Lluniau: Clapio wyau ar Ynys Môn
Ffynhonnell y llun, Menter Môn
Mae 'clapio wyau' yn hen draddodiad sy'n gysylltiedig ag Ynys Môn.
Byddai mynd i glapio (neu glepio) cyn y Pasg yn arfer poblogaidd gan blant yr ynys - gan ddefnyddio teclynnau (clapiau) pren.
Byddai'r plant yn mynd o amgylch y ffermydd lleol (neu unrhyw dyddyn lle cedwid ieir) yn curo ar ddrysau, yn ysgwyd y clapwyr ac yn adrodd rhigwm bach tebyg i hwn:
Clap, clap, os gwelwch chi'n dda ga'i wŷ
Geneth fychan (neu fachgen bychan) ar y plwy'
A dyma fersiwn arall o'r pennill gan Huw D. Jones o'r Gaerwen:
Clep, Clep dau wŷ
Bachgen bach ar y plwy'
Byddai'r drws yn cael ei agor a'r hwn y tu mewn i'r tŷ yn gofyn "A phlant bach pwy 'dach chi?" Ar ôl cael ateb, byddai perchennog y tŷ yn rhoi wŷ yr un i'r plant.
Mae Menter Môn yn parhau â'r traddodiad, a dyma 'chydig o luniau o'r clapio wyau hyd yma eleni yn Llannerch-y-medd, Llanbedrgoch a Gaerwen.
Ffynhonnell y llun, Menter Môn
Ffynhonnell y llun, Menter Môn
Ffynhonnell y llun, Menter Môn
Ffynhonnell y llun, Menter Môn
Ffynhonnell y llun, Menter Môn
Ffynhonnell y llun, Menter Môn
Ffynhonnell y llun, Menter Môn
Ffynhonnell y llun, Menter Môn
Ffynhonnell y llun, Menter Môn
Ffynhonnell y llun, Menter Môn
Ffynhonnell y llun, Menter Môn
Ffynhonnell y llun, Menter Môn
Ffynhonnell y llun, Menter Môn
Ffynhonnell y llun, Menter Môn
Ffynhonnell y llun, Menter Môn