu taflu ond beth sy’n gwneud hynny’n waeth yw’r ffaith bod llawer ohonyn nhw’n dal i weithio’n iawn.
Dyna un ffordd mae’r byd electronig yn debyg i fyd ffasiwn.
Mae cwmnïau’n creu fersiynau newydd o bethau drwy’r amser er mwyn gallu gwerthu nhw i ni dro ar ôl tro.
Mae hysbysebion, ein ffrindiau a phobl enwog i gyd yn rhoi pwysau arnom i gael y dyfeisiau mwyaf diweddar, ac rydyn ni’n rhoi pwysau ar ein hunain i’w cael hefyd.
Mae’n gallu bod yn anodd iawn anwybyddu’r teimlad yna bod angen prynu’r peth mwyaf newydd.
Yn ffodus, mae yna lawer o fudiadau sy’n gweithio ar y problemau yma yng Nghymru yn barod.
Mae yna fudiadau sy’n galw am ddyfeisiau electronig sy’n para’n hirach, fel bod dim angen i ni brynu cymaint o rai newydd ac maen nhw am wneud ailgylchu hen ddyfeisiau yn haws.
Edrycha ar-lein i ddod o hyd i dy fan ailgylchu agosaf.
Fe allet ti wedyn wneud yn siŵr nad ydy dy hen ddyfeisiau yn mynd i safleoedd tirlenwi.
Bydd hyn yn golygu na fydd sylweddau gwenwynig fel mercwri yn cyrraedd ein pridd a’n dŵr.
Yn 2022, dechreuodd y Bathdy Brenhinol adeiladu ffatri yn ne Cymru fydd yn gallu derbyn ac ailgylchu aur o e-wastraff.
Dyma’r ffatri gyntaf o’i math yn y DU.
Mae cwmnïau newydd hefyd yn canolbwyntio ar faterion cynaliadwy.
Er enghraifft, mae rhai nawr yn cynnig ffonau sy’n gallu cael eu trwsio ac a fydd yn para am bum mlynedd.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gwybod am yr holl ffyrdd gall dyfeisiau electronig effeithio ar yr amgylchedd. Os ydyn ni’n gwybod am y pethau yma gallwn ni wedyn wneud mwy i wella’r sefyllfa.
Felly rhanna beth rwyt ti’n ei wybod, gyda'r bobl o dy gwmpas!
Pa effaith mae cynhyrchu electroneg yn ei chael ar ein planed?
Mae creu a defnyddio dyfeisiau electronig yn dod â llawer o fanteision i’n bywydau. Maen nhw’n dylanwadu’n gadarnhaol ar ein cymdeithas, gan gyfrannu at fwy o gysylltedd a hwylustod, ar yr un pryd â rhoi hwb i’n heconomi. Fodd bynnag, gall electroneg niweidio ecosystemau ac amgylcheddau ein planed yn sylweddol, sy'n ei gwneud yn anoddach cael ffordd gynaliadwy o fyw.
Manteision electroneg
Cymdeithas | Yr economi | Yr amgylchedd |
---|---|---|
Cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu. | Mae swyddi’n cael eu creu drwy’r broses o gynhyrchu a gwerthu cynnyrch electronig. | Gall creu dyluniadau sy’n effeithlon o ran adnoddau a rhaglenni ailgylchu helpu i leihau effaith cynhyrchu electronig ar yr amgylchedd. |
Anfanteision electroneg
Cymdeithas | Yr economi | Yr amgylchedd |
---|---|---|
Gorddibyniaeth ar declynnau a dyfeisiau. | Darfodiad bwriadus. Dyma pryd mae cynnyrch yn cael ei ddylunio’n fwriadol gydag oes gyfyngedig, sy’n annog defnyddwyr i brynu rhai newydd yn eu lle, yn aml ar gost fawr. | Gall electroneg ddefnyddio adnoddau naturiol yn gyflymach nag y gellir eu hailgyflenwi. Er enghraifft, mae metelau gwerthfawr fel lithiwm, arian a chopr yn cael eu defnyddio wrth gynhyrchu ffonau symudol. |
Effaith amgylcheddol ffôn clyfar

Mae effaith amgylcheddol ffonau symudol yn ymestyn o ddechrau i ddiwedd eu bywydau, o weithgynhyrchu i waredu. Mae angen llawer o adnoddau ac egni i’w cynhyrchu. Mae hyn yn cyfrannu at lygredd, dinistrio cynefinoedd, ac allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae’r gwaith o ddylunio ffonau symudol yn aml yn digwydd mewn Gwledydd Incwm Uchel (HIC)Gwledydd sydd ag incwm uchel, fel y DU a Japan. lle mae gan gwmnïau rhyngwladol eu pencadlysoedd.
