Gwleidyddiaeth go iawn: Be 'di be

Part of Dinasyddiaeth (Cymru)Gwleidyddiaeth a democratiaeth

Cyflwyniad

Falle dy fod yn meddwl bod y byd gwleidyddol yn llawn geiriau mawr - ond dydyn nhw ddim mor gymhleth ac y maen nhw'n swnio. Gwylia'r fideo i geisio taclo rhai ohonyn nhw.

Cafodd y ffilm hon ei chynhyrchu yn 2021 cyn y newidiadau i ffiniau etholaethau

Dysga fwy am y deg gair neu ymadrodd gwleidyddol o'r fideo.

10. Llywodraeth

Y llywodraeth sy’n rhedeg y wlad ac mae'n cael ei harwain gan y prif weinidog.

Gan fod cymaint o waith i’w wneud wrth reoli gwlad, mae angen cymorth ar y prif weinidog. Felly mae'n dewis Aelodau Seneddol o Dŷ’r Cyffredin ac aelodau o Dŷ’r Arglwyddi i fod yn weinidogion.

Y cabinet yw’r enw ar y grŵp sy’n cynnwys y prif weinidog a’r gweinidogion pwysicaf. Gyda’i gilydd, mae gan y cabinet y pŵer i wneud penderfyniadau ar gyfer y DU gyfan. Y cabinet felly sy'n llywodraethu y DU.

Yn y Deyrnas Unedig (DU), er mai’r Senedd sy’n sofran – hynny yw Senedd y DU sy’n holl bwerus – mae'r llywodraeth yn cael ei ffurfio gan y blaid sydd gyda’r nifer fwyaf o seddi yn y Senedd. O ganlyniad, maen nhw’n eithaf siŵr o allu pasio’r polisïau yn eu maniffesto i fod yn ddeddfwriaeth.

Image caption,
Prif adeilad cyhoeddus Senedd Cymru, wedi ei leoli yng nghanol Bae Caerdydd.

9. Senedd

Mae dwy ystyr i’r term ‘Senedd’ yng ngwleidyddiaeth Cymru a’r DU a dyma pam, yn aml, fod pobl yn drysu.

Yng nghyd-destun y DU, y Senedd yw’r term am Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn San Steffan. Mae’r ddwy siambr yma’n wahanol.

650 o Aelodau Seneddol, sy’n cael eu hethol gan ddinasyddion y DU, sy’n eistedd yn Nhŷ’r Cyffredin. Meinciau gwyrdd sydd yn Nhŷ’r Cyffredin.

Does dim nifer penodedig o aelodau yn Nhŷ’r Arglwyddi. Mae yna 92 o arglwyddi sydd wedi etifeddu eu lle, 26 o esgobion Eglwys Lloegr sy'n cael eistedd yno yn rhinwedd eu swydd, a tua 700 sydd wedi cael eu henwebu gan bleidiau gwleidyddol neu gan gomisiwn annibynnol. Meinciau coch sydd yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Mae gyda ni ein Senedd ein hunain yng Nghymru ble mae Aelodau o’r Senedd yn cwrdd i drafod. Ar hyn o bryd mae 60 ohonyn nhw ond bydd y nifer yn cynyddu i 96 ar ôl yr etholiad nesaf yn 2026. Yr hyn sy’n gyffredin am y ddwy Senedd yw bod ganddyn nhw’r pŵer i greu deddfau.

Y Senedd yw’r enw hefyd ar yr adeilad ym Mae Caerdydd ble mae Senedd Cymru yn cwrdd.

Image caption,
Prif adeilad cyhoeddus Senedd Cymru, wedi ei leoli yng nghanol Bae Caerdydd.

8. Clymblaid

Bydd llywodraeth glymblaid yn cael ei ffurfio pan fydd mwy nag un blaid wleidyddol yn dod at ei gilydd i reoli. Mae hyn fel arfer yn digwydd mewn senedd grog, pan nad oes yr un blaid wedi ennill digon o seddi mewn etholiad i fedru llywodraethu ar ei phen ei hun.

Y bwriad wrth greu clymblaid gyda phlaid arall yw bydd ganddyn nhw dros 51% o’r seddi o fewn senedd ac felly yn medru pasio deddfau yn haws. Yn 1852, cyn iddo ddod yn brif weinidog, dywedodd Benjamin Disraeli, “England does not love coalitions”. Y rheswm am hyn, yn ei farn e, yw bod angen cymaint o gyfaddawdu i ffurfio clymblaid.

