Beth yw bïom?
Bïomau ydy ardaloedd o’r Ddaear, ble mae’r hinsawdd, y tirlun, yr anifeiliaid a’r planhigion yn debyg.
Mae beth sydd yn byw ac yn tyfu o fewn bïom yn dibynnu ar bethau fel:
- pa mor gynnes neu oer yw hi
- pa mor sych neu wlyb yw hi
- pa mor dda mae pethau yn tyfu yn y pridd
Mae planhigion ac anifeiliaid yn dibynnu ar ei gilydd er mwyn goroesi - sef gallu aros yn fyw. Tra bod anifeiliaid yn bwyta planhigion i gael bwyd, mae’r planhigion yn dibynnu ar anifeiliaid i wasgaru eu paill a hadau fel bod planhigion newydd yn tyfu.
Fideo - Bïomau
Wyt ti erioed wedi meddwl pam dwyt ti byth yn gweld y pengwin a’r paracît gyda’i gilydd? Teigrod a thyrcwn? Gorilas a gerbiliaid? Fe fyddai hynny’n dda ei weld. Y rheswm yw bod planhigion ac anifeiliaid yn byw mewn amgylchedd sy’n eu siwtio nhw - sy'n dod â ni at fïomau.
Bïomau yw rhannau mawr o’r Ddaear sydd â’r un hinsawdd, tirwedd, anifeiliaid a phlanhigion. Fel bïom y goedwig law. Mae'r hinsawdd… wel, mae’r cliw yn yr enw. Mae’n wlyb. O ran y bywyd gwyllt, dyma'r bïom mwyaf amrywiol sy'n gartref i hanner holl fathau planhigion ac anifeiliaid y blaned.
Y twndra yw’r bïom oeraf. Mae i’w weld ger yr Arctig, ble mae’r gaeaf yn hir a’r haf yn fyr. Mae’r mamaliaid sy’n byw yno’n tyfu ffwr trwchus yn y gaeaf, tra bod yr adar… wel, mae’r adar yn gadael. Braf ar rai.
Mae bïomau diffeithdir yn sych iawn, felly mae pethau byw wedi gorfod addasu er mwyn gallu byw yno. Mewn diffeithdiroedd poeth mae planhigion fel y cactws yn medru storio dŵr, ac mae rhai anifeiliaid yn nosol ac ond yn mentro allan yn y nos pan mae hi ychydig llai cynnes.
Mae’r cyfan yn gweithio ond mae yna un broblem - ni. Mae pethau fel datgoedwigo yn newid rhai bïomau yn llwyr, ac mae’n bosib mai eu hunig obaith yw, ie… ni eto.
Rydyn ni wedi trio sawl ffordd wahanol o achub bïomau bregus fel y goedwig law - torri rhai coed yn unig, sefydlu parciau cenedlaethol, neu hyd yn oed ailblannu’r goedwig. Pa un o’r rhain sy'n gweithio orau, a sut gallwn ni berswadio pobl bod hyn yn bwysig? Wedi’r cyfan, mae pob un bïom yn unigryw. Byddai colli unrhyw un yn drychineb.
Mathau o fïomau
Dyma rai o’r prif fathau o fïomau ein planed.
Diffeithdir

Mae pob diffeithdir yn sych iawn, gan nad yw’n cael llawer o law. Mae rhai ohonyn nhw’n boeth iawn, tra bod eraill fel Antarctica yn eithriadol o oer.
Er mwyn goroesi, mae pethau byw wedi gorfod addasu i fyw yn y diffeithdir. Mae rhai anifeiliaid sydd yn byw mewn diffeithdir poeth yn cysgu o dan y ddaear yn ystod y dydd, er mwyn cysgodi o’r gwres.
Dim ond mathau arbennig o blanhigion gall oroesi o dan amodau eithafol y diffeithdir poeth. Bydd y rhain yn cynnwys y cactws a llwyni bach sy’n gallu byw mewn pridd tenau sy’n llawn cerrig.
Gall rhai anifeiliaid a phlanhigion storio dŵr er mwyn gallu goroesi.

Twndra

Mae’r twndra i’w weld yn yr Arctig ac ar ben mynyddoedd uchel. Mae’n sych, gwyntog ac oer. Yn aml, bydd y tir wedi ei orchuddio gan eira am ran helaeth o’r flwyddyn, ac mae’r haf yn fyr iawn.
Mae’r amodau yn anodd, felly does dim llawer o blanhigion nac anifeiliaid yn gallu byw yno.

