Y Rebels a'r Rhyfelwyr; rhai o dimau chwaraeon coll Cymru
- Awdur, Gareth Rhys Owen
- Swydd, Chwaraeon BBC Cymru
Mae perfformiadau siomedig diweddar timau rygbi rhanbarthol a chenedlaethol Cymru wedi ail ddechrau'r drafodaeth am ddiddymu un, efallai dau o'r rhanbarthau.
Ond pe bai rhanbarth yn diflannu, nid dyma fyddai'r tro cyntaf i dîm chwaraeon o Gymru ddod i ben.
Gareth Rhys Owen sy'n hel atgofion am rai timau Chwaraeon sydd bellach yn rhan o'r llyfrau hanes...
Y Rhyfelwyr Celtaidd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Roedd y Rhyfelwyr yn un o bum rhanbarth a ffurfiwyd yn 2003 wrth i Brif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru David Moffett drawsnewid y gêm yng Nghymru.
Uno anghyfforddus ydoedd o dimau Pontypridd a Phen-y-bont, trefniant nad oedd wrth fodd nifer o'r cefnogwyr mwya' teyrngar. O fewn pen dim aeth clwb Pontypridd i'r wal gyda'r rhanbarth yn symud i Ben-y-bont yn barhaol.
Er i'r tîm greu argraff ar y cae a gorffen yn bedwerydd yn y gynghrair Geltaidd, roedd y torfeydd yn siomedig a'r gwrthdaro rhwng y perchennog Leighton Samuel ac Undeb Rygbi Cymru yn ddiddiwedd.
Dim ond am flwyddyn yn unig y bodolodd y Rhyfelwyr Celtaidd, ond dau ddegawd yn ddiweddarach mae'r hanes yn parhau i gorddi'r dyfroedd ymhlith cefnogwyr ar lawr gwlad yng Nghymru.
Inter Cardiff
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Dyma un o gewri dyddiau cynnar Cynghrair Cymru. Fe orffennodd y tîm o Leckwith yn ail yn y gynghrair bedair o weithiau yn y 90au.
Ffurfiwyd yn 1990 wedi i Cardiff AFC a Sully FC uno gyda'i gilydd ac o fewn dwy flynedd roedd y clwb yn un o ugain tîm yn nhymor cyntaf Cynghrair Cymru.
Erbyn 1997 roedd y clwb wedi ei ail enwi ar ôl y perchnogion a noddwyr a chroesawodd Inter Cable Tel gewri'r Alban, Celtic i Gaerdydd yng nghwpan UEFA.
Tair mlynedd yn ddiweddarach cefnodd CableTel ar y clwb. Gan wynebu dyfodol ariannol ansicr penderfynwyd uno gyda thîm prifysgol Caerdydd. Mae'r enw Inter wedi hen ddiflannu, ond mae Met Caerdydd yn parhau i gystadlu yn haen uchaf pêl droed Cymru.
Rhondda Rebels
Ffynhonnell y llun, Laurence Griffiths
Am gyfnod ar ddechrau'r mileniwm, cadarnle pêl fasged Prydain oedd canolfan hamdden Tylorstown, Cwm Rhondda.
Mae stori'r Rhondda Rebels yn un chwedlonol gyda'r tîm yn disgleirio am ddegawd gyntaf y ganrif. Gyda'r seren Americanaidd Missy Lender casglodd y tîm 14 o dlysau mewn 9 tymor gan gynnwys coron driphlyg yn 2001.
Wedi problemau ariannol yn 2008 fe wnaeth y tîm uno gyda Barking Abbey, oedd wedi lleoli 200 milltir i ffwrdd ond mae effaith a dylanwad y tîm i'w weld hyd heddiw.
Y tro nesaf y gwelwch chi fewnwr Cymru a Chaerloyw Tomos Williams yn trin y bêl gron fel LeBron James, cofiwch bod ei fam, Julie yn un o ffigyrau dylanwadol y Rebels.
Newport Wasps
Ffynhonnell y llun, Defunct speedway
Cyhoeddwyd yn gynharach eleni na fydd Caerdydd yn cynnal rownd o Grand Prix Speedway'r byd am y tro cyntaf yn y mileniwm yma. Daw hyn a chysylltiad y gamp a Chymru i ben. Mae'r berthynas wedi bodoli ers y 60au, diolch yn bennaf i glwb y Newport Wasps.
Wedi ei lleoli'n wreiddiol ym mharc pêl-droed Sommerton ac yna ar drac pwrpasol Parc Hayley roedd y Picwns yn un o gonglfeini'r gamp ym Mhrydain.
Hawliodd y tîm nifer o dlysau nodedig ac roedd yn gartref i rai o sêr rhyngwladol y gamp megis Phil Crump o Awstralia.
Er i'r Wasps ennill cwpan yr uwch-gynghrair yn 2011, roedden nhw yn colli £3,000 yr wythnos a bu'n rhaid dirwyn y busnes i ben. Misoedd yn ddiweddarach cafodd y trac ei fandaleiddio a dyna oedd diwedd y daith i Speedway a Chasnewydd.
Swansea Dragons
Ffynhonnell y llun, South Wales Warriors
Yn 1982 fe ddechreuodd Channel 4 ddarlledu'r NFL, ac fe sbardunodd hyn garwriaeth newydd rhwng ein cenedl a Phêl-droed Americaniad.
Wrth i wylwyr bendroni os mai'r LA Raiders neu'r Houston Oilers oedd y tîm i gefnogi ar ochr arall yr Iwerydd, cafodd timau eu sefydlu yng Nghymru hefyd. Roedd y Swansea Dragons yn chwarae yn stadiwm Morfa ac yn herio timau megis y Fulham Cardinals a'r Swindon Steelers.
Nid y Dreigiau oedd yr unig dîm Gridiron yng Nghymru gyda Chaerdydd yn gartref i'r Mets a'r Tigers tra bo'r Mustangs yn cynrychioli Casnewydd. Erbyn y 90au roedd diddordeb yn y gamp yn dechrau pylu a gwelwyd y timau yn rhoi eu helmedau i'r naill ochr.
Mae'r South Wales Warriors yn parhau i chwarae heddiw yn Llanharan, tra bod timau prifysgol Caerdydd, Abertawe ac Aberystwyth hefyd yn cystadlu yng nghynghreiriau'r colegau.