Sut i luosi yn eich pen
Iawn. 240 tocyn am y gitâr.
Bant â ni.
Gwych!
Ma 40 tocyn yn ddechre!
Sgwn i tase'r chwech ohonoch chi â 40 tocyn yr un, a'ch bod chi'n rhoi nhw i gyd at ei gilydd, fyddech chi'n gallu fforddio fe wedyn?
Chwech wedi ei luosi â 40.
Sydd yr un peth â chwech wedi ei luosi â phedwar wedi ei luosi â deg.
A ma' lluosi 'da phedwar yr un peth a dyblu.
A dyblu eto.
Ac i luosi â deg dw i'n gwybod bod angen gwneud y rhif deg gwaith yn fwy.
Shwt y'ch chi'n mynd i rannu'r gitâr?
Na fydde cymryd tro wedi bod yn well?
Beth yw 6 x 40?
- Mae 6 x 40 yn hafal i 6 x 4 x 10
- Mae 6 x 4 yn hafal i 6 x 2 x 2
- 6 x 2 x 2 = 24
- 24 x 10 = 240
- Felly mae 6 x 40 = 240
Torra’r swm i lawr gymaint ag sydd angen. Os wyt ti’n gwybod bod 6 x 4 = 24, does dim rhaid iti ei dorri i lawr i 6 x 2 x 2.
More on Rhif
Find out more by working through a topic
- count1 of 16
- count2 of 16
- count3 of 16
- count4 of 16