Beth oedd mudiad y Siartwyr?
Ar ddiwedd y 1830au, dim ond tua un ym mhob pum dyn oedd â’r hawl i bleidleisio yng Nghymru a Lloegr. O’r rhain, roedd y rhan fwyaf yn ddynion cyfoethog neu ddosbarth canol oedd yn berchen ar dir.
Roedd y Siartwyr yn grŵp o bobl a oedd yn teimlo’n gryf nad oedd hyn yn deg i’r 82 y cant arall o ddynion. Aethon nhw ati i geisio newid y drefn wleidyddol.
Nod y Siartwyr oedd ennill hawliau a dylanwad gwleidyddol i’r dosbarthiadau gweithiol.
Fideo - Mudiad y Siartwyr
Hei! Cer o ‘ma, dw i’n pleidleisio! Dim ond fi sy’n cael gweld hwn!
Mae cael pleidleisio yn fraint dw i’n ei chymryd yn ganiataol ac weithiau dw i’n anghofio na fydden i'n cael gwneud hyn tua 200 mlynedd yn ôl pe bydden i'n ddyn neu'n ddynes. Pam hynny?
Yn yr 1830au roedd pethau’n anodd ac roedd amodau byw a gweithio yn wael. Roedd pobl yn symud o gefn gwlad i’r trefi i edrych am fywyd gwell. Roedd bwyd yn brin a doedd dim hawl gan y dosbarth gweithiol i fynegi eu barn.
Roedd y Siartwyr yn grŵp o bobl oedd eisiau newid hyn. Roedden nhw'n gofyn am chwe pheth.
- Pleidlais i bob dyn dros un ar hugain
- Pleidlais gudd
- Dim angen bod yn berchen ar eiddo i fod yn aelod seneddol
- Tâl i aelodau seneddol
- Etholaethau o'r un maint
- Etholiadau seneddol blynyddol
Yma yng Nghymru, gorymdeithiodd 5,000 o Siartwyr i Gasnewydd er mwyn ceisio cymryd rheolaeth o'r dre. Yr arweinwyr oedd John Frost, William Jones a Zephania Williams.
Tu allan i’r Westgate Hotel, dechreuodd yr awdurdodau saethu gan ladd o leiaf 22 o bobl. Mae rhai yn dweud y gallwch ddal i weld y tyllau bwled o 4 Tachwedd, 1839.
Daeth mudiad y Siartwyr i ben yn sydyn yng Nghymru wrth i'r arweinwyr gael eu cyhuddo o deyrnfradwriaeth, a’u dedfrydu i farwolaeth. Diolch i’r dyn yma, William Cuffay, Siartydd du o Lundain, cafodd y tri gosb llai llym.
Cafon nhw eu halltudio i Tasmania, ynys yn Awstralia. Yn y pen draw, cafodd pump o’r gofynion ar y siarter eu derbyn fel cyfraith gwlad. Doedd Siartiaeth ddim yn llwyddiant ar unwaith, ond fe wnaeth o baratoi'r ffordd ar gyfer newid.
Dyna pam ry’n ni’n gallu pleidleisio heddiw, unwaith ry’n ni’n cyrraedd 18 oed. Yng Nghymru, mae pobl 16 ac 17 oed hefyd yn cael pleidleisio mewn etholiadau cyngor ac yn etholiadau’r Senedd.
Siarter y Bobl 1838
Daeth enw’r ‘Siartwyr’ o Siarter y Bobl 1838. Dogfen oedd hon yn rhestru chwe phwynt allweddol yr oedd y Siartwyr yn credu oedd yn angenrheidiol er mwyn cyflwyno system etholiadolSystem sy’n penderfynu sut mae etholiadau a refferenda yn cael eu cynnal a’u cyfri. deg ym Mhrydain.
- Rhoi’r bleidlais i bob dyn 21 oed a hŷn.
- Sicrhau bod maint etholaethau yn gyfartal er mwyn helpu i sicrhau bod gwerth pleidleisiau ar draws ardaloedd yn deg.
- Rhoi cyflog i Aelodau Seneddol fel bod gweithwyr, ac nid dim ond tirfeddianwyr a phobl cyfoethog, hefyd yn gallu sefyll mewn etholiad.
- Sicrhau bod dim cymwysterau eiddo ar gyfer Aelodau Seneddol fel y gallai etholwyr ethol dyn o'u dewis, a all fod yn ddyn cyfoethog neu’n ddyn tlawd.
- Cynnal pleidlais gudd. Ar y pryd, roedd pleidleisio'n weithred gyhoeddus ac roedd llyfrau pleidleisio yn cael eu hargraffu a oedd yn cofnodi pleidlais pobl. Roedd hyn yn atal rhai rhag pleidleisio fel roedden nhw’n dymuno. Collodd rhai eu cartrefi am bleidleisio yn erbyn eu landlordiaid.
