Llwyfannu Brechtaidd - parhad
Mae canu a dawnsio’n ffyrdd da o sicrhau bod y gynulleidfa’n gweld y 'theatr' ac yn cael ei hatgoffa o’r ffaith ei bod yn gwylio drama. Yn aml mewn theatr Frechtaidd mae’r gerddoriaeth a’r geiriau’n gwrthdaro, a dydyn nhw ddim yn cyd-fynd o ran arddull. Mae hyn yn pellhau’r gynulleidfa ymhellach.
Mae’n werth gwrando ar y gân Mack the Knife o’r Opera Pishyn Tair, cyfieithiad o Die Dreigroschenoper gan Brecht a Kurt Weill. Sylwch sut mae’r trefniant cerddorol a’r alaw yn ysgafn a llon ond bod y geiriau’n sinistr a thywyll. Mae hwn yn ddull nodweddiadol Frechtaidd. Mae un o linellau mwyaf enwog y gwaith hwn yn dal i apelio at gynulleidfa gyfoes: Pwy yw’r troseddwr mwyaf: y sawl sy’n dwyn o fanc neu'r sawl sy’n sefydlu un?

Montage
Nid cyd-ddigwyddiad ydy hi fod montageTechneg o’r byd ffilmiau lle mae darnau o ffilmiau gwahanol yn cael eu dewis, eu golygu a'u gosod at ei gilydd i greu cyfanwaith. yn derm y bydden ni’n ei gysylltu’n bennaf â sinema. Aeth Brecht ati’n ymwybodol i fenthyg y syniad o faes ffilmiau di-sain. Cyfres o olygfeydd byr annibynnol ydy montage, wedi eu grwpio’n union ar ôl ei gilydd ac mae’r ffordd maen nhw wedi eu cyfosod neu’n cyferbynnu yn tynnu sylw at y pynciau pwysig yn gwbl glir. Mae’r syniad hwn o olygfeydd ar wahân hefyd yn caniatáu canolbwyntio ar fanylion bach os ydy sefyllfa’r ddrama’n gofyn am hynny. Dylanwad mawr ar Brecht oedd y ffordd y dangosodd y cyfarwyddwr ffilm, Eisenstein rym montage yn y dilyniant Grisiau Odessa yn ei ffilm Battleship Potemkin ym 1925. Yn y dilyniant enwog sy’n cynnwys coets baban yn rhedeg yn rhydd mae Eisenstein yn defnyddio montage i ennyn emosiwn a thyndra yng ngwylwyr y ffilm.
