Crynodeb o’r asesiad
Bydd yr arholiad hwn yn profi dy sgiliau darllen ac ysgrifennu. Yn Adran A bydd rhaid i ti ateb ystod o gwestiynau yn seiliedig ar destunau darllen. Bydd y darnau darllen yn ddarnau Trafod, Perswâd a Chyfarwyddiadol.
Yn Adran B bydd rhaid i ti ysgrifennu dau ddarn. Gallant fod naill ai’n dasgau trafod neu perswadio.
Mae’r papur werth 70 o farciau:
- 30 marc ar gyfer y darllen
- 40 marc ar gyfer y ddwy dasg ysgrifennu
Perswâd
Beth yw gofynion testun sydd yn perswadio?
- Mae angen i ti berswadio darllenydd i gytuno â dy farn di.
- Mae angen i ti ysgrifennu yn y person cyntaf.
- Mae angen nodi beth yw’r testun, ysgrifennu cyfres o bwyntiau i ddadlau a chrynhoi ar ddiwedd y darn.
- Rhaid i ti gynnwys rhesymau i gefnogi dy farn.
- Os wyt ti’n cyfarch y darllenydd dylet ti wneud hynny yn uniongyrchol.
- Defnyddio amser presennol y ferf.
Mathau o ffurfiau ysgrifennu perswadiol:
- llythyr
- e-bost
- hysbyseb
- poster
- araith
- blog
Cofia feddwl am y canlynol wrth ysgrifennu’n berswadiol:
- ffurf - ym mha ffurf wyt ti’n ysgrifennu (erthygl, ymson, portread, llythyr, stori ayyb)?
- cynulleidfa - ar gyfer pwy wyt ti’n ysgrifennu (plant, oedolion, dynion, menywod ayyb)?
- pwrpas - pam wyt ti’n ysgrifennu (i berswadio, dadlau, adolygu ayyb)?
- arddull - sut wyt ti’n ysgrifennu (ffurfiol, siaradus, difrifol, comig, bratiaith ayyb)?