Coedwig law

Mewn coedwig law mae yna goed uchel iawn, sydd fel arfer yn fytholwyrdd ac mae’n cael llawer o law. Mae coedwigoedd glaw yn tyfu ar bob cyfandir heblaw am Antarctica.
Mae’r coedwigoedd glaw yn fïomau pwysig iawn oherwydd eu bod yn gartref i hanner yr holl wahanol fathau o blanhigion ac anifeiliaid ar y blaned.

Safana
Mae’r safana wedi ei orchuddio gyda glaswellt, ac mae llwyni ac ychydig o goed yn tyfu yno hefyd.
Mae sawl gwahanol fath o safana i’w gweld o amgylch y byd. Mae safanau dwyrain Affrica yn gartref i anifeiliaid fel llewod, sebras, eliffantod a’r jiráff.
Mae llawer o lysysyddion - anifeiliaid sy’n bwyta planhigion - yn byw yma gan fod ddigon o laswellt i’w fwyta. Mae’r anifeiliaid hyn yn cael eu hela gan gigysyddion – anifeiliaid sy’n bwyta cig. Mae rhai anifeiliaid yn y safana, fel fwlturiaid a hyenas, yn garthysyddion sy'n bwyta pethau sydd wedi cael eu lladd gan anifeiliaid eraill.
Bïomau mewn perygl
Yn anffodus, mae llawer o fïomau mewn perygl o gael eu dinistrio, a pobl sy'n gyfrifol am lawer o'r difrod hwn.
Mae mwy a mwy o'r coed mewn coedwigoedd glaw yn cael eu torri i lawr. Mae peth o'r datgoedwigo Tynnu coed. Gwneir hyn weithiau fel y gellir defnyddio'r tir ar gyfer rhywbeth arall. hwn yn digwydd oherwydd bod y coed yn cael eu defnyddio ar gyfer pren. Mae hefyd yn digwydd achos bod pobl yn chwilio am adnoddau fel olew a mwynau yn y ddaear. Mae coed hyd yn oed yn cael eu clirio i wneud lle i bori gwartheg a thyfu bwyd.
Mae hyn yn cael effaith ar yr anifeiliaid sy'n byw yn y coedwigoedd glaw. Mae rhai fel yr orangutan yn wynebu difodiant oherwydd bod eu cynefin yn cael ei ddinistrio.
Ond dydy hi ddim yn rhy hwyr - mae yna ddigon o bethau rydyn ni’n gallu gwneud i helpu i amddiffyn ein coedwigoedd glaw.
Addysg
Gallwn ddysgu pawb am bwysigrwydd y coedwigoedd glaw i'r amgylchedd a'r creaduriaid sy'n byw yno.
Creu parciau cenedlaethol
Mae rheolau llym mewn parciau cenedlaethol sy’n cadw’r coedwigoedd yn ddiogel fel nad ydyn nhw yn cael eu difrodi a’u dinistrio.
Torri coed ac ailblannu
Os wyt ti’n rheoli faint o goed sy'n cael eu torri i lawr a hefyd yn plannu coed ifanc yn eu lle, mae’n bosibl cadw'r goedwig law a'r pethau sydd yn byw ac yn tyfu ynddi yn ddiogel.
Gweithgareddau
1. Ymchwilio a meddwl
Pam bod coedwigoedd glaw mor bwysig?
Ateba’r cwestiwn ar ffurf map meddwl. Dylet ti ymchwilio a chasglu gwybodaeth am goedwigoedd glaw a chyflwyno syniadau sy'n awgrymu pam eu bod mor bwysig.
Meddylia am:
- ble mae coedwigoedd glaw y byd?
- pa bethau byw sydd i'w cael yn y bïom?
- sut ydyn ni fel pobl yn defnyddio coedwigoedd glaw?
- beth yw datgoedwigo a pham mae'n digwydd?
2. Creu ffeil ffeithiau
Yn dy eiriau dy hun, cyflwyna ffeithiau a gwybodaeth am y bïomau rwyt ti wedi dysgu amdanyn nhw.
Yn dy waith, dylet ti:
- ddisgrifio'r bïom, ei amodau a'i hinsawdd
- dweud pa blanhigion ac anifeiliaid sy'n byw, tyfu a goroesi yno
- rhoi enghreifftiau o ble yn y byd mae dod o hyd i'r bïomau hyn
3. Cwis: Bïomau
More on Daearyddiaeth
Find out more by working through a topic
- count5 of 6
- count6 of 6
- count1 of 6
- count2 of 6