Rydyn ni'n defnyddio isotopau ymbelydrol i fonitro llif gwaed, i drin canser, ar gyfer dyddio carbon ac mewn larymau mwg. Mae gan bob isotop ei hanner oes nodweddiadol ei hun.
Pan mae niwclews ansefydlog yn rhyddhau gronyn alffa neu beta, mae'r niwclews yn troi'n niwclews elfen newydd. Enw'r broses hon yw dadfeiliad ymbelydrol. Er bod dadfeiliad ymbelydrol yn digwydd ar hap, yn ystadegol, dros amser o'r enw hanner oes , bydd hanner y niwclysau ymbelydrol gwreiddiol wedi dadfeilio.
Drwy ganfod yr hanner oes, gallwn ni gyfrifo pryd bydd elfen ymbelydrolPan mae atomau ansefydlog yn rhyddhau gronynnau sy’n gallu bod yn niweidiol i bobl. yn sefydlogi.
Edrych ar y diagram.
Yn y model dadfeiliad hwn, mae'r sgwariau gwyrdd yn cynrychioli'r niwclysau gwreiddiol ansefydlog. Maen nhw'n dadfeilio ac yn troi'n sgwariau coch – yr epilniwclewsNiwclews elfen newydd sy’n cael ei ffurfio yn sgil dadfeiliad y niwclews gwreiddiol..
Mae'r broses yn digwydd ar hap. Alli di ddim dweud pryd bydd sgwâr gwyrdd yn troi'n goch, ond ar ôl pob hanner oes, bydd hanner y niwclysau gwreiddiol gwyrdd wedi dadfeilio i droi'n epilniwclysau coch.
Dim ond yr atomau gwreiddiol sydd yn y diagram hwn. Sylwa eu bod nhw'n haneru ar ôl pob hanner oes. Mae’r diagram yn dechrau ag 16 o atomau. Mae'n dangos bod nifer y niwclews gwreiddiolY niwclews gwreiddiol, ansefydlog. yn haneru bob hanner oes.
Mae'r graff hwn yn dangos patrwm dadfeiliad.
Mae gan bob isotop ymbelydrol gromlin dadfeiliad sy'n edrych fel hon, ond mae amseroedd yr hanner oesau'n gallu amrywio o eiliadau i filiynau o flynyddoedd.
Hanner oes isotop ymbelydrol yw'r amser mae'n ei gymryd i:
yr actifeddNifer y dadfeiliadau mewn elfen ymbelydrol pob eiliad. Caiff ei fesur mewn bequerelau. haneru