Beth yw lluosrifau?
Gall lluosrifau edrych yn frawychus…
…ond dim ond tablau wedi eu hymestyn yw nhw.
Der i arbrofi i ddarganfod mwy.
Doctor Mwnci, sut y'n ni'n darganfod lluosrifau dau?
A! Mochyn-robot.
'Moch-bot' dwygoes.
Hahaha. Perffaith!
Nawr, lluosa fe…
Mae'r rhifau yma'n lluosrifau o ddau,
ac felly'n rhannu 'dau' fel ffactor cyffredin.
16, 18, 20 gelli di fynd ymlaen faint fynni di.
Ti'n gweld bod y rhifau i gyd yn gorffen gyda dau, pedwar, chwech, wyth neu sero?
Beth am drio robot gwahanol…
fel lluosrifau o bump?
Moch-bot pumcoes, gwaith gwych unwaith eto Doctor Mwnci.
Eto…
Pump yw'r ffactor cyffredin tro hyn ac mae'r rhifau'n gorffen gyda sero neu bump.
Felly pan wyt ti'n chwarae 'da lluosrifau paid a gwneud 'moch' o bethau!

Lluosrifau
Y cwbl yw lluosrifau mewn gwirionedd yw tablau lluosi wedi’u hymestyn.
Lluosrifau 2 yw pob rhif yn nhabl 2, sef 2, 4, 6, 8, 10 ac yn y blaen.
Bydd lluosrifau 2 bob amser yn diweddu gyda 2, 4, 6, 8 neu 0. Gelli di ddweud bod 2286, er enghraifft, yn lluosrif i 2 am ei fod yn diweddu gyda 6.
Lluosrifau 5 yw pob rhif yn nhabl 5, sef 5, 10, 15, 20, 25 ac yn y blaen.
Bydd lluosrifau 5 bob amser yn diweddu gyda 5 neu 0. Gelli di ddweud bod 465, er enghraifft, yn lluosrif i 5 am ei fod yn diweddu gyda 5.

More on Rhif
Find out more by working through a topic
- count11 of 16
- count12 of 16
- count13 of 16
- count14 of 16