Weithiau mae angen i ni wybod sut i gyfrifo gwerthoedd ar gyfer rhannau penodol o’r cylch. Gall y rhain gynnwys hyd arc, arwynebedd a pherimedr sector ac arwynebedd segment.
Part of MathemategGeometreg a Mesur
Save to My Bitesize
Gallwn ganfod hyd arc drwy ddefnyddio’r fformiwla:
\(\frac{\texttheta}{360} × \pi~\text{d}\)
\(\texttheta\) yw ongl y sector a \(\text{d}\) yw diamedr y cylch.
Mae gan y sector hwn arc leiaf, gan fod yr ongl yn llai na 180⁰.
Rydyn ni’n gwybod radiws y sector felly mae angen i ni ddyblu hwn er mwyn canfod y diamedr.
Yma, mae \(\text{d}\) = 24 a \(\texttheta\) = 80⁰.
Drwy amnewid y gwerthoedd hyn yn y fformiwla, cawn:
\(\text{Hyd yr arc =}~\frac{80}{360} × \pi × {24}\)
\(\text{= 16.755...}\)
\(\text{= 16.8 cm (i un lle degol)}\)
Canfydda hyd arc leiaf AB.
\(\text{Hyd yr arc =}~\frac{60}{360} × \pi × {14.6}\)
\(\text{= 7.644...}\)
\(\text{= 7.6 cm (i un lle degol)}\)
Mae’r sector hwn yn cynnwys arc fwyaf, gan fod yr ongl yn fwy na 180⁰.
Rydyn ni’n dal i ddilyn yr un broses ar gyfer y cwestiwn hwn. Paid ag anghofio dyblu’r radiws i gael y diamedr.
\(\text{Hyd yr arc =}~\frac{210}{360} × \pi × {120}\)
\(\text{= 219.91...}\)
\(\text{= 219.9 mm (i un lle degol)}\)
Canfydda hyd arc fwyaf AB.
\(\text{Hyd yr arc =}~\frac{330}{360} × \pi × {9.2}\)
\(\text{= 26.49...}\)
\(\text{= 26.5 cm (i un lle degol)}\)