
Cyflwyniad
Mae plastig o’n cwmpas ni i gyd. Mae’r rhan fwyaf ohonon ni yn ei ddefnyddio bob dydd. Mae’n ddeunydd defnyddiol iawn sydd wedi trawsnewid ein bywydau i gyd, ond yn anffodus mae'r plastig rydyn ni'n ei ddefnyddio yn mynd i’r môr. Yn y pen draw, mae'n gallu achosi pob math o broblemau i fywyd y môr a mamaliaid morol. Ond sut mae ein gwastraff plastig yn gwneud llanast yn y môr?

Mae gwastraff plastig yn gallu para am gannoedd o flynyddoedd. Drwy gydweithio a gwneud ein rhan, mae gan bob un ohonon ni ran bwysig i’w chwarae er mwyn lleihau’r broblem blastig hon.
Oeddet ti’n gwybod?
Hyd yn oed os wyt ti’n byw cannoedd o filltiroedd i ffwrdd o’r môr, mae'r plastig rwyt ti’n ei ddefnyddio yn gallu ymddangos yn y môr. Mae cymaint ag 80% o’r plastig yn ein moroedd yn dod o’r tir. Beth mae hyn yn ei olygu? Dydy'r plastig o reidrwydd ddim yn cael ei daflu’n syth i’r môr, ond mae’n dal i gyrraedd yno.
Sut mae hyn yn digwydd?
Biniau sbwriel
Mae sbwriel plastig yn ysgafn iawn ac mae'n gallu cael ei chwythu oddi ar safleoedd tirlenwi neu finiau sbwriel, yna mae’n mynd i mewn i ddraeniau ac afonydd ac yn cyrraedd y môr.
Taflu sbwriel
Dydy sbwriel plastig sy’n cael ei ollwng ar y stryd ddim yn aros yno. Mae'r gwynt a glaw yn gallu cario gwastraff plastig i nentydd ac afonydd neu i ddraeniau – ac o’r fan honno mae’n gallu teithio i’r môr.
Fflysio'r toiled
Mae llawer o gynnyrch rydyn ni’n eu defnyddio, fel ffyn cotwm, yn cael eu fflysio i lawr y toiled ac yn ffeindio eu ffordd i'r môr. Ond, dydy’r cynnyrch yma ddim yn cael ei dorri’n ddarnau mân mewn dŵr, felly ni ddylid eu fflysio i lawr y toiled.
Peiriannau golchi
Mae hyd yn oed golchi ein dillad yn gallu rhyddhau microffibrauDarnau o blastig microsgopig sy’n cael eu defnyddio i wneud ffabrigau synthetig fel polyester. bach plastig sydd o fewn defnydd ein dillad ni. Mae'r microffibrau bach yma yn gallu cael eu golchi’n hawdd i lawr y draen ac i mewn i’r môr.
Priodweddau plastig
Sut byddet ti’n disgrifio gorchudd bwyd plastig?
Mae’n gryf, yn para’n dda, yn ysgafn ac yn dal dŵr. Dyma’n union pam mai hwn yw'r deunydd perffaith ar gyfer diogelu ein bwyd. Ond y priodweddau hynny sydd hefyd yn achosi problemau i’r amgylchedd.
Mae plastig wedi cael ei ddylunio i bara am amser hir iawn. Dydy e ddim yn bioddiraddadwyEitemau sy'n gallu cael eu torri i lawr, fel arfer gan facteria, ffyngau neu ficrobau. Maen nhw’n cael eu hailamsugno i’r amgylchedd o’n cwmpas. Mae eitemau fel bwyd a phlanhigion yn fioddiraddadwy.. Mae hynny’n golygu dydy e ddim yn gallu dadelfennu na phydru.
Effaith

Ar ôl i’r plastig gyrraedd y môr, mae’n dadelfennu, neu'n pydru'n araf iawn. Mae'r broses yn gallu cymryd dros 400 o flynyddoedd. Mae’r plastig yn torri’n ronynnau mân, sy’n gallu bod yn niweidiol iawn i bob math o fywyd y môr. Enw’r gronynnau bach hyn yw microblastigauDarnau mân o blastig sy’n llai na 5 milimetr ar draws. Maen nhw’n un o brif achosion llygredd môr.. Maen nhw'n gallu bod mor fach fel byddai angen microsgop i’w gweld yn aml.
Fideo: Padlfyrddwraig yn casglu plastig ar draethau Ynys Môn
Mae Sian Sykes, padlfyrddwraig proffesiynol, yn dangos sut allwn ni leihau effaith plastig yn y môr.
Sut mae plastig yn mynd i’r gadwyn fwyd?
Mae’r plancton yn treulio’r microblastig, mae pysgod yn bwyta’r plancton ac rydyn ni’n bwyta’r pysgod.
Sut mae plastig yn y môr yn effeithio ar fywyd gwyllt?
Image caption, Mae adar yn bwyta plastig ac maen nhw’n aml yn cael eu canfod gyda’u boliau'n llawn ohono.
Image caption, Mae crwbanod y môr yn gallu camgymryd bagiau plastig am sglefrod môr a’u bwyta.
Image caption, Mae darnau plastig yn gallu mynd yn sownd mewn riffiau cwrel a chael effaith negyddol ar iechyd y riff.
Image caption, Mae plancton yn gallu bwyta microblastig ac mae hyn yn gallu pasio’r broblem yn ôl i fyny’r gadwyn fwyd ac i’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta.
1 of 4
Gwylia’r adroddiad Newsround hwn am blastig yn y môr (Cynnwys Saesneg)
Awgrymiadau gwych
Dod â’n bagiau ein hunain i’r siop
Erbyn hyn yng Nghymru, mae'n rhaid talu am bob bag plastig. Ers i hyn ddigwydd, mae’r nifer o fagiau sy'n cael eu defnyddio gennyn ni wedi gostwng dros 80%.
Defnyddio llai o blastigau untro
Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n ymdrechu i wahardd plastigau untro, sy’n anodd eu hailgylchu ac sy’n cael eu taflu fel sbwriel yn aml.
Sut wyt ti'n gallu helpu?
- Lledaenu’r gair - mae draeniau'n arwain at y môr.
- Rhoi dy sbwriel mewn bin bob amser a’i ailgylchu.
- Mae llawer o blant yn ymgyrchu yn eu hysgolion a’u cymunedau, ac mae rhai hyd yn oed yn peintio’r draeniau.
Mae newidiadau mawr yn dechrau gyda chamau bach. Beth wyt ti am ei wneud i ddechrau cael gwared â’r plastig yn dy fywyd?

Ble nesaf?
Ydy pysgota cimychiaid yn gallu bod yn gynaliadwy?
Sut mae pysgota wedi newid yng Nghymru, a pha effaith mae'n ei gael ar y gadwyn fwyd?

Sut allwn ni dynnu plastig o'r môr?
Mae tunelli o wastraff plastig yn mynd i’r moroedd bob blwyddyn. Be allwn ni ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem?

Cynaliadwyedd 8-11 oed
Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed

More on Gwastraff a llygredd
Find out more by working through a topic
- count2 of 2