Walkers' Wood gan Myrddin ap DafyddThemâu a mesur

Rydym yn byw mewn gwlad brydferth dros ben ac mae’r prydferthwch hwn yn denu twristiaid lu. Trafod dylanwad twristiaeth ar ein gwlad a’n hiaith a wna Myrddin ap Dafydd yn y gerdd hon.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Themâu a mesur

Un o brif themâu’r gerdd hon yw bygythiad i’n hetifeddiaeth. Mae ein gwlad a’r iaith Gymraeg dan fygythiad oherwydd dylanwadau estron. Dim ond at rai enghreifftiau y mae’r bardd yn cyfeirio, fel y llyfr Saesneg i ymwelwyr, y ‘Betws Guide’ a’r pecyn o ‘Walkers’ Crisps’.

Daw’r bygythiadau hyn ar ffurf ymwelwyr yn ogystal â mewnfudwyr oherwydd bod enwau Saesneg lleoliadau yn aml yn disodli’r enwau Cymraeg gwreiddiol. Pryder y bardd yw y bydd enw Cymraeg y coed, sef ‘Coed Llugwy’, yn araf ddiflannu oherwydd y defnydd cyson o ‘Walkers’ Wood’. Mae’r enw Cymraeg yn gyfoethocach na’r enw Saesneg am ei fod yn cyfeirio at yr afon Llugwy ac yn cyfleu perthynas agos y goedwig a’r ardal.

Darlunnir perthynas agos tad a mab yn y gerdd hon yn ogystal, wrth i’r tad fynd â’i fab am dro yn y goedwig. Gwelwn gefn gwlad Cymru ar ei orau hefyd a chyfeiriadau lu at hyfrydwch naturiol byd natur gyda’r cyfeiriadau at liwiau’r hydref:

Mae popty’r hydref wedi’u rhostio, was, / A’u taenu’n wledd ar hyd y llawr.

Darlun o gogydd gyda'r enw 'HYDREF' ar ei het, yn cymryd hambwrdd llawn dail aur, disglair, crychlyd allan o'r popty.

Mesur

Cerdd rydd mewn mydr ac odl yw hon.

Mae’r llinellau yn amrywio o ran sillafau ond mae dau guriad ymhob llinell. Mae llinell 2 a 4 yn odli ymhob pennill.

Mae Myrddin ap Dafydd yn odli geiriau Cymraeg a geiriau Saesneg ar ddau achlysur – ‘Taid’ a ‘Guide’; ‘mwd’ a ‘Wood’ er mwyn pwysleisio dylanwad y Saesneg ar yr ardal.