- Cynnal etholiadau seneddol blynyddol. Ar y pryd, dim ond unwaith bob saith mlynedd roedd angen cynnal etholiad cyffredinol.
Gweithredoedd y Siartwyr
Roedd y Siartwyr yn bennaf yn fudiad a oedd yn ceisio cyflawni eu nodau trwy gyflwyno deisebCais ysgrifenedig ffurfiol at awdurdod yn gofyn am gamau gweithredu ar fater penodol. torfol i’r Senedd.

Ym mis Mehefin 1839, cafodd deiseb â 1.3 miliwn o lofnodion ei chyflwyno i’r Tŷ Cyffredin, ond gwrthododd yr Aelodau Seneddol i gwrdd â’r deisebwyr. Achosodd hyn aflonyddwch a gafodd ei atal yn gyflym gan yr awdurdodau.
Cafodd ail ddeiseb ei chyflwyno ym mis Mai 1842, wedi’i harwyddo gan dros dair miliwn o bobl, ond unwaith eto fe’i gwrthodwyd. Arweiniodd hyn at fwy o aflonyddwch ac arestiadau.
Roedd rhai yn credu y byddai angen defnyddio arfau er mwyn cyflawni nodau’r mudiad.
Siartiaeth yng Nghymru
Dechreuodd Siartiaeth yng Nghymru yng Nghaerfyrddin dan ddylanwad Hugh Williams, cyfreithiwr a diwygiwr radicalSyniad gwleidyddol eithafol neu’n wahanol i’r arferol.. Roedd David Rees yn Llanelli, Morgan Williams ym Merthyr a John Frost yn Sir Fynwy hefyd chwarae rhan amlwg.
Roedd y gefnogaeth fwyaf brwd i’r mudiad yn ardaloedd diwydiannol Cymru.
Er bod y Chwyldro Diwydiannol wedi dod â chyfleoedd gwaith i bobl mewn ardaloedd fel Merthyr, gwnaeth hefyd arwain at broblemau, gan gynnwys:
- amodau byw afiach
- gorboblogiPan mae gormod o bobl yn byw mewn ardal ac mae diffyg lle.
- epidemigau fel colera o ganlyniad i ddiffyg dŵr glân
- amodau gwaith peryglus
Heb bleidlais, ni allai’r gweithwyr fynegi eu cwynion am eu hamgylchiadau a datrys y problemau cymdeithasol eraill oedd yn eu hwynebu o ddydd i ddydd.
Gwrthryfel Casnewydd
Un o weithredoedd mwyaf enwog y Siartwyr oedd Gwrthryfel Casnewydd. Dyma oedd y gwrthryfel arfog mawr olaf yng Nghymru, lle cafodd grym corfforol a difrifol ei ddefnyddio fwyaf yn hanes musiad y Siartwyr.
Ar 4 Tachwedd 1839, arweiniodd John Frost, Zephaniah Williams a William Jones orymdaith o rhwng 3,000 a 5,000 o ddynion yn ôl amcangyfrifon, i Gasnewydd er mwyn ceisio rhyddhau Siartwyr a oedd wedi eu carcharu yng Ngwesty’r Westgate yn y dref.
Daeth dilynwyr Frost o’r Coed Duon, dilynwyr Williams o Lynebwy a chriw Jones o Bontypŵl. Erbyn i’r dynion yma gwrdd yng Nghasnewydd ac uno, mae rhai yn dweud bod 10,000 o gefnogwyr ganddyn nhw i gyd.

Gorymdeithiodd y Siartwyr i lawr Stow Hill yng nghanol y dref tuag at westy’r Westgate, cyn galw ar y fyddin i ryddhau’r dynion a oedd wedi eu carcharu.
Arweiniodd hyn at frwydr ffyrnig a gwaedlyd gyda’r ddwy ochr yn saethu at ei gilydd. Llwyddodd y milwyr i amddiffyn y gwesty, er gwaetha’r holl bobl a oedd yn eu herbyn, ac ar ôl hanner awr o ymladd, roedd hyd at 22 o’r Siartwyr wedi’u lladd a tua 50 wedi eu hanafu.
Yn dilyn hyn, fe arestiwyd tua 200 o’r Siartwyr.
Cafodd yr arweinwyr, John Frost, Zephaniah Williams a Williams Jones eu ffeindio’n euog o bradwriaethBradychu’r wlad y mae’r person yn byw ynddi, ee drwy ddechrau rhyfel yn erbyn y llywodraeth.. Fe gawson nhw eu dedfrydu i gael eu crogi, eu diberfeddu a’u chwarteri.
