Ysgrifennu: Video playlist

Part of Cymraeg Ail laithYsgrifennu

Now playing video 14 of 15

Chwareli llechi

Description

Cyflwyniad i’r diwydiant llechi yng ngogledd Cymru trwy gyfrwng ymweliad â’r Amgueddfa Lechi ar safle hen chwarel Dinorwig yn Llanberis. Yn cynnwys golygfeydd o’r ardal yn ogystal â ffilm archif o waith yn y chwarel.

Classroom Ideas

Gellir defnyddio’r clip hwn wrth drafod Cymru a’i diwylliant. Byddai’n bosibl rhoi taflen eirfa i ddisgyblion fel eu bod nhw’n gallu dilyn a deall y clip wrth iddyn nhw ei wylio ac yna gofyn iddyn nhw gyflawni tasg gwrando a deall. Tasg arall bosibl fyddai gofyn i ddisgyblion wneud ymchwil ar y chwarel, yna gweithio mewn parau i greu cynnwys pellach ar gyfer y clip ar ffurf cyflwyniad Powerpoint neu feddalwedd debyg.