Mae’r arennau’n rheoli crynodiad y dŵr yn ein gwaed ac yn gweithio i ysgarthu gwastraff gwenwynig. Pan nad ydynt yn gweithio’n iawn, mae angen triniaeth dialysis neu drawsblaniad.
Gwylia Dr Alice Roberts yn dyrannu aren mochyn ac yn egluro adeiledd a swyddogaeth yr aren a’r system droethol. (Cynnwys Saesneg).
Y system ysgarthu – adeiledd a swyddogaeth
Mae gwaed yn cyrraedd yr aren drwy’r rhydweli arennolMae’r rhydweli arennol yn cludo gwaed i’r arennau. sy’n canghennu oddi ar yr aortaY brif rydweli sy’n cludo gwaed wedi’i ocsigeneiddio o’r galon mewn mamaliaid..
Mae’r aren yn rheoleiddio faint o ddŵr a halen sydd yn y gwaed ac yn cael gwared o wreaSylwedd gwastraff nitrogenaidd sy’n deillio o ddadelfennu proteinau. Mae’n cael ei ysgarthu mewn troeth/wrin..
Mae’r dŵr dros ben sydd wedi’i hidlo, halwynau ac wrea yn ffurfio hylif o’r enw troeth/wrinIsgynnyrch diwerth sy’n cael ei secretu gan yr arennau..
Mae troeth/wrin yn cael ei gludo i’r pledrenYr organ sy’n casglu troeth (wrin) wrth iddo gael ei gynhyrchu gan yr arennau, ac yn ei ryddhau pan mae anifail yn troethi. ar hyd tiwbiau o’r enw wreterY tiwb sy’n arwain o’r aren i’r bledren..
Mae’r bledren yn storio’r troeth/wrin tan y bydd hi’n gyfleus ei adael allan o’r corff drwy’r wrethra.
Mae’r gwaed pur yn dychwelyd i’r cylchrediad drwy’r gwythïen arennolMae’r wythïen arennol yn cario gwaed o’r arennau. ac i’r galon drwy’r fena cafaY wythïen sy’n cludo gwaed wedi’i ddadocsigeneiddio i’r galon o systemau'r corff..
Yr aren
Mae’r diagram hwn yn dangos lle mae’r rhydweli arennol yn mynd i mewn i’r aren, a lle mae’r wythïen arennol yn gadael.
Mae’r aren yn cynnwys tua miliwn o ffurfiadau o’r enw neffronUned hidlo’r aren, sydd hefyd yn cael ei galw’n diwbwl yr aren.. Mae’r neffronau hyn yn dechrau yn y cortecs yn yr aren ac yn dolennu i lawr i mewn i’r medwla ac yn ôl i’r cortecs.
Mae’r neffron yn rheoleiddio lefel y dŵr, a halwynau ac yn cael gwared wrea o’r gwaed.