
Cyflwyniad
Mae’n planed ni yn cynhesu. Rydyn ni'n galw hyn yn gynhesu byd-eang, cynydd graddol yn nhymheredd y Ddaear. Mae carbon deuocsid yn un o'r nwyon sydd yn cyfrannu at y broses yma.

Mae’n cael ei adnabod fel nwy tŷ gwydr, sydd yn golygu ei fod yn dal gwres yn atmosffer y Ddaear. Wrth i’r nwyon tŷ gwydr yma gasglu, maen nhw’n creu ‘blanced’ anweledig sydd yn dal gwres o’r haul. Mae hyn yn gwneud iddi gynhesu yma ar y Ddaear, sydd yn gwneud ein tywydd yn fwy ansefydlog ac eithafol. Rydym yn galw’r broses yma yn newid hinsawdd.
Capiau iâ yn toddi
Mae cap iâHaenen dew o rew sydd yn gorchuddio ardal fawr o dir. y Ddaear yn toddi. Haenau tew o iâ ac eira ydi’r capiau iâ sydd yn gorchuddio ardaloedd mawr o dir, gan gynnwys rhannau o’r Arctig a’r Antartig.

Mae’r rhew yma sydd yn toddi yn troi’n ddŵr sydd yn golygu fod yna fwy o ddŵr yn y môr. Mae’r dŵr ychwanegol yma yn gwneud i lefelau’r môr godi ar draws y byd.
Gwylia’r ffilm Newsround yma er mwyn darganfod mwy am y rhesymau pam fod lefelau’r môr yn codi.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Os ydy lefelau dŵr yn codi, mae ardaloedd sydd yn ymyl y môr yn gallu dioddef llifogydd neu hyd yn oed cael eu gorchuddio yn gyfan gwbl gan ddŵr. Mae cymunedau yn gweithio’n galed i adeiladu amddiffynfeydd llifogyddSystemau sydd yn cael ei defnyddio i leihau neu stopio difrod gan ddŵr llifogydd., ac weithiau yn symud eu cartrefi hyd yn oed fel eu bod yn bellach oddi wrth y môr.
Cymru
Mae lefelau’r môr yn codi yma yng Nghymru hefyd. Os ydy newid hinsawdd yn parhau, erbyn y flwyddyn 2100, mae arbenigwyr yn rhagweld y gallai lefelau dŵr godi hyd at ddau fedr. Bydd hyn yn effeithio ar sawl ardal ar yr arfordir.

Mae'n debygol mai pentref arfordirol o'r enw Fairbourne, yng nghanolbarth Cymru, fydd y lle cyntaf yng Nghymru i weld effaith ddifrifol newid hinsawdd. Cafodd y pentref ei adeiladu ar dir corsiog (marshy), isel yn union ar lan y môr.
Cafodd morglawdd ei hadeiladu er mwyn gwarchod y pentref rhag y môr. Mae’r cyngor lleol yn poeni, wrth i lefelau'r môr barhau i godi, y bydd y morglawdd hon yn rhy ddrud i'w chynnal yn y dyfodol a sicrhau bod y morglawdd yn gwneud ei gwaith o amddiffyn y pentref. Mae hyn yn golygu y gallai'r pentref gael ei datgomisiynuRhywle yn cau a pheidio â bodoli mwyach. a gallai pobl orfod symud o’u cartrefi a byw yn bellach oddi wrth y môr.
Fideo: Effaith newid hinsawdd ar Fairbourne yng nghanolbarth Cymru
Wyt ti’n gwybod pa heriau sy'n wynebu pobl Fairbourne yng nghanolbarth Cymru?
Rhyngwladol
Mae cymunedau ar draws y byd yn gorfod newid ac addasu eu ffordd o fyw am fod lefelau’r môr yn codi. Ar ynys Fiji yn y Môr Tawel mae sawl pentref wedi cael eu gadael yn wag, adeiladau wedi cael eu difetha a thir fferm wedi diflannu o dan y tonnau.
Beth allwn ni ei wneud?
Mae pob un ohonon ni'n gallu helpu i leihau ein hôl troed carbon. Mae hyn yn golygu gollwng llai o garbon deuocsid i’r amgylchedd.
Sut allwn ni wneud hyn?

- Ailgylchu mwy


- Defnyddio ceir yn llai aml


- Diffodd goleuadau pan nad ydym ni eu hangen nhw


- Rhannu’r neges – mae pob un ohonon ni yn gallu helpu

Cwis: Sut mae newid hinsawdd yn newid glan môr?

Ble nesaf?
Pwy yw ysglyfaethwyr y Môr Celtaidd?
Dysga am y gwahanol greaduriaid sy'n byw yn nyfnderoedd y môr o amgylch Cymru.

Beth yw plancton a pham mae e mor bwysig?
Oeddet ti'n gwybod bod plancton sy'n ymglymu gyda'i gilydd mewn grwpiau mawr yn cael eu galw'n or-dyfiant plancton?

Cynaliadwyedd 8-11 oed
Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed

More on Hinsawdd
Find out more by working through a topic
- count1 of 2