Gwleidyddiaeth go iawn: Sut mae'n gweithio

Part of Dinasyddiaeth (Cymru)Gwleidyddiaeth a democratiaeth

Cyflwyniad

Beth sy’n digwydd ar ôl i ddinasyddion bleidleisio? Gan bwy mae’r pŵer?

Senedd y Deyrnas Unedig (DU)

Senedd y Deyrnas Unedig yw’r ddwy siambr ym Mhalas San Steffan, sef Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Mae’r ddwy siambr yn bwysig iawn yn y broses ddeddfu yn y DU gan eu bod yn gwirio bod y llywodraeth yn gwneud penderfyniadau addas. Mae’r Senedd yn hynod bwerus gan ei bod yn sofran, sy’n golygu mai’r Senedd yw’r pŵer uchaf yn y DU.

San Steffan

Pan fyddi di’n pleidleisio mewn Etholiad Cyffredinol, fe fyddi di’n ethol Aelod Seneddol (AS) i dy gynrychioli yn y Senedd yn San Steffan, Llundain.

Tŷ’r Cyffredin

Fe fydd dy Aelod Seneddol di’n eistedd ar un o’r seddi gwyrdd yn Nhŷ'r Cyffredin (os yw’n lwcus – does dim digon o le i bawb eistedd!). Fe fydd dy AS fel arfer yn aelod o blaid wleidyddol ac fe fydd pob un blaid wleidyddol yn cystadlu i ennill cymaint o’r 650 o seddi â phosib ym mhob etholiad.

Graffeg yn dangos proses democratiaeth etholaethau'r DU

Tŷ’r Arglwyddi

Mae Tŷ’r Arglwyddi yn wahanol gan nad yw'r aelodau yn cael eu hethol. Mae 92 o Arglwyddi wedi etifeddu eu lle ac mae gan 26 o esgobion Eglwys Lloegr yr hawl i eistedd yno. Mae'r gweddill wedi eu hapwyntio gan y Brenin ar gyngor y prif weinidog.

Llinell / Line

Llywodraeth y DU

Daw’n amlwg pam bod pleidiau yn cystadlu mor frwd i ennill seddi yn Nhŷ’r Cyffredin wrth weld sut mae llywodraeth y DU yn cael ei ffurfio.

  • Y prif weinidog

Does dim etholiad i ddewis prif weinidog y DU fel sydd mewn rhai gwledydd eraill. Pwy bynnag yw arweinydd y blaid fwyaf yn Nhŷ’r Cyffredin sy’n dod yn brif weinidog. Felly, y blaid sydd gyda’r nifer fwyaf o seddi sy’n cipio’r swydd uchaf yng ngwleidyddiaeth y DU.

Sut mae Prif Weinidog y DU yn cael ei ddewis
  • Y Cabinet

Gan fod cymaint o waith i’w wneud wrth reoli gwlad, mae angen cymorth ar y prif weinidog. Fe fydd y prif weinidog yn dewis ASau o Dŷ’r Cyffredin ac aelodau o Dŷ’r Arglwyddi i fod yn weinidogion. Y cabinet yw’r enw ar y grŵp sy’n cynnwys y prif weinidog a’r gweinidogion pwysicaf. Gyda’i gilydd, mae gan y cabinet y pŵer i wneud holl benderfyniadau llywodraethol y DU. Y cabinet felly sy'n llywodraethu'r DU.

Daw pob aelod o’r llywodraeth o blaid fwyaf y Senedd neu o blaid sy'n rhan o glymblaid.

Mae pob aelod o’r llywodraeth yn rhan o’r Senedd ond nid yw pob AS yn rhan o’r llywodraeth.

Cofia fodd bynnag fod y llywodraeth yn atebol i’r Senedd gan mai’r Senedd sy’n sofran.

