Chi wedi gwneud ffilm! O gwych!
O diar!
Dwi'm yn meddwl bo' nhw'n hoffi'r ffilm.
Dim problem! Fe allwn ni ddefnyddio'r colofnau rhif i gyfrifo faint o bobl sydd yma o hyd.
Gyda cholofnau rhif gallwn gymryd rhifau mawr a thynnu un oddi wrth y llall yn rhwydd.
Ry'n ni'n gwneud hyn trwy rannu'r sym mewn i golofnau gwerth lle a thynnu'r rhifau i ffwrdd o'i gilydd.
Felly, gwerthwyd 92 o docynnau ac mae 27 o bobl wedi gadael.
Ry ni'n dechrau trwy roi'r rhif gwreiddiol ar y top.
Reit. Dechreuwn ni gyda'r golofn ar y dde - yr unedau.
Gan fod dau yn llai na saith, rhaid i ni gymryd deg o golofn y degau.
Felly mae 12 tynnu saith yn gadael pump.
Nawr am y degau.
Wyth tynnu dau yw chwech.
A dyna ni! Mae 65 o bobl yn dal i gredu bod eich ffilm yn werth ei gweld. Ddim yn ddrwg!
A… falle ddim.

Os yw’r rhifau’n rhy uchel neu’n rhy anodd i’w tynnu yn dy ben, ysgrifenna nhw mewn colofnau. Gwahana’r rhifau’n unedau, degau, cannoedd a miloedd. Rhestra’r rhifau mewn colofn a dechreua gyda’r unedau’n gyntaf bob tro.
Amcangyfrifa’n gyntaf a gwirio wedyn – mae’n syniad da amcangyfrif yr ateb yn gyntaf. A chofia wirio dy ateb go iawn.
Mae tynnu’n groes i adio. Felly mae hi bob amser yn bosib gwirio ateb swm tynnu drwy adio. Gwiria fod 182 - 37 = 145 drwy wneud y swm: 145 + 37 = 182
Gwylia am y geiriau hyn mewn problemau:
- tynnu i ffwrdd
- gwahaniaeth
- llai na
- minws
- lleihau
- cwtogi
Maen nhw i gyd yn arwydd o swm tynnu.

More on Rhif
Find out more by working through a topic
- count14 of 16
- count15 of 16
- count16 of 16
- count1 of 16