Disgrifiad o olygfa/o le
Beth yw disgrifiad?
Mewn disgrifiad o le neu olygfa mae’n rhaid i ti beintio llun gyda geiriau. Dylet ti gyfeirio at y synhwyrau drwy nodi beth wyt ti’n ei weld, clywed, arogli, blasu neu deimlo. Mae angen i ti gynnwys nodweddion arddull amrywiol i wneud dy waith yn ddiddorol.
Iaith ac arddull disgrifiad
- Mae'n iawn ysgrifennu disgrifiad yn y gorffennol neu’r presennol.
- Mae angen i ti ysgrifennu yn y person cyntaf: gwelaf/gwelais, clywaf/clywais, aroglaf/aroglais, teimlaf/teimlais, blasaf/blasais.
- Mae angen i ti gofio treiglo’n feddal ar ôl berf gryno – gwelaf bobl, clywaf leisiau, aroglais fwg, teimlaf wynt cryf.
- Ceisia gynnwys ansoddeiriau, cymariaethau, personoli neu drosiadau diddorol.
- Rhaid i ti amrywio dechrau brawddegau.
Question
Cywira’r brawddegau canlynol.
- Clywais lleisiau yn siarad yn frwd.
- Aroglais mwg drewllyd wrth gerdded i mewn i’r ystafell.
- Teimlais gwres yr haul yn llosgi fy nghroen.
- Gwelais torf o bobl yng nghanol sgwâr y dref.
- Blasais byrgyr seimllyd.
- Clywais leisiau yn siarad yn frwd.
- Aroglais fwg drewllyd wrth gerdded i mewn i’r ystafell.
- Teimlais wres yr haul yn llosgi fy nghroen.
- Gwelais dorf o bobl yng nghanol sgwâr y dref.
- Blasais fyrgyr seimllyd.
Dyma enghraifft o ddisgrifiad o ffermdy:
Rwyf am sôn wrthych am gartref fy nain - Fferm Glan-yr-afon. Heb amheuaeth mae’n lle godidog yng nghanol prydferthwch cefn gwlad gogledd Cymru. Mi fyddai rhai yn dweud mai lle digon di-nod mewn ardal ddigon anghysbellYmhell o unrhyw le. ydyw, ond, i mi, mae’r fferm yn llawn atgofion ac mae’r ffermdy yn ddewin yn llawn hud a lledrith.
Mae’r golygfeydd hardd yn fy rhyfeddu. Wedi amgylchynu’r ffermdy mae blanced werdd gydag ambell flodyn yn ymestyn i’r haul neu ddafad yn pori. Mae’n lle cymharol dawel heblaw am ambell dractor yn chwyrnu. Wrth gamu allan o’r car gallaf glywed yr adar yn canu fel côr swynol.
Peidiwch â meddwl bod y fferm yn dawel fel y bedd drwy’r amser, mae chwerthin uchel a siarad diddiwedd fy nain a’i ffrindiau siaradus i'w glywed weithiau. Bydd briwsion y cacennau cri ffres o’r popty yn dawnsio oddi ar wefusau’r cyfeillion wrth iddynt roi’r byd yn ei le. Pan fyddwch yn cerdded trwy ddrws cul y ffermdy gallwch arogli’r bara ffres sy’n pobi yn y popty sy’n deffro rhyw deimlad bywiog yn eich corff. Mae’r ffermdy ar ei orau pan mae’r haul yn edrych lawr arno ac yn gwenu. Yn wir dyma’r lle gorau yn y byd.
Question
Edrycha ar y darn yn ofalus. Noda enghreifftiau o’r nodweddion arddull isod ynddo:
- cymhariaethau
- trosiadau
- ansoddeiriau
- personoli
Rwyf am sôn wrthych am gartref fy nain - Fferm Glan-yr-afon. Heb amheuaeth mae’n lle godidog yng nghanol prydferthwch cefn gwlad gogledd Cymru. Mi fyddai rhai yn dweud mai lle digon di-nod mewn ardal ddigon anghysbell ydyw, ond, i mi, mae’r fferm yn llawn atgofion ac mae’r ffermdy yn ddewin yn llawn hud a lledrith.
Mae’r golygfeydd hardd yn fy rhyfeddu. Wedi amgylchynu’r ffermdy mae blanced werdd gydag ambell flodyn yn ymestyn i’r haul neu ddafad yn pori. Mae’n lle cymharol dawel heblaw am ambell dractor yn chwyrnu. Wrth gamu allan o’r car gallaf glywed yr adar yn canu fel côr swynol.
Peidiwch â meddwl bod y fferm yn dawel fel y bedd drwy’r amser, mae chwerthin uchel a siarad diddiwedd fy nain a’i ffrindiau siaradus i'w glywed weithiau. Bydd briwsion y cacennau cri ffres o’r popty yn dawnsio oddi ar wefusau’r cyfeillion wrth iddynt roi’r byd yn ei le. Pan fyddwch yn cerdded trwy ddrws cul y ffermdy gallwch arogli’r bara ffres sy’n pobi yn y popty sy’n deffro rhyw deimlad bywiog yn eich corff. Mae’r ffermdy ar ei orau pan mae’r haul yn edrych lawr arno ac yn gwenu. Yn wir dyma’r lle gorau yn y byd.
- cymhariaethau - adar yn canu fel côr/yn dawel fel y bedd
- trosiadau - y ffermdy yn ddewin/blanced werdd
- ansoddeiriau - godidog/di-nod/anghysbell/hardd/tawel/uchel/ diddiwedd/siaradus/ffres/cul/bywiog/gorau
- personoli - blodyn yn ymestyn/tractor yn chwyrnu/adar yn canu/briwsion yn dawnsio/haul yn edrych lawr
Ysgrifenna ddisgrifiad byr o’r olygfa tu allan i ffenest dy ystafell wely. Rhaid i ti gynnwys:
- y pum synnwyr – clywed, gweld, arogli, blasu, teimlo
- wyth ansoddair
- tair cymhariaeth
- pedwar trosiad
- pedwar personoliad
- un cyflythreniad
- ailadrodd