Yr athletwr o Wynedd a sefydlodd Marathon Llundain

john disleyFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Y penwythnos yma bydd 56,000 o bobl yn rhedeg ar strydoedd Llundain ar gyfer marathon flynyddol y ddinas - y 45fed tro i'r ras gael ei chynnal.

Mae'r marathon yn atyniad enfawr ers 1981 pan sefydlwyd y ras gan ddau ŵr - John Disley a Chris Brasher. Roedd John Disley yn dod o Gorris, Sir Feirionnydd, ble cafodd ei eni yn 1928.

Ar raglen Dros Ginio ar 25 Ebrill, bu Stephen Edwards, cynhyrchydd teledu a threfnydd Ras yr Wyddfa, yn trafod cyfraniad helaeth John Disley.

"Nes i gwrdd â John pan o'n i'n 12 neu 13 oed, ac mae'r diolch i Ken Jones 'nath sefydlu Ras yr Wyddfa. Roedd pawb yn helpu efo hynny, pawb yn dod at ei gilydd mewn rhyw ddigwyddiad cymunedol.

"Roedd o'n 'nabod Ken, a 'nath Ken ei wneud o'n llywydd ar Ras yr Wyddfa, felly dyna pryd nes i gwrdd â fo tro cyntaf. Roedd pawb yn dod yn eu dillad gwaith, dad yn ei ddillad Manweb, ac eraill llawn oil ag ati, a dyna ble roedd John yn ei siwt – ac o'n i'n meddwl 'rargol pwy di'r dyn yma?!'"

Disgrifiad,

John Disley, un o sylfaenwyr Marathon Llundain

Athletwr Olympaidd

Bu farw John ym mis Chwefror 2016, yn 87 mlwydd oed wedi cyfnod byr o salwch. Mae ei yrfa fel athletwr yn eithaf adnabyddus - roedd yn aelod o dîm Prydain yng Ngemau Olympaidd Haf 1952 yn Helsinki, yn y ras ffos a pherth (steeplechase) 3000 metr, gan ennill medal efydd.

Fe dorrodd record Prydain yn y ras ffos a pherth dros ddwy a phedair milltir, gosod record Gymreig mewn rasys chwe phellter gwahanol ac fe dorrodd y record ar gyfer croesi pob copa Cymreig dros 3000 troedfedd.

Cynrychiolodd Disley Gymru ddwywaith yng Ngemau'r Gymanwlad, gan gystadlu yn 1954 a 1958, ond ni enillodd unrhyw fedalau.

"Mae fel rhyw gwestiwn pub quiz dydi", meddai Stephen, "os 'sa chi'n gofyn pwy nath sefydlu Marathon Llundain bysa 99% yn deud Cris Brasher, a 'sa neb callach mai Cymro oedd yn rhan ohono. Odd o'n agoriad llygad i mi ei gyfarfod o, a dyna pam ma'r galon gen i i roi'r stori allan.

"Mae pawb efo stori i'w ddweud a phawb efo stori wahanol, ac mae hwn yn Gymro a sefydlodd Marathon Llundain a mwy, a does 'na ddim llawer o bobl yn gwybod amdano fo."

john disleyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y ddau a sefydlodd Marathon Llundain yn rasio yn erbyn ei gilydd yn 1956 - John Disley ar y blaen yn gwisgo crys rhif 2 a Chris Basher yn ei ddilyn yng nghrys rhif 4. Enillodd Disley y ras mewn amser o 8 munud 46.6 eiliad gan osod record Brydeinig newydd

DisleyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gemau Olympaidd 1952; John Disley ar y dde yn y trydydd safle, Vladimir Kazantsev o'r Undeb Sofietaidd ar y chwith a orffennodd yn ail, ac enillydd y ras, Horace o'r U.D.A, yn y canol

Esboniai Stephen fod John yn ddyn diymhongar a'i fod wedi ei gyfweld ar ffilm tua degawd yn ôl.

"Tua 10 mlynedd yn ôl nes i raglen i Radio Wales o'r enw The Welshman who got Britain running, am hanes John Disley. Bob tro dwi'n gwneud rhaglen radio dwi'n ei ffilmio fo rhag ofn, achos ti byth yn gwybod nagwyt.

"Mi roedd ganddo fo fwthyn bach wrth ymyl Tŷ Hyll yng Nghapel Curig, a doedd o 'rioed 'di rhoi interview am hyn i neb, ac mae hwn gen i dal i fod, a does 'na neb 'di ei weld o.

"O'dd o'n siarad fel 'sa fo'n un ohonon ni'n cael sgwrs mewn tŷ tafarn. Roedden ni o flaen tân a'r memorabilia 'ma i gyd ar y waliau – bwyell o Everest a'i fedalau i gyd."

Stephen EdwardsFfynhonnell y llun, Stephen Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Stephen Edwards, cynhyrchydd teledu a threfnydd Ras y Wyddfa, sy'n llawn edmygedd o waith a bywyd John Disley

Sefydlu Marathon Llundain

"Roedd o a (Chris) Brasher wedi rasio efo'i gilydd pan oedden nhw yn y coleg, ac o'dd o fel rhyw pacemaker i Roger Bannister.

"Roedd y berthynas rhyngddo fo a Chris yn dda, roedden nhw'n ffrindiau mawr ac yn cydweithio'n dda efo'i gilydd. A'th John allan i New York i redeg Marathon fan'no a meddwl 'beth am i ni neud un yn Llundain?'.

"Dwi'n cofio fo'n dweud wrtha i fod o 'di gorfod mynd rownd Llundain gymaint o weithiau i ail-fesur y cwrs oedd o'n cofio'n union pwy oedd allan yn rhoi dillad ar y lein a phryd oedden nhw'n gwneud hynny."

marathon llundainFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedir bod 840,318 o bobl wedi ceisio am le ym Marathon Llundain eleni, gyda 56,000 yn ddigon ffodus i hawlio lle

Dywed Stephen fod dylanwad John Disley yn bellgyrhaeddol.

"Mae'n adnabyddus am sefydlu Marathon Llundain, ond 'nath o hefyd sefydlu British Orienteering gyda'i wraig, oedd yn rhedwraig yng Ngemau'r Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad. 'Nath o ei hun orfod troi lawr y cynnig o daith i ddringo Everest am fod o'n rhedeg yng Ngemau'r Gymanwlad.

"Fo sefydlodd ganolfan awyr agored Plas Y Brenin – cafodd y beint olaf yn y gwesty blaenorol cyn iddo gau, a 'nath o weithio efo'r cynghorau ar Blas Y Brenin. Roedd o'n rhan o'r cwmni Reebok, a 'nath o hefyd achub eglwys fechan wrth ochr Plas Y Brenin yng Nghapel Curig rhag cau, ac yno mae wedi ei gladdu."

Dywed Stephen ei fod mewn cysylltiad gyda Kate, merch John, a'r gobaith ydy i ariannu prosiect i greu ffilm am ei fywyd.

Gyda dylanwad John Disley mor amlwg mewn sawl maes yng Nghymru a thu hwnt, bwriad Stephen ac eraill yw parhau i ddathlu gwaddol ei waith.

disleyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

John Disley gyda Paula Radcliffe a'r Tywysog Harry yn Llundain, 2015

Pynciau cysylltiedig