Hafaliadau cromliniau - Canolradd ac UwchGraffiau cwadratig – Haen Ganolradd ac Uwch
Mae graffiau cwadratig, ciwbig ac esbonyddol yn dri gwahanol fath o graffiau crwm. Gallwn eu defnyddio i ddatrys hafaliadau sy’n gysylltiedig â’r graff.
Graff cwadratig yw unrhyw graff sydd â \(\text{x}^2\) yn ei hafaliad. Rydyn ni’n eu llunio mewn ffordd debyg iawn i graffiau llinell syth a bydd angen i ni amnewid gwerthoedd yn yr hafaliad. Bydd pob graff cwadratig ar ffurf cromlin.
Enghraifft
Rydyn ni eisiau llunio graff \(\text{y = x}^2~{+~3}\) felly bydd angen i ni gwblhau’r tabl gwerthoedd hwn: