Mae Peniog yn breuddwydio am gar newydd ond yw e'n gallu ei fforddio?
Beth yw gwneud penderfyniadau ariannol?
ADRODDWR Breuddwydio am gar newydd ffansi wyt ti Peniog?
Ond sut fyddi di'n gallu ei fforddio?
Na, na, na Peniog. Dyw arian ddim yn tyfu ar goed!
PENIOG Aaaaaaw.
ADRODDWR Rhaid i ti feddwl am faint o arian sydd gen ti a faint wyt ti'n gallu fforddio ei wario.
Beth petai ti angen prynu rhywbeth arall?
Rhywbeth pwysig? Fel bwyd…?
…gwres…
…neu bethau eraill ti'n eu mwynhau?
Mae cynllunio beth wyt ti'n ei wneud gyda dy arian a faint wyt ti'n gallu cynilo yn cael ei alw'n gyllido.
Byddi di'n gallu cadw golwg ar faint wyt ti'n ei wario…
…a chynilo ar gyfer rhywbeth wyt ti eisiau.
Gan adael digon i brynu'r pethau rwyt ti eu hangen.
Mae arian yn beth pwysig i ymennydd llwglyd ei ddeall.
Mae'n bwysig ei gadw'n saff.
Da iawn! Be fyddet ti'n ei wneud 'da car smart ta beth?
Does dim dwylo 'da ti!
PENIOG Peeeeeniog!

Beth yw angen ac eisiau?
Cyn gwneud cyllideb, meddylia’n ofalus am beth rwyt ti ei eisiau a beth rwyt ti ei angen.
Anghenion yw’r pethau mae’n rhaid i ni eu cael i fyw, fel bwyd, dillad a lle i fyw.
Pethau y bydden ni’n hoffi eu cael yw’r pethau rydyn ni eu heisiau, er enghraifft gêm neu degan newydd – neu gar crand! Gallwn ni fyw heb bethau rydyn ni eisiau.
Wyt ti’n gwybod beth rwyt ti ei angen a beth rwyt ti ei eisiau? Llunia restr o’r ddau beth.

More on Mesurau ac arian
Find out more by working through a topic
- count1 of 6
- count2 of 6
- count3 of 6
- count4 of 6