Y tri arweinydd oedd y bobl olaf i gael eu dedfrydu i’r gosb hon ym Mhrydain. Ond, ar ôl i bobl eraill wrthwynebu’r gosb, cawson nhw eu alltudioDiarddel rhywun o wlad oherwydd statws anghyfreithlon neu ar ôl cyflawni trosedd. i Awstralia am oes yn lle.
Ar ôl y terfysg, parhaodd mudiad y Siartwyr yng Nghasnewydd a’r cyffiniau, ond ni fu erioed mor gryf a bygythiol eto.
Pa mor llwyddiannus oedd mudiad y Siartwyr?
Ar ôl 1848, dirywiodd Siartiaeth fel mudiad. Parhaodd rhai ardaloedd i gefnogi Siartiaeth yn gryf, ond ni wnaeth llawer o bobl fynd i’w cyfarfod cenedlaethol olaf yn 1858.
Serch hyn, parhaodd effaith y mudiad am flynyddoedd i ddod.
Erbyn y 1850au, roedd Aelodau Seneddol wedi derbyn bod rhaid newid y system wleidyddol, ac fe gafodd deddfau diwygioNewid system i fod yn well. eu pasio yn 1867 a 1884.
Er na chafodd unrhyw un o’r chwe phwynt yn Siarter y Bobl eu cyflawni yn ystod cyfnod y mudiad, erbyn hyn mae pump o’r chwech nôd wedi eu cyflawni (heblaw am etholiadau seneddol blynyddol).
A oedd Siartiaeth yn cynnwys menywod?
Er bod nifer o Siartwyr blaenllaw yn credu mewn pleidleisiau i fenywod, nid oedd erioed yn rhan o agenda’r Siartwyr.
Pan gafodd Siarter y Bobl ei ddrafftio gyntaf, fe gafodd cymal ei gynnwys a oedd yn argymell ymestyn yr hawl i bleidleisio i ferched. Cafodd ei ddileu yn y pen draw gan fod rhai aelodau’n credu y byddai’r cam ‘radical’ yma yn atal dynion rhag cael y bleidlais.
Er hyn, roedd nifer enfawr o fenywod yn rhan o’r mudiad, er na fydden nhw’n derbyn y bleidlais pe bai’n llwyddiannus.
Yng Nghymru, arwyddodd dros fil o ferched Sir Fynwy y ddeiseb i’r Senedd yn 1839. Dros Brydain, roedd un o bob pump llofnod ar y ddeiseb gan fenywod.
Yn ne Cymru, datblygodd Siartiaeth fel mudiad teuluol ac roedd nifer o gyfarfodydd y Siartwyr yn haf 1839 yn rhai teuluol gydag awyrgylch carnifal.
Roedd Mary Brewer yn adnabyddus fel trefnydd Siartiaeth yng Nghasnewydd. Trefnodd Joan Williams, gwraig Zephaniah Williams, gyfarfodydd hefyd i fenywod yr ardal yn y Royal Oak ym Mlaina.
Llinell amser
Ers yn gynnar yn yr 20fed ganrif, mae merched a dynion yn cael pleidleisio mewn etholiadau ym Mhrydain.
Dyma rai o’r cerrig milltir mwyaf nodedig wrth ehangu’r hawl i bleidleisio.
1832 | Deddf Diwygio Mawr Prydain - Cafodd rhagor o ddynion yr hawl i bleidleisio. Cafodd merched eu hatal yn ffurfiol rhag pleidleisio. |
1838 | Siarter y Bobl - Cyflwynodd y Siartwyr chwe gofyniad er mwyn newid y system wleidyddol. |
1839 | Gwrthryfel Casnewydd - Cafodd hyd at 22 o Siartwyr eu lladd wrth orymdeithio yng Nghasnewydd. |
1918 | Deddf Cynrychiolaeth y Bobl - Cafodd bob dyn dros 21 yr hawl i bleidleisio. Cafodd merched dros 30 oed a oedd yn berchen ar dŷ yr hawl i bleidleisio. |
1928 | Deddf Etholfraint Gyfartal - Derbyniodd ferched yr un hawliau pleidleisio a dynion. |
1969 | Deddf Cynrychiolaeth y Bobl - Cafodd yr oedran pleidleisio ei ostwng o 21 i 18. |
2020 a 2021 | Pobl 16 ac 17 oed yn derbyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac mewn etholiadau lleol yng Nghymru. |
Cwis - Mudiad y Siartwyr
More on Newid a symud
Find out more by working through a topic
- count1 of 3
- count2 of 3