Mae gorila yn esbonio beth yw rhifau cysefin a sut maent yn wahanol i rifau eraill.
Beth yw rhifau cysefin?
Mae rhif cysefin yn rhif arbennig sydd ond yn gallu cael ei rannu gan ei hun a'r rhif un.
Sy'n eu gwneud yn boen i hwn sy'n hoffi rhannu pethau'n dwt i bentyrrau hafal.
Beth am balu mwy?
Cymra'r rhif 3.
Mae 3 yn rhif cysefin. Ei unig ffactorau yw 3 ac 1.
Felly, mae ond yn gallu cael ei rannu mewn i un grŵp o dri neu dri grŵp o un.
Does dim cyfuniadau eraill yn bosib. Dyw 4 ddim yn rhif cysefin.
Yn ogystal â grwpiau o bedwar ac un, gallwn rannu 4 mewn i grwpiau o ddau.
Bant â ni eto. Bydd hwn ddim yn gorffen yn dda. Mae 5 yn rhif cysefin eto.
Dim ond dau ffactor sydd ganddo, 1 a 5.
Gelli di fynd ymlaen yn uwch ac yn uwch i ddarganfod rhifau cysefin mwy a mwy.
Fel 7, 11, 13 a hyd yn oed 997.
Ond paid ag anghofio nad yw'r rhif 1 yn cyfri gan mai dim ond un ffactor sydd ganddo… sori!
Rhifau cysefin
Mae rhifau cysefin yn rhifau arbennig sydd ddim ond yn gallu cael eu rhannu gyda’u hunain ac 1.
Mae 19 yn rhif cysefin. Dim ond 1 ac 19 sy’n gallu rhannu i mewn iddo.
Dydy 9 ddim yn rhif cysefin. Mae’n gallu cael ei rannu gyda 3 yn ogystal ag 1 a 9.
Dyma’r rhifau cysefin o dan 20: 2, 3, 5, 7, 11, 13, 17, 19.
More on Rhif
Find out more by working through a topic
- count12 of 16
- count13 of 16
- count14 of 16
- count15 of 16