Beth yw sero net?
Mae sero net yn golygu dod o hyd i gydbwysedd rhwng y nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu rhyddhau i’r atmosffer a’r rheini rydyn ni’n eu tynnu ohono. Y nod yw sicrhau bod ein planed yn aros ar dymheredd cyfforddus fel bod popeth byw, o blanhigion i anifeiliaid, yn gallu tyfu a goroesi.
Pan fyddwn yn defnyddio pethau fel ceir neu pan fyddwn yn gwneud trydan, rydym yn creu nwyon tŷ gwydr sy’n gwneud y Ddaear yn rhy gynnes. Nwyon yn atmosffer y Ddaear yw nwyon tŷ gwydr sy’n dal gwres o’r haul, fel blanced. Maen nhw’n helpu i gadw’r Ddaear yn ddigon cynnes i gynnal bywyd, sy’n beth da. Fodd bynnag, pan fydd gormod o nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer, fe allan nhw achosi i dymheredd y Ddaear godi gormod, gan arwain at newid yn yr hinsawdd. Mae rhai nwyon tŷ gwydr cyffredin yn cynnwys carbon deuocsid (CO₂), methan (CH₄), ac ocsid nitrus (N₂O).
Mae sero net yn gynllun i gydbwyso pethau. Yng Nghymru a ledled y byd, rydyn ni’n gweithio ar ddefnyddio llai o’r nwyon hyn a dod o hyd i ffyrdd o’u tynnu’n ôl o’r aer.
Fideo: Sero net
Mae’n debygol dy fod yn clywed y termau sero net a charbon niwtral yn aml. Ond be’n union maen nhw’n olygu a be di’r gwahaniaeth?
Er mwyn deall rhain, i ddechrau rydyn ni angen gwybod beth yw nwyon tŷ gwydr.
Dros y canrifoedd, mae gweithgarwch pobl fel llosgi olew, nwy a glo i gael egni wedi llenwi atmosffer y Ddaear efo nwyon tŷ gwydr.
Mae nwyon tŷ gwydr yn rhwystro egni thermol neu wres yr haul rhag dianc.
Mae hyn wedi cynhesu’r Ddaear ac wedi arwain at newid hinsawdd.
Felly, os rydyn ni eisiau gwrthdroi newid hinsawdd rydyn ni angen lleihau faint o nwyon tŷ gwydr sy’n mynd i’r atmosffer a dyna beth ydy sero net.
Mae gwledydd sy’n ceisio bod yn sero net wedi addo peidio ag ychwanegu mwy o nwyon tŷ gwydr i’r atmosffer erbyn rhyw ddyddiad penodol. Yng Nghymru y dyddiad yw 2050.
Mae’r net yn sero net yn golygu mai’r bwriad yw bod yr allyriadau, yr emissions, yn gyfanswm o sero. Mae’n anodd iawn peidio â chynhyrchu nwyon tŷ gwydr.
Felly mae llywodraethau yn ceisio cydbwyso pethau drwy ddefnyddio dull gwrthbwyso carbon. Mae gwrthbwyso carbon yn golygu tynnu’r nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer.
Un ffordd naturiol o wneud hyn yw drwy blannu coed, gan fod coed yn amsugno carbon deuocsid.
Ffordd arall yw defnyddio technoleg sy’n dal a storio carbon, sef tynnu carbon deuocsid yn uniongyrchol o’r aer a’i gadw’n ddiogel o dan glo.
Weithiau, da ni’n clywed y term carbon niwtral, sy’n golygu rhywbeth sydd ddim yn effeithio ar gyfanswm yr allyriadau o gwbwl ac mewn geiriau eraill sy’n niwtral.
Mae cwmnïau a sefydliadau yn defnyddio’r term yma ond nid yw’n golygu yr un fath bob tro, sy’n gallu bod yn ddryslyd ac hyd yn oed yn gamarweiniol.
Mae’r term weithiau’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pob nwy tŷ gwydr, ac weithiau i gyfeirio at garbon deuocsid yn unig.
Ffordd arall y gall y defnydd o’r term fod yn ddryslyd yw os yw’n disgrifio’r cwmni mewn un sefyllfa ac yna’n disgrifio cynnyrch penodol dro arall.
Weithiau gall y dryswch yma arwain at greenwashing neu wyrddgalchu, sef gwneud i gwmni neu gynnyrch swnio’n fwy cyfeillgar tuag at yr amgylchedd nac ydyn nhw go iawn. Gallai hynny fod yn fwriadol neu anfwriadol.
Felly mae gwledydd yn canolbwyntio ar fod yn sero net yn hytrach na charbon niwtral.
