Sut mae hawliau merched wedi datblygu?
Mae nifer o brotestiadau wedi cael eu cynnal dros hawliau merched yn ystod yr 20fed a’r 21ain ganrif. Mae’r rhain yn cynnwys protestiadau:
- dros yr hawl i bleidleisio
- dros hawliau yn y byd gwaith
- i rwystro trais yn erbyn merched
- dros yr hawl i dderbyn addysg
- dros yr hawl i berchen ar gartref
Fideo - Hawliau merched
LEAH: Helo? Helo? Ti'n gallu ‘nghlywed i?
LEAH 1916: Helo?
LEAH: Dw i mewn yn fan yma. Ti'n siarad efo fi, Leah, a coelia neu beidio, dw i’n byw yn yr 21ain ganrif. Mae lot wedi newid ers dy amser di.
LEAH 1916: Dw i erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg!
LEAH: Pa flwyddyn ydy hi efo ti?
LEAH 1916: Mae hi’n 1916 ac mae’r rhyfel wedi bod yn mynd yn ei flaen ers dwy flynedd rŵan. Mae o’n erchyll. Mae’r merched yn gweithio’n galed ar beth sydd rŵan yn cael ei alw y ‘Ffrynt Cartref’. Ni sy’n cadw’r wlad i fynd gan fod y dynion i ffwrdd yn ymladd. Ry’n ni’n gweithio’n galed ofnadwy yn y ffatrïoedd.
Hefyd, mae yna newyddion da, mae David Lloyd George newydd ddod yn Brif Weinidog a ry’n ni’n gobeithio bydd o’n cefnogi’r ymgyrch i roi’r hawl i ferched i bleidleisio. Mae o’n awyddus i bawb gael y bleidlais.
LEAH: Ti’n iawn, a dyw eich ymdrechion ddim yn ofer. Ar 6 Chwefror, 1918 cafodd menywod dros 30 yr hawl i bleidleisio.
LEAH 1916: Mae hynny'n wych, ond trueni nad oedd pob menyw yn cael pleidleisio.
LEAH: Mae arna’i ofn bod hynny wedi cymryd ychydig yn hirach, tan fis Gorffennaf 1928.
LEAH 1916: O grêt! Beth arall? Dwi eisiau gwybod mwy.
LEAH: Oce, dyma rai o’r digwyddiadau pwysig yn ein hanes ni.
Yn 1929, Megan Lloyd George oedd y fenyw gyntaf i gael ei hethol yn Aelod Seneddol yng Nghymru, yn cynrychioli Ynys Môn.
Yn 1968, aeth merched ffatri Ford yn Dagenham ar streic oherwydd tâl anghyfartal.
Yn 1979, daeth Margaret Thatcher yn Brif Weinidog, y fenyw gyntaf i gyflawni hynny.
Yn 1981, dechreuodd cyfres o brotestiadau gan ferched o Wersyll Heddwch Comin Greenham yn erbyn cadw taflegrau niwclear cruise yn RAF Comin Greenham.
Yn ystod 1984 ac 1985 teithiodd menywod i San Steffan i gefnogi'r glowyr oedd ar streic.
LEAH 1916: Mae hyn yn anhygoel! Wyt ti’n dweud wrtha i bod menyw o’r enw Margaret Thatcher wedi cael ei hethol yn Brif Weinidog yn 1979?
LEAH: Ydw. Mae rôl y ferch yn sicr wedi newid dros y ganrif ddiwethaf, hyd yn oed y ffordd ry’n ni’n gwisgo.
LEAH 1916: Wel mae hynna’n amlwg!
LEAH: Nid bod yn ‘Fam Gymreig’ berffaith yw popeth erbyn hyn. Mae merched yn cael gadael y tŷ rŵan.
Mae gen i radd o’r brifysgol a dw i’n gweithio llawn amser yn yr un swyddfa a dynion. Galli di fod yn esgob neu offeiriad rŵan hefyd.
Yn 2016, Joanna Penberthy oedd y ferch gyntaf i gael ei gwneud yn Esgob Tyddewi.
LEAH 1916: Ti’n ennill cyflog dy hun? Ti ddim jyst yn edrych ar ôl pres dy ŵr?
LEAH: Na dw i’n ennill bywoliaeth fy hun - a dw i'n cael cadw fy arian fy hun, heblaw am drethi sy’n mynd yn syth at y llywodraeth! Ry’n ni dal yn brwydro am dâl cyfartal mewn sawl math o swydd, ond heddiw mae pethau llawer gwell. Mae amseroedd cyffrous i ddod.
