Diweddarwyd y dudalen: 13 Rhagfyr 2021
Dyma beth gewch chi pan fyddwch chi’n cofrestru gyda’r BBC. Mae'n bersonol i chi ac yn eich helpu i gael mwy gan y BBC. Byddwch hefyd angen un er mwyn defnyddio BBC iPlayer a rhai o'n apiau.
Bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei darparu wrth gofrestru yn cael ei storio yn eich cyfrif er mwyn i chi allu ei gweld neu ei newid pryd bynnag hoffech chi.
Oes gennych chi gwestiynau am eich cyfrif BBC? Dyma rai llefydd i chwilio am yr ateb:
Pam cofrestru ar gyfer cyfrif BBC?
Mae’n eich helpu i gael y gorau o’r BBC. Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi i’ch cyfrif, gallwch:
- Gwylio a gwrando ar bethau ar BBC ar-lein, gan gynnwys BBC iPlayer, BBC Sounds a pheth chwaraeon byw
- Ychwanegu rhaglenni a chynnwys i’w mwynhau’n ddiweddarach
- Cael argymhellion wedi eu teilwra i chi
- Cael hysbysiadau am bethau sydd o ddiddordeb i chi
- Rhoi sylwadau ar straeon BBC News
- Pleidleisio ar gyfer rhaglenni fel Strictly Come Dancing
- Dod yn WeatherWatcher.
Ac nid dyna’r cyfan
Pan fyddwch wedi mewngofnodi i’ch cyfrif, byddwch hefyd yn cael profiad mwy cydgysylltiedig o’r BBC. Er enghraifft, os byddwch yn rhoi saib ar raglen iPlayer ar eich ffôn, byddwch yn gallu parhau â'r gwylio o’r fan honno ar eich gliniadur.
Rhagor o wybodaeth am yr hyn mae eich cyfrif BBC yn ei roi i chi.