Sut allwn ni dynnu plastig o'r môr?

Part of CynaliadwyeddGwastraff a llygredd

Cyflwyniad

Efallai fod traethau Cymru ymysg y glanaf yn y Deyrnas Unedig, ond nid yw hynny’n golygu nad yw llygredd yn broblem yng Nghymru chwaith. Mae tunelli o wastraff plastig yn cael eu taflu i’r moroedd bob blwyddyn. Beth ydyn ni’n ei wneud i helpu mynd i’r afael â’r broblem, a sut ydyn ni'n gallu helpu?

Y newyddion da yw bod y frwydr i lanhau llygredd môr yn digwydd ar draws y byd ac mae llawer o draethau yn cael eu dyfarnu am eu glendid.

Traethau Cymru

Golygfa o Draeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod yn 2019, gyda'r Faner Las ar gyfer Glendid yn y blaendir.
Image caption,
Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod yn 2019 gyda’r Faner Las ar gyfer glendid

Mae traeth Baner Las yn golygu ei fod wedi cael Baner Las gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol yn Nenmarc. Mae hyn yn dweud wrthyn ni fod y traeth yn lân iawn a bod ansawdd y dŵr yn rhagorol. Felly os wyt ti’n gweld un o’r baneri hyn, rwyt ti’n gwybod bod y môr yn berffaith ar gyfer nofio.

Map o Gymru yn dangos yr ystadegau: 45 Baner Las; 15 Gwobr Arfordir Gwyrdd; 25 Gwobr Glan y Môr.
Figure caption,
Ystadegau ar gyfer 2021

Yn 2021, enillodd traethau Cymru 45 Baner Las, 15 Gwobr Arfordir Gwyrdd a 25 Gwobr Glan y Môr.

Mae’r môr yn amgylchynu Cymru ar dair ochr. Mae’r moroedd hyn yn lân iawn.

Yn 2023:

  • fe wnaeth pob un ond dau o 109 o ddyfroedd nofio yng Nghymru fodloni’r safonau sylfaenol
  • roedd dros 70% wedi cyrraedd y safon anoddaf i'w gyrraedd, sef “ardderchog”

Bywyd gwyllt

Mae arfordir Cymru yn gynefin, neu’n gartref, perffaith i lawer o wahanol fywyd gwyllt morol fel dolffiniaid, morloi (seals), llamhidyddion (porpoises), sglefrod môr (jellyfish) a siarcod hyd yn oed.

Mae’r arfordir hefyd yn gartref i nythfeydd o adar pwysig iawn. Os byddi di’n mynd am dro ar hyd yr arfordir, fe allet ti fod yn ddigon ffodus i weld adar drycin Manaw (Manx shearwaters), palod (puffins) a huganod (gannets). Yn wir, mae Cymru’n enwog am fod yn un o’r llefydd gorau yn y byd i weld llawer o’r adar hyn.

Pwy sy’n byw yma?

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 5, Morloi llwyd ar y traeth., Morloi llwyd Mae morloi llwyd yn gallu cael eu gweld ar hyd arfordir Cymru drwy’r flwyddyn. Mae morloi gwryw yn cael eu galw’n deirw ac maen nhw’n gallu pwyso cymaint â 230 kg – mae hynny tua’r un pwysau â llew sy’n llawn maint. Maen nhw’n treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn ceisio dal pysgod, ond mae'n bosibl dod o hyd iddyn nhw’n aml pan fyddan nhw’n dychwelyd i’r tir i gael seibiant.

Felly beth yw'r broblem?

Gwastraff plastig ar draeth Costa del Este yn Ninas Panama, Ebrill 2021.
Image caption,
Gwastraff plastig ar draeth Costa del Este, Dinas Panama

Mae miliynau o dunelli o sbwriel plastig yn mynd i foroedd y byd bob blwyddyn. Mae’r cynnydd mewn llygredd plastig yn fater sy’n cael sylw ar draws y byd, ond mae’r sbwriel yn dal i ddod.

Mae’r rhan fwyaf o’r plastig hwn yn suddo i waelod y môr, felly dydy e ddim yn gallu cael ei weld, ond mae'n achosi problemau i anifeiliaid a phobl.

Er nad ydyn ni bob amser yn gallu ei weld, mae gwastraff plastig yn llygru ein moroedd ym mhob cwr o’r byd.

Beth y gellir ei wneud?

Mae gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed i lanhau ein moroedd a’n traethau. Efallai dy fod di hyd yn oed wedi cymryd rhan mewn gwaith glanhau traeth lleol ond mae rhai gwirfoddolwyr yn mynd â phethau gam ymhellach.

Tair menyw a dyn yn gweithio gyda'i gilydd i gasglu sbwriel oddi ar draeth.
Image caption,
Pobl yn cymryd rhan mewn gwaith glanhau traeth

Fideo: Achub bywyd morol

Cwrdd â’r arbenigwr

Mae David Kennard yn rhan o dîm o sgwba-blymwyr proffesiynol sy’n cynnal sesiynau casglu sbwriel dan y dŵr. Dydy hyn ddim bob amser yn dasg hawdd. Mae gweld o dan y môr yng Nghymru yn gallu bod yn heriol iawn ac mae dod o hyd i sbwriel yn gallu bod yn dasg anodd, ond maen nhw wedi dod o hyd i bob math o eitemau o dan y môr.

Gwylia grŵp o sgwba-blymwyr gwirfoddol yn achub bywyd gwyllt y môr.

Beth allen ni ei wneud i helpu?

Mae plastig yn fygythiad enfawr i gynefin y môr. Dyma’r math mwyaf cyffredin o sbwriel sy’n cael ei daflu i’r môr.

Beth am gymryd rhan mewn digwyddiad glanhau traeth wedi’i drefnu? Ond cofia ddilyn yr awgrymiadau canlynol.

Esgidiau glaw.
  • Rhaid gwisgo esgidiau addas fel nad wyt ti’n llithro nac yn sefyll ar unrhyw beth miniog.
Esgidiau glaw.
Menig gwarchodol.
  • Gwisgo menig gwarchodol.
Menig gwarchodol.
Seren fôr.
  • Peidio â chyffwrdd na niweidio unrhyw fywyd gwyllt.
Seren fôr.
Bagiau sbwriel.
  • Mynd â sbwriel adref gyda ti pan fyddi di’n gadael y traeth.
Bagiau sbwriel.

Mae angen i ni barchu’r môr a’n traethau.

Mae treulio dau funud yn casglu unrhyw sbwriel sy’n cael ei adael ar y traeth yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn.

Cwis: Sut allwn ni dynnu plastig o'r môr?

Ble nesaf?

All morwellt arafu newid hinsawdd?

Oeddet ti'n gwybod bod morwellt yn cael ei alw'n "ysgyfaint y môr"?

All morwellt arafu newid hinsawdd?

Sut mae newid hinsawdd yn newid glan môr?

Darganfydda fwy am sut mae nwyon tŷ gwydr, cynhesu byd-eang, a'r capiau iâ sy'n toddi yn effeithio ar bentref Fairbourne yng ngogledd Cymru.

Sut mae newid hinsawdd yn newid glan môr?

Cynaliadwyedd 8-11 oed

Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed

Cynaliadwyedd 8-11 oed

More on Gwastraff a llygredd

Find out more by working through a topic