Mae Jerry ac Albert yn coginio pasta ar gyfer ciwb. Faint o basta fydd yn ei llenwi?
Sut i gyfrifo cyfaint
Chi'ch dau'n paratoi bwyd nawr y'ch chi?
Ah mae hi eisiau'r sbageti!
Wel, os ydych chi'n mesur y ciwboid yma i ddarganfod ei chyfaint gallwn ni gyfrifo'n union faint o fwyd sydd ei angen arni i'w llenwi!
Mae'n naw centimetr o uchder, chwe chentimetr o led, a deg centimetr o ddyfnder.
Trwy wybod ei huchder, ei lled a'i dyfnder gallwn gyfrifo beth yw ei chyfaint.
Dim ond lluosi'r uchder gyda'r lled gyda'r dyfnder sydd angen ei wneud.
Naw lluosi chwech yw 54.
Lluoswch hyn 'da deg ac fe gewch chi 540.
Felly, cyfaint ein ciwboid yw 540 centimetr ciwbig.
Da iawn!
Ry ni'n gwybod yn union faint sydd angen arni i'w llenwi.
Dim ond y pwdin sy' ar ôl nawr!

Sut i gyfrifo cyfaint
Uchder × lled × dyfnder = cyfaint
Os yw’r uchder, y lled a’r dyfnder wedi’u mesur mewn cm, bydd yr ateb mewn cm³.
Os yw’r uchder, y lled a’r dyfnder wedi’u mesur mewn m, bydd yr ateb mewn m³.

More on Mesurau ac arian
Find out more by working through a topic
- count6 of 6
- count1 of 6
- count2 of 6
- count3 of 6