Crynodeb o’r asesiad
Bydd yr arholiad hwn yn profi dy sgiliau darllen ac ysgrifennu. Yn Adran A bydd rhaid i ti ateb ystod o gwestiynau yn seiliedig ar destunau darllen. Bydd y darnau darllen yn ddarnau Trafod, Perswâd a Chyfarwyddiadol.
Yn Adran B bydd rhaid i ti ysgrifennu dau ddarn. Gall fod naill ai’n dasg trafod neu dasg perswadio.
Mae’r papur werth 70 o farciau:
- 30 marc ar gyfer y darllen
- 40 marc ar gyfer y ddwy dasg ysgrifennu
Trafod
Mae testun sydd yn trafod yn:
- cyflwyno dadleuon a gwybodaeth o wahanol safbwyntiau
- cychwyn gyda dadl ac yna defnyddio ffeithiau i’w chefnogi
- nodi dwy ochr y ddadl a nodi manteision ac anfanteision
- defnyddio amser presennol y ferf
- defnyddio iaith mynegi barn a rhesymau
Mathau o ffurfiau ysgrifennu sy’n trafod:
- traethawd
- erthygl
- blog
- araith
Cofia feddwl am y canlynol wrth ysgrifennu darn sy’n trafod:
- ffurf - ym mha ffurf wyt ti’n ysgrifennu (erthygl, ymson, portread, llythyr, stori ayyb)?
- cynulleidfa - ar gyfer pwy wyt ti’n ysgrifennu (plant, oedolion, dynion, menywod ayyb)?
- pwrpas - pam wyt ti’n ysgrifennu (i berswadio, dadlau, adolygu ayyb)?
- arddull - sut wyt ti’n ysgrifennu (ffurfiol, siaradus, difrifol, comig, bratiaith ayyb)?