Mae’r cydrannau a’r rhannau ar gyfer ffonau symudol yn aml yn dod o wahanol wledydd ac yna’n cael eu cydosod mewn ffatrïoedd mewn gwahanol ranbarthau o Gwledydd Incwm Canolig (MIC)Gwledydd nad ydynt yn cael eu cydnabod gan Fanc y Byd fel rhai incwm uchel nac incwm isel. Adolygir y dosbarthiad hwn yn flynyddol. neu Gwledydd Incwm Isel (LIC)Gwledydd Incwm Isel a gydnabyddir gan Fanc y Byd fel rhai sydd ag incwm is na gwledydd eraill..
Ar ôl eu hadeiladu, mae ffonau symudol yn cael eu hallforio ledled y byd, sy’n golygu bod allyriadau cludiant yn ychwanegu at ôl troed carbon cyffredinol y ffôn. Yn ogystal, mae defnyddio egni yn ystod oes y ffôn a chynhyrchu gwastraff electronig yn achosi heriau amgylcheddol pellach.

I fynd i’r afael â’r materion hyn, mae prosiectau’n canolbwyntio ar:
- wneud i ffonau bara’n hirach
- defnyddio mwy o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu
- hyrwyddo nodweddion arbed egni
- rheoli gwastraff electronig yn well
- sicrhau bod pobl yn gwybod mwy am y materion hyn
Drwy ddewis opsiynau cynaliadwy, cadw ein teclynnau i fynd yn hirach, a chael gwared ar hen rai’n briodol, gall unigolion helpu i leihau effaith eu ffonau clyfar.
Gwaredu gwastraff electronig yn gyfrifol
Pan nad yw gwastraff electronig yn cael ei waredu’n gyfrifol, mae’n llygru’r amgylchedd gyda chemegion peryglus. Gall hyn achosi problemau iechyd i bobl sy’n byw mewn cymunedau ger safleoedd tirlenwi.
Mae hefyd yn gwastraffu adnoddau gwerthfawr. Mae dyfeisiau electronig yn cynnwys metelau a deunyddiau gwerthfawr fel aur, arian, copr a phrinfwynau. Pan na fydd gwastraff electronig yn cael ei ailgylchu neu ei adennill yn iawn, caiff yr adnoddau hyn eu colli a rhaid gwneud gwaith cloddio ac echdynnu ychwanegol i gael rhai yn eu lle.
Problem arall o ganlyniad i waredu gwastraff yn y ffordd anghywir yw’r posibilrwydd o risgiau diogelwch data. Mae gwybodaeth sensitif yn aml yn cael ei storio ar ddyfeisiau fel cyfrifiaduron a ffonau symudol a gall pobl gael mynediad ati heb awdurdod priodol. Gall hyn arwain at ddwyn hunaniaeth, rhannu gwybodaeth sy’n breifat, a bygythiadau eraill i seiberddiogelwch.
Sut allwn ni waredu e-wastraff yn ddiogel ac yn gynaliadwy?
Ailgylchu hen electroneg drwy fynd â nhw i ganolfannau ailgylchu dynodedig.
Rhannu’r neges drwy ddweud wrth eraill pam ei bod yn bwysig ailgylchu electroneg.
Gwerthu dy hen eitemau - bydd hyn yn rhoi cyfle i ti roi bywyd newydd i dy hen electroneg drwy eu gwerthu i rywun a allai fod eu heisiau. Mae hyn yn golygu bod yr eitem yn cael ei defnyddio yn hytrach na’i thaflu i ffwrdd.
Atgyweirio - bydd hyn yn osgoi gorfod taflu eitemau electronig i ffwrdd.
Fideo: Electroneg gynaliadwy ar waith
Mae dyfeisau electronig yn ei gwneud hi'n bosibl i ni wneud cymaint o bethau, ond maen nhw hefyd yn cael effaith fawr ar y blaned.
Felly mae'n bwysig meddwl beth allwn ni wneud i sicrhau bod dyfeisiau electronig yn fwy cynaliadwy.
Mae dyfeisiau fel ffonau, tabledi, cyfrifiaduron a setiau teledu wedi'u gwneud o fetelau sydd yn dod o Affrica, Asia a De America.
Mae hyn yn cael effaith negyddol ar amgylchedd yno.
Ry'n ni hefyd yn taflu llwyth o hen ddyfeisiau.
Ry'n ni'n galw hwn yn e-wastraff.
A dyma'r math o wastraff sy'n tyfu gyflymaf yn y byd.
Yng Nghymru mae 'na fudiadau sy'n helpu, ei gwneud hi'n haws ailddefnyddio dyfeisiau electronig ac ailgylchu'r metelau sydd y tu mewn iddyn nhw.
Yn union fel ffasiwn cynaliadwy y peth gorau allet ti wneud yw meddwl ddwywaith cyn prynu dyfais newydd sbon.
Problem arall yw fod cwmnïau weithiau yn gwrthod creu darnau newydd i bethau fel ffonau neu dabledi, neu gwneud hi'n anodd i'w trwsio.
Maen nhw'n gwneud hyn er mwyn i ni brynu dyfais newydd.
