Dirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951
Dechreuad y Dirwasgiad
Roedd Cwymp Wall Street yn 1929 wedi plymio America i ddirwasgiad economaidd a arweiniodd at ddirwasgiad Mawr y 1930au. Beth oedd prif achosion y Dirwasgiad?
Bywyd yn ystod blynyddoedd y Dirwasgiad
Roedd y dirwasgiad yn gyfnod cythryblus i gymaint o deuluoedd ym Mhrydain ac roedden nhw’n wynebu nifer o heriau. Ond, yn rhyfeddol, roedd rhai ardaloedd wedi ffynnu yn ystod y 1930au. Sut oedd pobl yn gallu ymdopi â’r heriau yn ystod blynyddoedd y Dirwasgiad?
Dechreuad y rhyfel
Mae polisi tramor ymosodol Hitler a pholisi dyhuddo (policy of appeasement) enwog Prydain yn rhai o achosion yr Ail Ryfel Byd. Roedd Prydain yn defnyddio amryw ddulliau i baratoi ar gyfer gwrthdaro mawr. Pa mor effeithiol oedd paratoadau Prydain ar gyfer rhyfel?
Bywyd amser rhyfel
Ar ôl i’r rhyfel ddechrau ym Medi 1939, roedd bywyd ar fin newid yn sylweddol i Brydain, ei lluoedd arfog a’i dinasyddion. Sut wnaeth pobl Prydain ymdopi â’r profiad o ryfel?
Cynnal yr ysbryd
Roedd cynnal yr ysbryd yn her fawr i Lywodraeth Prydain. Heb gynnal yr ysbryd a gobaith efallai na fyddai buddugoliaeth wedi bod yn bosibl, yn arbennig o gofio bod angen sifiliaid i helpu gyda’r ymgyrch ryfel. Pa mor bwysig oedd cynnal ysbryd pobl yn ystod y rhyfel?
Bywyd ar ôl rhyfel
Roedd 1945 yn foment allweddol yn hanes Prydain. Effeithiodd yr Ail Ryfel Byd yn uniongyrchol ar newidiadau economaidd a gwleidyddol. Pa mor anodd oedd yr amgylchiadau ym Mhrydain yn 1945?
Ailadeiladu'r wlad ar ôl 1945
Roedd y Llywodraeth Lafur ar ôl y rhyfel yn 1945 yn benderfynol o gyflwyno newidiadau allweddol fyddai’n gwella bywydau pobl a sefydlu wladwriaeth les. Sut wnaeth y Llywodraeth Lafur ddelio â phroblemau’r oes?