
Cyflwyniad
Yn ystod misoedd yr haf, mae’r moroedd oddi ar arfordir Cymru yn gartref i lawer o grwpiau o ddolffiniaid. Maen nhw’n cael eu denu gan y moroedd cynnes a’r heigiau enfawr, neu grwpiau o bysgod bach sy’n dod i fwydo yma.

Mae dolffiniaid yn greaduriaid cymdeithasol iawn. Mae gan bob un ohonyn nhw bersonoliaeth unigol, ac mae gwyddonwyr yn meddwl eu bod hyd yn oed yn gallu teimlo emosiynau, yn union fel ni. Yn wir, mae llawer o arbenigwyr yn credu bod y creaduriaid anhygoel hyn yn rhai o’r anifeiliaid mwyaf clyfar ar y Ddaear.
Ffeithiau am y teulu

- Mamaliaid yw dolffiniaid.
- Mae dolffiniaid yn byw mewn haid, neu mewn grwpiau teuluol. Mae pob haid yn gallu cynnwys mwy na 10 o aelodau.
- Fel arfer, mae dolffiniaid yn rhoi genedigaeth i un babi, neu lo. Mae lloi yn gallu nofio cyn gynted ag y maen nhw wedi cael eu geni.
- Mae’r fam a’r llo yn aros gyda’i gilydd am flynyddoedd. Mae gwyddonwyr yn meddwl bod hyn yn rhoi cyfle i’r dolffin ifanc ddysgu sut i hela a chyfathrebu’n effeithiol.
Cyfathrebu
Mae dolffiniaid yn wych am gyfathrebu. Maen nhw’n anfon negeseuon at ei gilydd drwy wichian a chwibanu. Yn ystod y 1960au, aeth gwyddonwyr ati i astudio dolffiniaid mewn caethiwed. Fe wnaethon nhw sylwi eu bod yn gallu ‘sgwrsio’ â’i gilydd, neu anfon negeseuon o un tanc i’r llall. Yn anffodus, mae’r hyn mae dolffiniaid yn ei ddweud yn dal yn ddirgelwch, gan nad ydyn ni wedi datrys cod y dolffiniaid eto.

Mae’r gwyddonydd, Dr Sarah Perry, a’i thîm o Ganolfan Bywyd Gwyllt Bae Ceredigion yn ceisio deall mwy am sut mae dolffiniaid yn cyfathrebu. Mae Sarah, a llawer o wyddonwyr eraill, wedi sylwi bod gan bob dolffin ei chwiban unigryw ei hun. Bydd dolffin yn defnyddio’r chwiban unigryw hwn fel enw iddo.
Creda neu beidio, mae Sarah a’i thîm yn dysgu bod haid o ddolffiniaid trwyn potel ym Mae Ceredigion yn siarad â’i gilydd ar draw uwch nag unrhyw grŵp arall o ddolffiniaid unrhyw le yn y byd.
Fideo: Creadur rhyfeddol y dyfnder
Darganfydda fwy am sut mae gwyddonwyr wedi gweithio gyda dolffiniaid dros y blynyddoedd a'r hyn rydyn ni'n ei wybod am sut maen nhw'n cyfathrebu â'i gilydd.
Ecoleoliad
Mae’r synau clicio uchel y mae dolffiniaid yn eu cynhyrchu yn eu helpu hefyd i symud o un lle i'r llall a dod o hyd i fwyd. Yr enw ar y broses hon ydy ecoleoliad.
Mae dolffiniaid yn gwneud cymaint â 1,000 o synau clicio bob eiliad. Pan fydd y sŵn clicio yn taro gwrthrych yn y dŵr, mae’r sŵn yn bownsio’n ôl at y dolffin fel atsain. Bydd y dolffin defnyddio’r wybodaeth hyn i weithio allan lleoliad, maint a siâp y gwrthrych.
Yr anifail mwyaf deallus yn ein moroedd

Mae gwyddonwyr wedi dysgu bod dolffiniaid yn wych am gyfathrebu, ac er eu bod yn edrych yn wahanol, maen nhw’n debyg iawn i ni. Mae dolffiniaid wrth eu bodd yn rhyngweithio â’i gilydd, a dweud y gwir maen nhw’n un o’r ychydig anifeiliaid sy’n dal i chwarae pan maen nhw wedi tyfu’n oedolion. Erbyn hyn, mae gwyddonwyr yn gwybod bod y mamaliaid anhygoel hyn yn sgwrsio â’i gilydd, yn dysgu pethau i’w gilydd, yn chwarae ac hyd yn oed yn breuddwydio pan fyddan nhw’n cysgu.
Cwis: Beth yw’r anifail mwyaf deallus yn ein cefnforoedd?
Gweithgaredd
Ledled y byd, mae gwyddonwyr a biolegwyr morol yn dal i ddysgu a chanfod mwy am sut mae dolffiniaid yn ymddwyn. Mae’r darganfyddiadau hyn yn aml yn y newyddion.
Darllena’r adroddiadau newyddion hyn i gael rhagor o wybodaeth am y creaduriaid anhygoel hyn. Bydd y dolenni hyn yn dy helpu gyda dy ymchwil. Gwna restr o’r pwyntiau newydd rwyt ti’n eu dysgu a chreu dy ffeil ffeithiau dy hun am ddolffiniaid.

Ble nesa?
Beth sy'n digwydd i blastig yn y môr?
Dysga pa effaith mae gwastraff plastig yn y môr yn ei gael ar fywyd gwyllt.

Ydy pysgota cimychiaid yn gallu bod yn gynaliadwy?
Sut mae pysgota wedi newid yng Nghymru, a pha effaith mae'n ei gael ar y gadwyn fwyd?

Cynaliadwyedd 8-11 oed
Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed

More on Bywyd gwyllt
Find out more by working through a topic
- count1 of 5