Er mwyn i ni gyrraedd sero net yng Nghymru mae’n rhaid i ni wneud pethau ychydig bach yn wahanol.
Mae’n rhaid i ni hedfan llai, bwyta llai o gig neu newid i fwyta cig sy’n cael ei ffermio’n gynaliadwy.
Gallwn ni hefyd ddefnyddio llai o egni a newid y ffordd yr ydan ni’n cynhyrchu egni drwy ddefnyddio egni adnewyddadwy fel gwynt, dŵr, llanw neu solar.
Mae Cymru wedi dechrau ar y newid yma’n barod. Mae’r ffordd dan ni’n cynhyrchu egni yn ffactor enfawr a dweud y gwir, gan mai tanwydd ffosil ydy un o’r prif gyfranwyr i allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae newid sut rydyn ni’n byw a gweithio yn gallu bod yn heriol iawn, ond fe allwn ni greu byd sy’n fwy caredig tuag at yr hinsawdd wrth weithio efo’n gilydd.
Mae gan bawb ei ran, a’r cyflymaf y byddwn ni’n gweithredu, y cyflymaf y gallwn leihau’r effaith mae newid hinsawdd yn ei gael.Bydd hefyd yn arwain at aer glanach, gofodau cyhoeddus brafiach a ffyrdd iachach o deithio a bwyta.
Dylai symud at fod yn sero net arwain at filoedd o swyddi newydd yng Nghymru hefyd. Bydd angen peirianwyr egni, gweithredwyr peiriannau, rheolwyr ailgylchu a mwy arnom.
Mae llawer o bobl yn gweithio ar yr her yma ac maen nhw’n gwneud cynnydd da. Er engrhaifft does gan Gymru ddim gweithfeydd sy’n cael eu pweru gan lo erbyn hyn.
Rydyn ni angen dal ati efo‘r newidiadau er mwyn cyrraedd sero net ac arafu newid hinsawdd.
Cyfranwyr at allyriadau nwyon tŷ gwydr
Cynhyrchu trydan, gwresogi a chynhyrchu tanwydd
Cynhyrchu trydan, gwresogi a chynhyrchu tanwydd yw’r cyfranwyr mwyaf at allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae’r allyriadau hyn yn deillio’n bennaf o hylosgiadY broses o losgi gwres. tanwyddau ffosil fel glo, olew a nwy naturiol.
Cludiant
Mae allyriadau o ganlyniad i gludiant yn cynnwys rhai o gerbydau fel ceir, bysiau a lorïau, yn ogystal ag awyrennau a llongau.
Amaethyddiaeth
Gall arferion ffermio yng Nghymru weithiau gyfrannu at nwyon tŷ gwydr oherwydd defnyddio gwrteithiau, rheoli gwastraff anifeiliaid, a thorri coed. Mae’r gweithredoedd hyn yn rhyddhau nwyon a all waethygu cynhesu byd-eang. Ond mae Cymru’n ceisio datrys hyn drwy hyrwyddo ffyrdd eraill o ffermio, fel ffermio organig a rheoli gwastraff.
Pam mae cyrraedd sero net yn bwysig?
Mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd
Byddai bod yn sero net yn ein helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd drwy leihau’r nwyon sy’n cynhesu’r Ddaear, gan atal tywydd eithafol fel tornadosGwyntoedd sy’n cylchdroi’n gyflym, sy’n gallu achosi llawer o niwed., sychderCyfnod hir o lawiad isel. a corwyntoeddSystem stormydd trofannol mawr gyda gwyntoedd crwn pŵer uchel.. Byddai hefyd yn arafu lefelau’r môr yn codi.
Diogelu natur
Mae’n ein helpu i warchod natur a bywyd gwyllt drwy leihau llygredd a chadw ecosystemauCymuned o anifeiliaid, planhigion a micro-organebau, ynghyd â'r cynefin lle maent yn byw.’n iach.
Cadw pobl yn iach
Mae sero net yn golygu aer a dŵr glanach, sy’n gwella iechyd y cyhoedd ac yn gwneud cymunedau’n fwy diogel.
Creu swyddi a chyfleoedd
Mae newid i sero net yn creu swyddi newydd mewn egni adnewyddadwy, fel adeiladu tyrbinau gwynt, eu cynnal a’u cadw a’u dylunio. Gellir creu swyddi mewn diwydiannau cynaliadwy eraill hefyd. Er enghraifft, gall swyddi ym maes lleihau gwastraff, ailgylchu a chompostio roi hwb i’r economi.
Cyflawni cytundebau rhyngwladol
Ym mis Rhagfyr 2015, llofnododd llawer o wledydd Gytundeb Paris. Mae hyn yn golygu eu bod wedi addo gweithio gyda'i gilydd i amddiffyn y blaned a chyflawni nodau byd-eang ar gyfer lleihau nwyon tŷ gwydr.
