Beth yw cyfaint?

Part of MathemategMesurau ac arian

Ciwb gyda'r mesuriadau 1cm ar ei hyd, led ac uchder.

Cyfaint / Volume

Cyfaint yw faint o le mae siâp 3D yn ei lenwi.

Mae bloc cm ciwbig yn llenwi 1 cm ciwbig. Rydyn ni’n ysgrifennu hynny fel hyn: 1 cm³.

Gelli di weithio allan beth yw cyfaint siâp drwy luosi uchder × lled × dyfnder.

Os yw’r siâp wedi’i wneud o flociau cm ciwbig, gelli di gyfri’r ciwbiau i ganfod cyfaint y siâp.

Ciwb gyda'r mesuriadau 1cm ar ei hyd, led ac uchder.

More on Mesurau ac arian

Find out more by working through a topic