Llinell / Line

Datganoli

Ystyr datganoli yw symud pŵer o’r canol i’r ymylon. Roedd llywodraeth Lafur Tony Blair yn awyddus i ddosbarthu rhai o bwerau Senedd y DU i Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Felly, yn 1997 cynhaliwyd refferendwm yng Nghymru ac un arwahân yn yr Alban. Pleidleisiodd pobl y ddwy wlad o blaid datganoli.

O’i sefydlu yn 1999 tan Mai 2020, Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd enw Senedd Cymru ym Mae Caerdydd.

Pa bwerau?

Mae gan Senedd Cymru y pŵer i wneud penderfyniadau mewn 20 o feysydd gan gynnwys:

  • amaethyddiaeth
  • diwylliant
  • datblygiad economaidd
  • addysg
  • yr amgylchedd
  • iechyd
  • trafnidiaeth
  • llywodraeth leol
  • twristiaeth
  • yr iaith Gymraeg

Ond, fe gadwodd Senedd y DU rai pŵerau yn ôl, er enghraifft:

  • materion tramor
  • yr heddlu a chyfiawnder
  • arian cyfred
  • y mwyafrif o fudd-daliadau
  • y mwyafrif o drethi

Senedd Cymru

Rôl Senedd Cymru yw i ddeddfu, cytuno ar rai trethi Cymreig ac i sicrhau bod llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau addas.

Y system bleidleisio ar hyn o bryd

Bob pum mlynedd mae Aelodau o’r Senedd yn cael eu hethol yn Etholiadau Cymru i gynrychioli pobl Cymru. Yn yr etholiad diwethaf roedd yna 40 etholaeth yng Nghymru ac mae un aelod yn cynrychioli pob un etholaeth. Ar gyfer Etholiadau Cymru mae’r wlad hefyd yn cael ei rhannu’n bump rhanbarth ac mae pedwar person yn cynrychioli pob un rhanbarth sy’n golygu bod 20 aelod ychwanegol. Mae hyn yn gwneud cyfanswm o 60 o Aelodau o’r Senedd.

Newidiadau i’r system bleidleisio

Ym mis Mai 2024 pleidleisiodd Aelodau o’r Senedd o blaid cynyddu nifer yr aelodau a chyflwyno system bleidleisio newydd ar gyfer yr etholiad nesaf yn 2026.

O dan y system newydd bydd:

  • etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd, yn hytrach na bob pum mlynedd
  • 96 o Aelodau o’r Senedd, cynnydd o 36
  • 16 o etholaethau mwy yn lle’r 40 sydd ar hyn o bryd
  • pob etholaeth yn cael ei chynrychioli gan chwech o aelodau
  • ymgeiswyr yn cael eu hethol ar sail cyfran y pleidleisiau mae pob plaid yn ei derbyn yn yr etholaeth, yn hytrach na’r system ‘cyntaf i’r felin’ bresennol
Image caption,
Y system bleidleisio ar gyfer Etholiadau Cymru ar hyn o bryd

Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Yn debyg i lywodraeth y DU, daw aelodau llywodraeth Cymru o Senedd Cymru.

Y prif weinidog yw arweinydd y blaid fwyaf, ac mae gan y prif weinidog y pŵer i ddewis pwy fydd yn y cabinet. Fe fydd aelodau’r cabinet yn cael eu dewis o blith Aelodau o'r Senedd ac fel arfer maen nhw’n aelodau o’r blaid fwyaf neu o’r glymblaid.

Llinell / Line

Gwleidyddiaeth go iawn

Cynnwys Dinasyddiaeth ar gyfer 11-14 oed yng Nghymru

Gwleidyddiaeth go iawn

Gohebydd Ifanc y BBC

Cyfle i bobl ifanc 11-18 oed i rannu eu straeon a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

Gohebydd Ifanc y BBC

Easy peasy politics

Citizenship content for 11-14 year olds in Wales

Easy peasy politics

More on Gwleidyddiaeth a democratiaeth

Find out more by working through a topic