
Cyflwyniad
Efallai fod hwn yn edrych fel planhigyn morol cyffredin iawn, ond oeddet ti’n gwybod bod gan forwellt (seagrass) rym enfawr i wrthdroi’r newid yn yr hinsawdd?

Mae’r glaswellt cyffredin hwn, sy’n tyfu ar wely’r môr, wedi cael ei ddisgrifio fel ‘planhigyn gwyrthiol’. Mae ganddo’r gallu anhygoel i amsugno nwy carbon deuocsid o’r atmosffer.
Mae gwyddonwyr wedi darganfod bod gan forwellt rôl hanfodol i’w chwarae yn y frwydr i wrthdroi newid hinsawdd.
Pam mae hyn yn bwysig?
Mae ein planed yn cynhesu. Rydyn ni'n galw hyn yn gynhesu byd-eang. Mae carbon deuocsid yn un o'r nwyon sy’n cyfrannu at y broses hon.
Mae’n cael ei alw’n nwy tŷ gwydr, sy’n golygu ei fod yn dal gwres yn atmosffer y Ddaear. Wrth i’r nwyon tŷ gwydr hyn gronni, neu ymgasglu, maen nhw’n ffurfio ‘blanced’ anweledig sy’n trapio gwres o’r Haul. Mae hyn yn achosi i'r tymheredd godi yma ar y Ddaear, sy'n gwneud ein tywydd yn annarogan (unpredictable) ac yn fwy eithafol (extreme).
Beth allwn ni ei wneud am hyn?
Mae angen i ni leihau, neu dorri i lawr ar faint o garbon deuocsid rydyn ni’n ei ryddhau i’r atmosffer. Yr enw ar hyn yw lleihau ôl troed carbon. Rydyn ni'n gallu gwneud hyn drwy leihau faint o tanwydd ffosilTanwydd sy'n gallu cael ei losgi ar gyfer ynni sydd wedi’i wneud o blanhigion ac anifeiliaid yn dadelfennu. fel olew, glo a nwy rydyn ni’n ei losgi.
Mae angen i ni hefyd leihau faint o garbon deuocsid sy’n bodoli eisoes yn yr amgylchedd. Dyma pam mae coed a phlanhigion eraill mor bwysig. Maen nhw’n amsugno carbon deuocsid o’r atmosffer, yn storio’r carbon ac yn rhyddhau ocsigen yn ôl i’r amgylchedd.
Ysgyfaint y Ddaear
Mae coedwig law'r Amazon yn ne America yn cael ei disgrifio’n aml fel ysgyfaint ein planed. Mae hyn oherwydd ei gallu i amsugno cymaint o garbon deuocsid y Ddaear a chynhyrchu ocsigen.
Mae’r coed yn amsugno carbon deuocsid o’r atmosffer, yn storio’r carbon ac yn rhyddhau ocsigen yn ôl i’r amgylchedd.
Beth yw morwellt?

Yn union fel coed a phlanhigion ar y tir, mae morwellt yn gallu amsugno symiau enfawr o garbon deuocsid o’r môr. Mae’n storio’r carbon ac yn rhyddhau ocsigen yn ôl i’r amgylchedd.
Ond mae gan forwellt hefyd oruwchbŵer (superpower). Mae’n gallu amsugno symiau enfawr o garbon deuocsid. Bob blwyddyn mae morwellt yn amsugno cymaint â 10% o garbon deuocsid y môr.
Mae’r un arwynebedd o forwellt yn gallu amsugno 35 gwaith cymaint o garbon deuocsid ag arwynebedd o goedwig law drofannol (tropical rainforest).

Mae’r gwelyau morwellt hyn hefyd yn darparu’r cynefin, neu’r cartref, perffaith i filoedd o wahanol rywogaethau (species) o anifeiliaid.
Goruwchbwerau morwellt
- Mae morwellt yn gallu tynnu carbon o’r atmosffer tua 35 gwaith yn gyflymach na choedwigoedd glaw trofannol.
- Mae morwellt yn cynhyrchu ocsigen.
- Mae morwellt yn gynefin tanddwr pwysig i filoedd o wahanol rywogaethau o anifeiliaid.
Ond mae’r cynefin tanddwr anhygoel hwn dan fygythiad. Yn y Deyrnas Unedig, mae ymchwilwyr yn credu bod tua 92% o’n morwellt wedi cael ei golli yn ystod y ganrif, neu’r can mlynedd, diwethaf.
Mae morwellt bellach mewn perygl difrifol, sy’n golygu bod yn rhaid cymryd camau i sicrhau nad yw morwelltau’n diflannu’n llwyr. Ledled y byd, mae cymunedau o wyddonwyr yn gweithio’n galed i sicrhau nad yw hyn yn digwydd.
'Project Seagrass'

Yng Nghymru, mae tîm o wyddonwyr yn benderfynol o helpu gwelyau morwellt i gael adferiad. Maen nhw'n gweithio’n galed i gasglu dros filiwn o hadau morwellt a’u hailblannu yn Dale, Sir Benfro.
Mae biolegwyr morol yn brysur yn ailblannu egin morwellt. Cyn bo hir, maen nhw’n gobeithio y bydd yr ardal yn ddôl forwellt ffyniannus (booming), fel carped ar lawr y môr sy’n amsugno tunelli a thunelli o garbon.
Fideo: Dolydd morwellt, cynefin tanddwr pwysig
Gwylia dîm 'Project Seagrass' wrth iddyn nhw ailblannu morwellt sy’n helpu i arafu newid hinsawdd.
Beth alli di ei wneud?
Gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth a helpu i leihau faint o garbon deuocsid sydd yn yr atmosffer.
- Plannu coeden gartref neu yn yr ysgol.
- Os ydy hi'n ddiogel ac yn ymarferol i wneud, beth am gerdded neu feicio i’r ysgol?
- Diffodd goleuadau a dyfeisiau trydanol.
Cwis: All morwellt arafu newid hinsawdd?

Ble nesaf?
Sut mae newid hinsawdd yn newid glan môr?
Darganfydda fwy am sut mae nwyon tŷ gwydr, cynhesu byd-eang, a'r capiau iâ sy'n toddi yn effeithio ar bentref Fairbourne yng ngogledd Cymru.

Pwy yw ysglyfaethwyr y Môr Celtaidd?
Dysga am y gwahanol greaduriaid sy'n byw yn nyfnderoedd y môr o amgylch Cymru.

Cynaliadwyedd 8-11 oed
Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed

More on Hinsawdd
Find out more by working through a topic
- count2 of 2