Darwin a Wallace
Naturiaethwr oedd Alfred Russel Wallace a gynigiodd ddamcaniaeth esblygiad trwy ddetholiad naturiol yn annibynnol. Roedd yn edmygydd mawr o Charles Darwin, a chynhyrchodd bapurau gwyddonol gyda Darwin yn 1858. Ysgogodd hynny Darwin i gyhoeddi On the Origin of Species y flwyddyn ganlynol.


Bu Wallace yn gweithio dros y byd yn casglu tystiolaeth i gefnogi ei ddamcaniaeth esblygiadol. Mae’n fwyaf adnabyddus am astudio lliwiau rhybuddio mewn anifeiliaid, er enghraifft y glöyn aden aderyn aur (Ornithoptera croesus), yn ogystal ag am ei ddamcaniaeth am ffurfiant rhywogaethauFfurfio rhywogaethau newydd ac unigryw yn ystod esblygiad..
Yn dilyn amrywiaeth o ddarganfyddiadau sŵolegol, cynigiodd Wallace ddamcaniaeth esblygiad oedd yn cyd-fynd â’r syniadau yr oedd Darwin wedi’u cadw’n gyfrinachol heb eu cyhoeddi ers bron i 20 mlynedd. Ysgogodd hyn Darwin i gasglu ei syniadau gwyddonol a chydweithio â Wallace. Fe gyhoeddon nhw eu syniadau gwyddonol ar y cyd yn 1858.
Egwyddorion esblygiad trwy ddetholiad naturiol
Y syniad y tu ôl i ddamcaniaeth esblygiadY broses lle mae nodweddion sydd wedi’u hetifeddu yn newid mewn poblogaeth o organebau o un genhedlaeth i'r llall. drwy broses detholiad naturiol yw bod pob rhywogaethMae rhywogaeth yn cael ei defnyddio wrth ddosbarthu organebau byw, ac mae’n cyfeirio at organebau perthynol sy’n gallu rhyngfridio i gynhyrchu epil ffrwythlon. Dyma’r ail enw sy’n cael ei roi yn y system finomaidd. o bethau byw wedi esblygu o ffurfiau bywyd syml dros gyfnod o amser. Mae’r Ddaear oddeutu 4.5 biliwn mlwydd oed, ac mae tystiolaeth gwyddonol i awgrymu bod bywyd ar y Ddaear wedi cychwyn fwy na 3 biliwn o flynyddoedd yn ôl.
Detholiad naturiol
Yn ôl y ddamcaniaeth dderbyniol am esblygiad, mae’n digwydd trwy dethol naturiolY broses naturiol lle mae’r unigolion sydd wedi eu haddasu orau yn goroesi’n hirach ac yn cael mwy o epil, ac felly’n lledaenu eu nodweddion drwy boblogaeth. Goroesiad y cymhwysaf.. Dyma’r pwyntiau allweddol.
- Mae unigolion mewn rhywogaeth yn dangos amrediad eang o amrywiadY gwahaniaeth rhwng unigolion o’r un rhywogaeth. ac mae’r amrywiad hwn yn ganlyniad gwahaniaethau yn eu genynUned sylfaenol o ddefnydd genetig sy'n cael ei etifeddu oddi wrth ein rhieni. Mae'n ddarn o DNA sy'n rheoli rhan o gemeg cell - yn enwedig cynhyrchu protein. a achosir gan mwtaniadNewid i enyn neu gromosom sy’n digwydd ar hap o gamgymeriad wrth ddyblygu DNA yn ystod cellraniad, neu mae’n gallu cael ei achosi gan belydriad neu gemegion penodol. ar hap, y gellir eu hetifeddu.
- Ym mhob poblogaeth cynhyrchir llawer mwy o epil nag sy’n gallu goroesi. Mae’r gorgynhyrchiad hwn yn arwain at gystadleuaeth, ee am fwyd.
- Mae unigolion sydd â’r nodweddion mwyaf addas i’w hamgylchedd yn fwy tebygol o oroesi ac atgenhedlu. Goroesiad y cymhwysaf yw’r term cyffredin am hyn. Caiff y genynnau sy’n caniatáu i’r unigolion hyn ffynnu o fewn eu hamgylchedd eu pasio ymlaen i’w hepil, fel bod y genynnau penodol hyn yn mynd yn fwy cyffredin.
- Mae unigolion sydd wedi ymaddasu’n wael i’w hamgylchedd yn llai tebygol o oroesi ac atgenhedlu. Mae’n llai tebygol y caiff eu genynnau eu pasio ymlaen i’r genhedlaeth nesaf.
- Dros gyfnod o amser, bydd rhywogaeth yn esblygu’n raddol.
- Gall genynnau a’r amgylchedd ill dau achosi amrywiad, ond dim ond amrywiad genetig all gael ei drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.
- Os bydd dwy boblogaeth o un rhywogaeth yn mynd yn fwyfwy gwahanol o ran ffenoteipNodweddion gweledol organeb sy’n digwydd o ganlyniad i’w enynnau. nes bod dim modd iddynt bellach ryngfridio i ffurfio epil ffrwythlon, gall hyn arwain at ffurfio dwy rywogaeth.
Modelu detholiad naturiol
Gellir defnyddio’r model hwn i ddangos sut y gall detholiad naturiol ddigwydd ar sail nodwedd cuddliw mewn poblogaeth o organebau ysglyfaeth.
Dull
- Defnyddia gerdyn gwyrdd yn gefndir.
- Gosoda 20 darn o linyn gwyrdd ac 20 darn gwyn ar hap ar y cerdyn i gynrychioli poblogaethau organebau ysglyfaeth.
- Gan ddefnyddio gefel i gynrychioli ceg yr ysglyfaethwr, casgla gymaint o ddarnau llinyn ag y gallwch mewn 10 eiliad.
- Cyfrifa a chofnoda faint o ddarnau gwyrdd a gwyn sydd ar ôl.
- Gwna yr un peth ddwy waith eto.
Canlyniadau’r model
Mae’r model hwn yn dangos, er bod y ddwy rywogaeth ysglyfaeth yn cael eu hysglyfaethu, y gall y rhywogaeth â’r radd uwch o guddliw oroesi. Mewn realiti, byddai’r organebau hyn yn gallu bridio a phasio’u genynnau cuddliw ymlaen. Lle roedd dosbarthiad cyfartal o organebau gwyrdd a gwyn gynt, bellach mae deg gwaith yn fwy o’r organebau cuddliw na’r organebau heb guddliw.
Cyfyngiadau’r model
Yn y model hwn dydi’r ysglyfaeth ddim yn symud. Beth petai’r organebau gwyn yn llawer cyflymach na’r rhai gwyrdd?
Gall fod tuedd o du’r ysglyfaethwr hefyd. Gallai’r gwyddonydd sy’n dethol yr ysglyfaeth wneud hynny nid ar y sail fod rhai yn haws eu gweld, ond ar y sail ei fod yn ymwybodol o’r canlyniadau disgwyliedig.