William Harvey
William Harvey wnaeth ddarganfod egwyddor cylchrediad y gwaed drwy’r corff.
Cyn Harvey, roedd meddygon yn derbyn syniad Galen bod gwaed newydd yn cael ei gynhyrchu gan yr iau yn lle’r gwaed oedd yn cael ei losgi gan y cyhyrau.
Daeth Harvey yn feddyg i James I (ac yn ddiweddarach i Siarl I). Roedd gan y ddau frenin ddiddordeb mewn gwyddoniaeth ac roeddent yn annog ymchwil Harvey.
Roedd hefyd yn ddarlithydd ar anatomi. Roedd yn dyrannu anifeiliaid ac yn cynnal arbrofion er mwyn cael gwybodaeth fanwl am sut oedd y system gardiofasgwlaidd (y galon a’r pibellau gwaed) yn gweithio. Bu i hynny wneud iddo wrthod syniadau Galen.

Yn 1628 cyhoeddodd An Anatomical Account of the Motion of the Heart and Blood in Animals. Yn y llyfr hwn, profodd bod y galon yn gweithio fel pwmp, a’i bod yn gyfrifol am gylchrediad y gwaed o gwmpas y corff.