Dydy clymbleidiau ddim yn bethau cyffredin i wleidyddiaeth San Steffan gan fod un blaid yn debygol o ennill y mwyafrif o seddi o dan y system cyntaf i'r felin. Ond rhwng 2010 a 2015 roedd y DU yn cael ei llywodraethu gan glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yng Nghymru mae llywodraeth glymblaid yn fwy cyffredin gan ei bod hi'n llai tebygol fod un blaid yn ennill mwyafrif gyda'r system bleidleisio sy'n cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau'r Senedd. Mae’r Blaid Lafur wedi ffurfio clymbleidiau gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru ar adegau gwahanol.

7. Cyntaf i'r felin

Dyma’r term i ddisgrifio system etholiadol etholiadau cyffredinol y DU. Yn syml, mae hyn yn golygu mai’r blaid sydd yn ennill plwraliaeth syml – hynny yw, y nifer fwyaf o bleidleisiau – fydd yn ennill etholiad.

Os bydd un blaid yn ennill dim ond un bleidlais yn fwy na phlaid arall, yna nhw bydd yn ennill yr etholaeth.

6. Etholaeth

Dyma'r ardal ddaearyddol bydd Aelod Seneddol neu Aelod o'r Senedd yn ei chynrychioli.

Mae 650 o Aelodau Seneddol yn cael eu hethol i gynrychioli eu hetholaethau mewn etholiad cyffredinol. Mae 32 o'r etholaethau hyn yng Nghymru.

Mae ffiniau etholaethau yn cael eu pennu gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru. Cafodd ffiniau eu newid yn 2023 gyda’r nod o greu etholaethau gyda nifer tebyg o etholwyr. Heblaw am Ynys Môn, pan gafodd y newidiadau eu gwneud roedd gan bob etholaeth etholiad cyffredinol yng Nghymru rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr yr un.

5. Deddfwriaeth

Mae hwn yn derm gyda dwy ystyr. Deddfwriaeth yw cyfreithiau sy’n cael eu creu gan y Senedd, sef Deddfau Seneddol. Mae hefyd yn golygu y broses o greu cyfreithiau newydd yn y Senedd, hynny yw, deddfu.

4. Cyngor

Cyrff llywodraeth leol sy’n gyfrifol am faterion lleol ydy cynghorau. Mae gan siroedd ac ambell bentref, trefi a dinasoedd eu cyngor eu hunain.

Fe fydd dinasyddion yn ethol cynghorwyr lleol i’r cynghorau i wneud penderfyniadau am sut i weinyddu gwasanaethau cyhoeddus yn yr ardal, er enghraifft casgliadau sbwriel, trafnidiaeth gyhoeddus leol a gwasanaethau hamdden lleol.

3. Pôl piniwn

Mae polau piniwn yn cael eu defnyddio i ddarganfod barn y cyhoedd. Fe fydd cwmnïau sy’n arbenigo mewn polau piniwn yn creu holiadur yn gofyn cyfres o gwestiynau i bobl eu hateb. Fe fyddan nhw wedyn yn coladu’r canlyniadau i greu trosolwg o farn y cyhoedd.

Mae polau piniwn yn bwysig dros ben i bleidiau gwleidyddol ac i’r llywodraeth, gan eu bod nhw’n medru dangos pa mor boblogaidd ydyn nhw, pa mor debygol ydyn nhw o ennill yr etholiad nesaf neu beth yw barn y cyhoedd am eu polisïau.

2. Polisi

Polisïau pleidiau gwleidyddol yw’r syniadau yr hoffen nhw eu pasio i fod yn ddeddfwriaeth ar ôl ennill etholiad a ffurfio llywodraeth.

Cyn etholiad, mae pob plaid wleidyddol yn penderfynu beth yw eu polisïau ac yn eu rhoi yn eu maniffesto fel bod pobl yn gallu darganfod beth ydyn nhw.

1. Datganoli

Ystyr datganoli yw symud peth pŵer o’r canol i’r ymylon.

Yn ymarferol, mae hynny’n golygu bod Senedd y DU wedi pasio rhai o’i phwerau i Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon.

Mae datganoli wedi bod yn ganolog i wleidyddiaeth Cymru ers 1999 achos mae Senedd Cymru nawr yn gyfrifol am 20 maes, gan gynnwys iechyd, addysg a thrafnidiaeth, a oedd yn arfer bod yn gyfrifoldeb Senedd y DU.

Llinell / Line

Gwleidyddiaeth go iawn

Cynnwys Dinasyddiaeth ar gyfer 11-14 oed yng Nghymru

Gwleidyddiaeth go iawn

Gohebydd Ifanc y BBC

Cyfle i bobl ifanc 11-18 oed i rannu eu straeon a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

Gohebydd Ifanc y BBC

Easy peasy politics

Citizenship content for 11-14 year olds in Wales

Easy peasy politics

More on Gwleidyddiaeth a democratiaeth

Find out more by working through a topic