Y Rhyfel Byd Cyntaf
Y ffrynt cartref
Bu’r Rhyfel Byd Cyntaf yn trobwyntDigwyddiad penodol a sylweddol sy’n arwain at newid. yn yr ymgyrch am hawliau merched. Roedd llawer o’r dynion i ffwrdd yn ymladd ac fe chwaraeodd ferched rôl allweddol yn llenwi eu swyddi.
Roedd rhai merched eisoes yn gweithio mewn swyddi traddodiadol yn 1914. Ond yn pan ddechreuodd y rhyfel, roedd disgwyl i ferched fynd i weithio yn y ffatrïoedd arfau lle roedd pethau fel bwledi a sieliau yn cael eu cynhyrchu. Roedden nhw’n gallu bod yn leoedd swnllyd a pheryglus i weithio. Bu ffrwydradau mewn rhai ffatrïoedd, ac roedd croen merched yn gallu troi yn felyn wrth weithio gyda’r TNT (Trinitrotoluene)Ffrwydryn sy’n cael ei ddefnyddio mewn bomiau. oedd yn cael ei rhoi mewn bomiau. Erbyn diwedd y rhyfel yn 1918, roedd bron i filiwn o ferched yn gweithio mewn ffatrïoedd arfau.
Un o’r problemau wrth i ferched fynd i’r gwaith oedd sicrhau bod gofal plant ar gael, felly cafodd meithrinfeydd eu sefydlu am y tro cyntaf mewn rhai ardaloedd. Roedd y merched yn cyflawni pob math o waith gwahanol yn ystod y rhyfel, ee yn yr heddlu, ar fysiau ac ar drenau. Cynyddodd nifer y merched a oedd yn gweithio ar y rheilffyrdd o 9,000 i 50,000.
Ar y ffrynt
Roedd nifer o ferched eisiau chwarae rhan allweddol yn ymdrech y rhyfel. Felly, cafodd y Women’s Army Auxiliary Corps (WAAC), neu Queen Mary’s Army Auxiliary Corps, ei sefydlu yn Rhagfyr 1916. Ei bwrpas oedd denu merched i lenwi swyddi yn y fyddin nad oedd yn cynnwys ymladd, ee gweithwyr swyddfa. Yn dilyn hyn, daeth y Women’s Royal Naval Service i fodolaeth ym mis Tachwedd 1917 a’r Women’s Royal Air Force ym mis Ebrill 1918. Er nad oedd hyn yn golygu bod merched yn ymladd, roedd eu swyddi’n hollbwysig i’r rhyfel, ac ymunodd 100,000 o ferched.

Newid cymdeithasol yn dilyn y rhyfel
I lawer o ferched, daeth y cyfnod o weithio mewn ffatrïoedd ac ar y ffrynt i ben, wrth iddyn nhw ddychwelyd i’w rolau fel gwragedd tŷ a mamau. Cafodd y rhyfel effaith cymdeithasol wrth i dimau pêl-droed a rygbi merched gael eu sefydlu gan eu bod wedi mwynhau’r ochr gymdeithasol o weithio yn ystod y rhyfel.
Ar 15 Rhagfyr 1917, chwaraeodd tîm rygbi merched Caerdydd gêm yn erbyn tîm Casnewydd ar Barc yr Arfau. Fodd bynnag, daeth llawer o’r timau i ben yn ystod yr 1920au, a chafodd timau pêl-droed merched eu gwahardd rhag defnyddio caeau’r gynghrair bêl-droed yn 1921.

Merched mewn gwleidyddiaeth
Y swffragetiaid
Cafodd y Women’s Social and Political Union (WSPU) ei sefydlu gan Christabel Pankhurst a’i mam, Emmeline, ym Manceinion yn 1903. Roedden nhw’n allweddol yn yr ymgyrch i ennill yr hawl i ferched gael pleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus ym Mhrydain. Daw’r term ‘swffragét’ o suffrage neu'r Lladin suffragium, sef yr hawl i bleidleisio. Roedd eu dulliau o brotestio yn cynnwys:
- gorymdeithiau
- protestiadau y tu allan i Senedd San Steffan yn Llundain
- ymosodiadau ar weithiau celf
- clymu eu hunain i adeiladau llywodraeth Prydain
Denodd un brotest enfawr yn Hyde Park yn Llundain, 300,000 o brotestwyr yn 1908. Ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd tua 1,000 o’r swffragetiaid yn y carchar gyda nifer yn ymprydio, sef gwrthod bwyta. Daeth gorchymyn gan y llywodraeth i ryddhau’r merched cyn iddyn nhw fynd yn rhy sâl ac efallai farw.
Penderfynodd Emmeline a Christabel Pankhurst i gefnogi ymgyrch y Rhyfel Byd Cyntaf ac i beidio protestio rhwng 1914 ac 1918. Fodd bynnag, roedd un aelod o’r teulu, Sylvia Pankhurst, yn gwrthwynebu hyn a thorrodd yn rhydd o’r WSPU i barhau â’r protestio.
