Gwybodaeth am eich gosodiadau personoleiddio

Diweddarwyd y dudalen: 20 Awst 2020

Wrth sôn am ‘bersonoleiddio’, rydym yn golygu:

  • Argymell pethau rydyn ni’n meddwl y byddwch chi’n eu hoffi
  • Cofio pa mor bell aethoch chi drwy raglen (fel y gallwch ailddechrau lle’r oeddech wedi gorffen)
  • Rhoi hysbysiadau i chi am bethau rydych chi’n eu mwynhau.

Cyn y gallwn ni wneud hynny, mae angen i ni ddeall sut rydych chi’n defnyddio'r BBC, drwy edrych ar bethau fel yr erthyglau rydych chi’n eu darllen a'r rhaglenni rydych chi’n eu gwylio.

Rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni'n casglu data amdanoch chi.

Sut i ddiffodd personoleiddio

Gallwch ddiffodd ‘Caniatáu personoleiddio’ yng ngosodiadau eich cyfrif BBC.

Beth sy'n digwydd os byddwch yn diffodd personoleiddio?

  • Ni fyddwch chi’n cael argymhellion personol yn seiliedig ar bethau rydych chi wedi eu gwylio ac wedi gwrando arnyn nhw.
  • Ni fyddwch chi'n gallu cofrestru i dderbyn cylchlythyrau'r BBC wedi eu personoleiddio. Os ydych chi wedi cforestru eisoes, byddwch chi'n stopio eu derbyn.
  • Ni fyddwn ni’n cofio pa mor bell oeddech chi wedi mynd drwy raglen neu glip fideo. Felly, ni fyddwch chi’n gallu rhoi saib ar sioeau ac ailddechrau gwylio neu wrando yn ddiweddarach o lle'r oeddech chi wedi cyrraedd.
  • Byddwch yn dal i allu 'ychwanegu' pethau at eto, cael hysbysiadau, rhoi sylwadau ar straeon, a phleidleisio ar sioeau fel Strictly Come Dancing.

Sut i wneud yn siŵr bod eich gosodiad personoleiddio yn cael ei ddiweddaru ym mhob man

Pan fyddwch chi’n newid eich gosodiad personoleiddio, mae'n diweddaru ar unwaith ar y porwr gwe rydych chi’n ei ddefnyddio. Ond ni fydd yn cael ei ddiweddaru ar unwaith ar unrhyw borwr, dyfais nac ap BBC arall a ddefnyddiwch. Felly, unwaith y byddwch chi wedi newid y gosodiad mewn un porwr...

  • Ar unrhyw borwr gwe arall rydych chi’n ei ddefnyddio, gan gynnwys ar ddyfeisiau gwahanol, bydd angen i chi allgofnodi a mewngofnodi eto
  • Ar unrhyw ap BBC ar eich ffôn neu gyfrifiadur tabled, bydd angen i chi allgofnodi a mewngofnodi eto, yna cau'r ap yn llawn a'i agor eto.

A yw diffodd personoleiddio yr un fath â diffodd cwcis?

Na, maen nhw’n bethau ar wahân. Cewch ragor o wybodaeth am gwcis ar y BBC yma.

A yw diffodd personoleiddio yr un fath â diffodd hysbysiadau?

Na, maen nhw'n bethau ar wahân. Er mwyn diffodd yr hysbysiadau, cliciwch y gloch a newid gosodiadau eich hysbysiadau yno, neu ewch i osodiadau eich ap.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: