Datblygiad technegau sganio yn yr 20fed ganrif
Gwellodd gwybodaeth feddygol yn sylweddol yn ystod yr 20fed ganrif. Un o’r datblygiadau cynharaf oedd y pelydr X gan Wilhelm Rontgen yn 1895. Roedd yn arbrofi â phelydrau catod a sylweddolodd y gallen nhw fynd drwy gnawd ond nid drwy esgyrn.
O fewn 6 mis roedd peiriannau pelydr X mewn ysbytai ac fe wnaethon nhw ddylanwadu’n fawr ar feddygaeth. Roedd meddygon yn gallu gweld y tu mewn i’r corff dynol am y tro cyntaf, heb orfod perfformio llawdriniaeth. Roedd y peiriannau pelydr X cyntaf yn cynhyrchu dognau uchel o ymbelydredd oedd yn arwain at sgil-effeithiau.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, bu i belydrau X achub miloedd o fywydau oherwydd bod llawfeddygon yn gallu perfformio llawdriniaethau yn fwy cywir. Ers hynny mae pelydrau X wedi cael eu defnyddio’n gyffredinol mewn ysbytai er mwyn archwilio problemau esgyrn.
Datblygiadau ers yr Ail Ryfel Byd
Uwchsain
Mae hyn yn defnyddio sŵn amledd uchel er mwyn gweld y tu mewn i’r corff, ac felly mae’n osgoi gorfod defnyddio ymbelydredd pelydr X. Mae’n cynhyrchu delweddau 3D o organau mewnol megis y galon a’r arenau, yn ogystal â chyhyrau, ac ers y 1970au fe'i defnyddiwyd i weld datblygiad babanod yn y groth.
MRI
Mae Delweddu Atseiniol Magnetig (Magnetic Resonance Imaging - MRI) yn defnyddio tonfeddi radio er mwyn creu darlun manwl o organau a meinwe ac fe’i defnyddir i ganfod unrhyw glefydau.
Sganiau PET
Mae Tomograffeg Gollwng Positronau (Positron Emission Tomography - PET) yn defnyddio llifyn arbennig sydd ag olrheinwyr ymbelydrol ynddo. Mae’r olrheinwyr yma yn cael eu chwistrellu i wythïen. Wrth i’r organau a’r meinwe amsugno’r olrheinwyr, maen nhw'n cael eu uwcholeuo o dan sganiwr PET, sy’n galluogi i feddygon archwilio clefydau megis canser a chlefyd y galon. Mae sganiau CT (tomograffeg gyfrifiadurol) yn driniaethau pelydr X sy’n cyfuno nifer o ddelweddau pelydr X gyda chymorth cyfrifiadur er mwyn cynhyrchu delweddau trawstoriadol o’r organau mewnol a strwythurau’r corff.
Mae’r holl dechnegau sganio yma wedi chwyldroi gwybodaeth feddygol, yn arbennig yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Maen nhw'n anymyrrolMae’r rhain yn dechnegau nad ydynt yn cynnwys tyllu nac agor y croen., ond maen nhw'n galluogi meddygon i ganfod clefydau yn gynt, a gwella’r gobaith o oroesi o ganlyniad i hynny.