Nodweddion arddullAnsoddair

Nodweddion arddull yw’r technegau mae’r bardd wedi eu defnyddio yn y gerdd. Mae’n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng y nodweddion arddull er mwyn eu hadnabod a’u dyfynnu wrth ddadansoddi’r cerddi.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Ansoddair

Mae nodweddion arddull yn cael eu defnyddio i helpu bardd i ddisgrifio ei agwedd a'i deimladau tuag at y pwnc dan sylw ynghyd â disgrifio'r sefyllfa er mwyn i'r darllenwyr deimlo emosiwn arbennig wrth ddarllen y gerdd. Bydd beirdd yn defnyddio ansoddeiriau, cymariaethau, trosiadau, ailadrodd, cyflythrennu a berfau i wneud hyn. Galli di ddod o hyd i amrywiaeth o nodweddion arddull mewn cerdd.

Ansoddair

Geiriau sy’n disgrifio yw ansoddeiriau. Maen nhw’n cael eu defnyddio i ddisgrifio cymeriadau, teimladau neu’r sefyllfa. Yn y cerddi, mae ansoddeitiau yn trin ac yn disgrifio teimladau’r bardd tuag at y pwnc.

Dyma enghreifftiau o ansoddeiriau:

DyfyniadEffaith
“y ferch lwyd” (Gail fu Farw – Nesta Wyn Jones)Mae’r ansoddair yn llwyddo i ddisgrifio pryd a gwedd Gail wrth iddi orwedd yn ei gwely. Mae’r ansoddair “llwyd” yn awgrymu ei bod yn sâl iawn a’i bod yn anweledig i’r bobl o’i chwmpas.
“awr ddiddarfod” (Gweld y Gorwel – Aneirin Karadog)Mae’r ansoddair yn llwyddo i gyfleu pa mor araf mae amser yn llusgo i’r bardd tra ei fod yn y ganolfan rehab.
“Yr ugeinfed yw’r fwyaf barbaraidd ohonynt hwy i gyd.” (Y Coed – Gwenallt)Dyma ansoddair pwerus sydd yn pwysleisio pa mor ofnadwy oedd rhyfeloedd yr 20fed ganrif. Mae dyn wedi anghofio sut i drin ei gyd-ddyn ac mae Gwenallt yn awgrymu ein bod wedi ymddwyn yn anifeilaidd tuag at ein gilydd.
Dyfyniad“y ferch lwyd” (Gail fu Farw – Nesta Wyn Jones)
EffaithMae’r ansoddair yn llwyddo i ddisgrifio pryd a gwedd Gail wrth iddi orwedd yn ei gwely. Mae’r ansoddair “llwyd” yn awgrymu ei bod yn sâl iawn a’i bod yn anweledig i’r bobl o’i chwmpas.
Dyfyniad“awr ddiddarfod” (Gweld y Gorwel – Aneirin Karadog)
EffaithMae’r ansoddair yn llwyddo i gyfleu pa mor araf mae amser yn llusgo i’r bardd tra ei fod yn y ganolfan rehab.
Dyfyniad“Yr ugeinfed yw’r fwyaf barbaraidd ohonynt hwy i gyd.” (Y Coed – Gwenallt)
EffaithDyma ansoddair pwerus sydd yn pwysleisio pa mor ofnadwy oedd rhyfeloedd yr 20fed ganrif. Mae dyn wedi anghofio sut i drin ei gyd-ddyn ac mae Gwenallt yn awgrymu ein bod wedi ymddwyn yn anifeilaidd tuag at ein gilydd.

Question

Beth yw effaith yr ansoddair yn y gerdd Tai Unnos gan Iwan Llwyd?

ar lannau traffyrdd y dinasoedd llwydion, / ac yng nghesail goncrid swyddfeydd gweigion