Un o’r Cymry pwysig oedd yn rhan o ymgyrch y swffragetiaid oedd yr Arglwyddes Rhondda. Cafodd hi ei charcharu ar ôl ceisio ffrwydro blwch postio yng Nghasnewydd a gwrthod talu’r ddirwy. Cafodd ei rhyddhau o’r carchar ar ôl iddi ddechrau ymprydio.
Ar 6 Chwefror 1918, cafodd merched dros 30 oed a oedd yn berchen ar dŷ yr hawl i bleidleisio. Fe wnaeth 8.4 miliwn o ferched bleidleisio yn etholiad 1918 ond ni chafodd pob merch dros 21 mlwydd oed yr hawl i bleidleisio tan 1928.

Newidiadau gwleidyddol
Cafodd merched eu hethol yn Aelodau Seneddol am y tro cyntaf. Cafodd Constance Markievicz ei hethol i fod yn Aelod SeneddolPerson sy’n cael ei ethol i Senedd y DU yn San Steffan. yn etholiad 1918 ac yna etholwyd Nancy Astor yn 1919. Yng Nghymru, yr Aelod Seneddol benywaidd cyntaf oedd Megan Lloyd George a gafodd ei hethol i sedd Ynys Môn yn 1929.
Yn y pen draw fe wnaeth hyn arwain y ffordd i ethol Margaret Thatcher fel Prif Weinidog benywaidd cyntaf Prydain yn 1979. Roedd 220 o’r Aelodau Seneddol a etholwyd yn etholiad cyffredinol 2019 yn ferched, sef y nifer uchaf erioed. Mae dros 40% o holl aelodau Cynulliad neu Senedd Cymru wedi bod yn ferched ers ei sefydlu yn 1998.
Rôl merched mewn protestiadau
Greenham Common
Fe wnaeth grŵp o Gymru, Women For Life on Earth, gynnal protest y tu allan i ganolfan RAF (Royal Air Force)Llu awyr Prydain a gafodd ei sefydlu adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Greenham Common ym mis Medi 1981 yn erbyn penderfyniad Unol Daleithiau America i osod taflegrynGwrthrych sy’n cael ei daflu at darged, gyda’r bwriad o achosi difrod neu anaf. niwclear yn y ganolfan. Arhosodd criw o ferched yno a chreu gwersyll ger gatiau’r ganolfan fel rhan o’r brotest. Daeth 70,000 o fenywod at ei gilydd yn y gwersyll yn Ebrill 1983 i greu cadwyn o bobl i ddangos eu bod yn gwrthwynebu arfau niwclear. Wynebodd y protestwyr lawer o wrthwynebiad gan yr heddlu a’r bobl leol.
Cafodd Helen Thomas, merch 22 mlwydd oed o Gastell Newydd Emlyn, ei tharo gan gar heddlu wrth iddi geisio croesi’r ffordd ger y gwersyll a bu farw yn sgil ei hanafiadau. Mae cofgolofnRhywbeth sy’n cael ei adeiladu i gofio am berson neu digwyddiad pwysig. i Helen yn Greenham Common heddiw a chyfansoddodd Dafydd Iwan ‘Cân i Helen’ i gofio amdani. Bu’r brotest yn ysbrydoliaeth i nifer o ferched eraill ledled Ewrop i gynnal protestiadau tebyg yn erbyn arfau niwclear. Fe wnaeth y ganolfan gau yn 1992 ac fe adawodd yr olaf o’r protestwyr yn y flwyddyn 2000.

Streic y Glowyr
Rhwng 1984 a 1985, aeth y mwyafrif o lowyr Prydain ar streic gan eu bod yn gwrthwynebu’r cynlluniau i gau pyllau glo. Roedd rôl a chyfraniad merched yn hollbwysig er mwyn cynnal y streic. Nid oedd y dynion a oedd yn streicio yn derbyn tâl, felly roedd rhaid i’r menywod gynnal eu teuluoedd heb incwmArian mae pobl yn derbyn yn rheolaidd, ee drwy swydd.. Aeth merched ati i sefydlu ceginau bwyd, codi arian a threfnu parseli er mwyn cefnogi teuluoedd. Aeth llawer i sefyll ar y llinell streicio, neu’r llinell bicedY llinell lle mae streicwyr yn sefyll er mwyn rhwystro gweithwyr eraill rhag cyrraedd y gwaith., gyda’r dynion a’u cefnogi mewn gorymdeithiau.
Cwis - Hawliau merched
More on Newid a symud
Find out more by working through a topic
- count2 of 3
- count3 of 3