Sgiliau llythrennedd ddigidol byd-eang
Mae llythrennedd ddigidol yn hanfodol yn ein cymdeithas ni heddiw.
Y rhyngrwyd
Mae nifer y bobl sy’n defnyddio’r rhyngrwyd yn eu cartrefi wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y 25 mlynedd diwethaf. Mae dros 3 biliwn o bobl, sef tua 40 y cant o boblogaeth y byd, yn defnyddio dyfeisiau amrywiol i gael mynediad i’r rhyngrwyd.
Cyfryngau cymdeithasol
O ganlyniad i’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n defnyddio’r rhyngrwyd yn eu cartrefi, mae nifer y cyfryngau cymdeithasol hefyd wedi cynyddu’n sylweddol.
Offer cyfathrebu yw cyfryngau cymdeithasol sy'n ymddangos ar y we yn hytrach na mewn cyfryngau mwy traddodiadol, fel papurau newydd a’r teledu.
Mae’r safleoedd a’r rhaglenni cyfryngau cymdeithasol poblogaidd yn amrywio. Dyma enghreifftiau o rai ohonynt.
YouTube | Wikipedia | ||||
Mae defnyddwyr yn llwytho i fyny eu lluniau, ffotograffau a fideos ac yn anfon negeseuon. | Mae defnyddwyr yn postio trydariadau. Gall rhain fod yn ffotograffau, lluniau, fideos, dolenni cyswllt, a hyd at 140 nod o destun. | Mae defnyddwyr yn rhannu fideos, lluniau a ffotograffau sydd wedi eu tynnu ar ffonau clyfar. | Mae defnyddwyr yn rhannu fideos i bawb eu gweld. | Mae hwn wedi ei gynllunio ar gyfer y gymuned fusnes, er mwyn i bobl allu ffurfio cysylltiadau proffesiynol â phobl eraill. | Gwyddoniadur sydd wedi cael ei ysgrifennu ar y cyd gan y bobl sy’n ei ddefnyddio. |
Mae defnyddwyr yn llwytho i fyny eu lluniau, ffotograffau a fideos ac yn anfon negeseuon. | |
Mae defnyddwyr yn postio trydariadau. Gall rhain fod yn ffotograffau, lluniau, fideos, dolenni cyswllt, a hyd at 140 nod o destun. | |
Mae defnyddwyr yn rhannu fideos, lluniau a ffotograffau sydd wedi eu tynnu ar ffonau clyfar. | |
YouTube | Mae defnyddwyr yn rhannu fideos i bawb eu gweld. |
Mae hwn wedi ei gynllunio ar gyfer y gymuned fusnes, er mwyn i bobl allu ffurfio cysylltiadau proffesiynol â phobl eraill. | |
Wikipedia | Gwyddoniadur sydd wedi cael ei ysgrifennu ar y cyd gan y bobl sy’n ei ddefnyddio. |
Yn ôl yr amcangyfrifon mae tua 2.3 biliwn o ddefnyddwyr rhwydweithiau cymdeithasol yn bodoli ar hyd a lled y byd. Mae’r defnyddwyr hyn yn defnyddio’r safleoedd a’r rhaglenni at ddibenion personol, ac hefyd ar gyfer gwaith a busnes.