Fe allet ti geisio osgoi hyn trwy ailddefnyddio ac ailgylchu dy ddyfeisiau, a gwneud yn siŵr dy fod ti ond yn prynu eitemau ail-lawpan fyddi di angen rhywbeth arall.
O wneud hyn fydd dim byd yn cael ei wastraffu.
Cyn ailgylchu dyfais neu brynu un newydd beth am weld os yw hi'n bosibl trwsio'r hen un.
Os byddi di angen rhywbeth newydd edrycha am gwmnïau sy'n gwerthu dyfeisiau electronig cynaliadwy neu rai sydd para'n hirach.
Os edrychi di ar-lein fe weli di lwyth o wybodaeth am gwmnïau fel hyn.
Fedri di hefyd fynd yn retro a chael noson o chwarae gemau ar hen systemau gyda dy ffrindiau.
Gall hyn fod yn hwyl ac mae ailddefnyddio hen ddyfeisiau yn lle eu taflu yn well i'r amgylchedd.
Gelli di ymchwilio am y canolfannau ailgylchu yn dy ardal di a dod o hyd i brosiectau e-ailgylchu yn lleol.
Wyt ti wedi ysgrifennu at dy gyngor lleol a gofyn iddyn nhw roi sylw i e-ailgylchu a gwneud hi'n haws i bobl ei wneud?
Gelli di roi gwbod i dy hoff gwmni electroneg bod yn well gen ti ddyfeisiau sy'n gynaliadwy.
Mae llawer o gwmnïau yn dechrau cymryd sylw.
Ac mae gan gwsmeriaid ddylanwad mawr ar wneud yn siŵr fod pethau yn newid.
Mae'r rhain i gyd yn bethau bach ond pwysig y gelli di eu gwneud.
Bydden nhw yn gwneud gwahaniaeth a byddi di yn helpu i ofalu am y blaned.
Gweithgaredd: Arferion technoleg sy'n fwy cynaliadwy
Mae technoleg yn chwarae rhan ganolog yn ein bywydau bob dydd, gan gynnig hwylustod, cysylltedd ac arloesedd. Fodd bynnag, mae cyflymder datblygiadau technolegol hefyd wedi arwain at bryderon amgylcheddol.
Mae hyn yn cynnwys gwastraff electronig, defnyddio egni, a disbyddu adnoddau. Drwy fabwysiadu arferion sy’n lleihau gwastraff electronig, yn gwarchod egni, ac yn cefnogi technolegau cynaliadwy, gallwn leihau ôl troed ecolegol ein defnydd o dechnoleg.
Cynhyrchu a gwaredu gwastraff electronig yng Nghymru yn gynaliadwy
Mae gan Gymru nifer o brosiectau ledled y wlad i leihau’r effaith negyddol y gall ein dyfeisiau ei chael ar yr amgylchedd.
Deddfwriaeth
Mae cyfreithiau ar waith i sicrhau bod gweithgynhyrchwyr yn gyfrifol am eu gwastraff electronig. Er enghraifft, mae cyfreithiau’n mynnu bod cwmnïau’n cael gwared ar eu cynnyrch yn briodol hyd yn oed pan nad oes modd eu defnyddio mwyach.
Prosiectau cymunedol
Mae caffis trwsio a gwasanaethau atgyweirio symudol yn gweithredu ledled Cymru. Mae’r cynlluniau hyn yn ymestyn oes electroneg trwy gynnig gwasanaethau atgyweirio i’r cyhoedd.
Canolfannau casglu e-wastraff
Mae gan Gymru nifer o ganolfannau casglu e-wastraff sy'n sicrhau gwaredu ac ailgylchu cyfrifol.
Economi gylchol
Nod Cymru yw parhau i leihau faint o e-wastraff sy’n cael ei greu a meithrin economi gylchol. Mae economi gylchol yn ffordd o wneud pethau lle rydyn ni’n ceisio defnyddio adnoddau mor effeithlon â phosibl.

Yn hytrach na thaflu pethau i ffwrdd ar ôl eu defnyddio unwaith, rydyn ni’n dod o hyd i ffyrdd o’u hailddefnyddio, eu hatgyweirio a’u hailgylchu. Mae hyn yn helpu i leihau gwastraff a gwarchod yr amgylchedd ar yr un pryd ag arbed arian a chreu cyfleoedd newydd i fusnesau.
Mae lleoliadau fel y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant yn adeiladu ffatri gemegol sy’n gallu echdynnu aur o wastraff electronig, fel hen liniaduron a ffonau symudol. Mae’r dull eco-gyfeillgar hwn yn lleihau’r defnydd o egni ac mae’n well i’r amgylchedd.
Addysg
Mae gwahanol grwpiau a chynghorau’n cynnal ymgyrchoedd i addysgu pobl mewn ysgolion a’r gymuned am e-wastraff a sut mae’n effeithio ar yr amgylchedd.
Cwis
More on Gwastraff a llygredd
Find out more by working through a topic
- count1 of 2