Fideo: Sero net ar waith
Mae sero net a charbon niwtral yn dargeda pwysig os ydyn ni am wrthdroi newid hinsawdd.
Ond be allwn ni neud er mwyn helpu i gyrraedd y targedau yma?
Gan fod poblogaeth y byd yn cynyddu mae'r nwyon tŷ gwydr yn cynyddu hefyd.
Cofio rheina?
Y nwyon sy'n dal gwres yn atmosffer y ddaear ac sy'n arwain at newid hinsawdd.
Fel sawl gwlad arall yn y byd mae Cymru hefyd yn ceisio cyrraedd sero net.
Mae hyn yn golygu rhyddhau llai o nwyon tŷ gwydr na sy'n bosib eu hamsugno neu eu gwrthbwyso.
Mae carbon niwtral yn golygu peidio gwneud newid hinsawdd yn waeth.
Mae sawl busnes, o wyliau cerddorol i ddylunwyr dillad, yn ceisio creu cynnyrch neu gynnig gwasanaeth sydd yn garbon niwtral.
Mae sawl person yn meddwl mai'r llywodraeth a chwmniau ddylai wneud y rhan fwyaf o'r gwaith i gyrraedd y targedau.
Ond mae digon y gallu di a fi wneud i helpu.
Er enghraifft gelli di arbed, aildefnyddio ac ailgylchu yn amlach.
Neu gymryd camau i osgoi gwastraffu bwyd.
Hefyd bwyta llai o gig neu fyta cig sy'n cael ei ffermio'n gynaliadwy.
Gall deithio ar drafnidiaeth cyhoeddus neu ddull hunanbweru fel seiclo helpu.
Gall brynu pethau o siopau diwastraff helpu hefyd.
Mae rheini'n ymddangos ym mhob man ar draws Cymru.
Mae'n bosib y galli di wneud rhai o'r rhain dy hun ond drwy weithio efo pobol eraill galli di gael hyd yn oed mwy o ddylanwad.
Be am weithio yn dy gymuned drwy annog dy ysgol neu fusnesau lleol i fod yn garbon niwtral?
Alli di drefnu deiseb i annog y llywodraeth lleol i weithredu?
Mae gwneud y pethau yma'n lleol yn ffordd wych o wneud gwahaniaeth.
Ac mi allai helpu efo unrhyw bryder sydd gen ti am newid hinsawdd.
Gall dysgu mwy am yr holl bethau sydd wedi digwydd yn barod roi gobaith i ti hefyd.
Er enghraifft Cyngor Sir Gaerfyrddin oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru gyhoeddi cynllun i fod yn sero net.
Ac mae mwy a mwy o fusnesau yng Nghymru ag ar draws y byd yn gwneud addewid i fod yn garbon niwtral yn y dyfodol.
Pam mae cyrraedd sero net yn her?
Dibyniaeth ar danwydd ffosil
Mae llawer o’r sector sy’n allyrru’r swm mwyaf o nwyon tŷ gwydr, fel diwydiant a chludiant, yn dibynnu’n drwm ar danwyddau ffosil. Mae symud oddi wrth y ffynonellau egni carbon-ddwys hyn, tuag at ffynonellau egni eraill fel egni adnewyddadwy, yn gofyn am llawer o arian, technoleg newydd, ac uwchraddio ein systemau pŵer.
Gwyrddgalchu
Ystyr gwyrddgalchu yw pan fydd cwmnïau’n hyrwyddo eu cynnyrch fel cynnyrch eco-gyfeillgar i ddenu cwsmeriaid. Weithiau maen nhw’n gwneud i’w cynnyrch ymddangos yn fwy eco-gyfeillgar nag ydyn nhw mewn gwirionedd, yn ddamweiniol neu’n fwriadol. Felly, mae’n bosibl awgrymu bod hyn yn gallu twyllo pobl i feddwl eu bod yn helpu tuag at gyflawni sero net, pan nad ydyn nhw.
Arian
Weithiau, gall newid i egni glanach a ffyrdd mwy cynaliadwy o fyw gostio mwy o arian, er nad bob amser. Felly, mae’n bosibl awgrymu na fyddai rhai pobl yn gallu prynu cynhyrchion cynaliadwy neu eco-gyfeillgar o fewn eu cyllideb.
Newid arferion
Er mwyn i Gymru gyrraedd sero net, mae’n bosibl cynnig bod angen inni newid ein harferion bob dydd. Er enghraifft, sut rydyn ni’n teithio, neu beth rydyn ni’n ei fwyta. Gellid ystyried hyn yn heriol.
