Grymoedd, gofod ac ymbelydredd: Video playlist

Part of FfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Now playing video 1 of 1

Sêr màs isel a màs uchel

Description

Mae Sophie yn gwrando ar gerddoriaeth wrth y safle bws. Mae merch o’r enw Elyse yn dechrau siarad â hi. Mae Sophie yn gofyn i Elyse o le mae hi’n dod. Mae Ada, ap gwyddoniaeth Sophie, yn camddehongli sgwrs Sophie ac Elyse. Mae Ada yn dechrau chwilio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i ateb i’r cwestiwn “o le wyt ti’n dod?”. Ar ôl dehongli’r cwestiwn yn llythrennol, mae Ada yn egluro tarddiad yr holl elfennau yn y bydysawd. O elfennau llai mewn sêr màs isel, i’r elfennau mwy sy’n cael eu creu pan fydd sêr màs uchel yn ffrwydro i uwchnofâu. Eglurir y cyfnodau allweddol yn ffurfiant elfennau ynghyd â gallu sêr i greu elfennau newydd gan ddibynnu ar eu maint cymharol.

Classroom Ideas

Defnyddiwch yr animeiddiad i gymharu sêr o wahanol feintiau â ffatrïoedd o wahanol feintiau. Drwy ddefnyddio’r wybodaeth o’r animeiddiad, eglurwch mai uwchnofâu yw’r tarddiad dosbarthu ar gyfer yr holl elfennau trwm. Penderfynwch pa un yw’r cyfnod pwysicaf yn oes seren, ac eglurwch pam mai hwn yw’r cyfnod pwysicaf yn eich barn chi.Trafodwch ba gyfnod o oes seren a alluogodd fywyd ar y Ddaear, a phlanedau eraill. Gall disgyblion haen uwch gasglu cynhwysion ar gyfer cacen, a disgrifio sut mae gwahanol gynhwysion yn gallu gwneud cynnyrch bwyd (elfen) newydd etc. Gofynnwch i’r disgyblion ddisgrifio sut mae eu cynhwysion unigol ar gyfer eu cacen yn cymharu â’r ffordd y mae seren yn ffurfio. Gall y disgyblion ddisgrifio eu cydweddiad eu hunain ar gyfer sêr o wahanol feintiau’n gwneud elfennau newydd. Er enghraifft, stadia o wahanol faint yn creu sŵn cryfach, h.y. elfennau mwy o faint.