Gweithgaredd: Pa newidiadau alli di eu gwneud i gyrraedd sero net?
Cyrraedd sero net yng Nghymru
Mae Cymru’n gweithio’n galed i leihau ei hallyriadau nwyon tŷ gwydr drwy groesawu ffynonellau egni glanach fel egni gwynt a solar, yn ogystal â hyrwyddo ceir trydan a gwella trafnidiaeth gyhoeddus. Nod y newidiadau hyn yw cydbwyso ei hallyriadau carbon, symud tuag at ddyfodol sero net, diogelu’r blaned, a chreu dyfodol gwell i genedlaethau’r dyfodol.
Ffynonellau egni adnewyddadwy yng Nghymru
Mae Cymru’n canolbwyntio ar ddefnyddio ffynonellau egni adnewyddadwy fel pŵer gwynt, dŵr a solar yn lle tanwyddau ffosil fel glo, olew a nwy naturiol. Nid yw ffynonellau adnewyddadwy yn cynhyrchu nwyon tŷ gwydr niweidiol, maen nhw'n lanach ac yn well i’r amgylchedd.

Mae Prosiect Egni Gwynt Pen y Cymoedd wedi’i leoli yn ne Cymru ac mae’n un o’r ffermydd gwynt mwyaf ar y tir yn y DU. Mae’n cynnwys nifer fawr o dyrbinau gwynt, gan ddefnyddio egni gwynt i gynhyrchu trydan. Mae’r prosiect yn cyfrannu at nodau egni adnewyddadwy Cymru ac mae’n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o leihau dibyniaeth Cymru ar danwydd ffosil ar gyfer cynhyrchu egni.


Teithio cynaliadwy yng Nghymru
Mae teithio cynaliadwy yng Nghymru yn hanfodol er mwyn lleihau allyriadau carbon a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â nod y genedl o gyflawni sero net. Mae’r dull hwn yn pwysleisio ffyrdd eco-gyfeillgar o deithio fel beicio, cerdded a thrafnidiaeth gyhoeddus i leihau’r effaith ar yr amgylchedd. Drwy flaenoriaethu teithio cynaliadwy, nod Cymru yw lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a hybu twristiaeth wyrddach. Mae hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol at ei huchelgeisiau sero net drwy leihau’r ôl troed carbon cyffredinol sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth.
Mae prosiect Metro De Cymru yn ymwneud â gwella gwasanaethau trenau a bysiau ledled De Cymru. Mae’n cynnwys gwella rheilffyrdd, gorsafoedd a llwybrau bysiau i roi ffyrdd haws a mwy effeithlon i bobl deithio o gwmpas. Y nod yw lleihau traffig a chynnig dewisiadau teithio mwy gwyrdd i bawb yn yr ardal. Mae gwasanaethau eraill ledled Cymru, gan gynnwys bysiau Traws Cymru, yn cynnig gwasanaeth cwbl drydanol a di-allyriadau.

Cynlluniau cyllido
Mae busnesau a chymunedau yng Nghymru weithiau’n cael arian i’w helpu i wneud eu hadeiladau’n fwy effeithlon o ran egni neu i ailddefnyddio, ailgylchu ac addasu eu hadeiladau’n well.
Arferion ffermio a phlannu coed
Mae ffermio cynaliadwy yn golygu ffermio mewn ffordd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, yn arbed adnoddau naturiol, ac yn helpu bywyd gwyllt. Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys newid cnydau bob tymor, rheoli plâu heb gemegion, a phlannu cnydau ychwanegol i ddiogelu’r pridd.
Mae ffermio organig yn cyfeirio at arferion fel lleihau’r defnydd o plaleiddiaidCemegion a ddefnyddir i ladd plâu. a gwrteithiau.

Manteision plannu coed
Dal carbon deuocsid - caiff coed yng Nghymru eu plannu i amsugno carbon deuocsid o’r aer, gan helpu i leihau faint o’r nwy tŷ gwydr hwn sydd yn yr atmosffer.
Lleihau llygredd aer - gall coed helpu i wella ansawdd aer drwy ryddhau ocsigen.
Cynyddu bioamrywiaeth - gall coed gynnal bioamrywiaethYr amrywiaeth o wahanol blanhigion ac anifeiliaid mewn ardal.. Maen nhw'n darparu cynefin i adar, pryfed a mamaliaid bach eraill fel gwiwerod, ond hefyd gwahanol fathau o risgl a gall cen dyfu ar eu rhisgl.

Cwis
More on Egni a thrafnidiaeth
Find out more by working through a topic
- count2 of 3
- count3 of 3