Oes y Llymder

Ar 8 Mai 1945, dathlwyd Buddugoliaeth yn Ewrop gyda llawenydd a rhyddhad cyffredinol ar draws Prydain ar ôl chwe blynedd o ymladd ac aberth. Ond, roedd y wlad a’i phobl yn dal i wynebu nifer o heriau.
Un o’r heriau allweddol oedd yn wynebu’r DU yn 1945 oedd sefyllfa economaidd y wlad.
Roedd y ddyled gwladol wedi codi o £760 miliwn i £3500 miliwn. Roedd Prydain wedi gwario bron i £7 biliwn, chwarter cyfoeth y wlad, ar yr ymgyrch ryfel.
Roedd y DU yn gwario £2000 miliwn y flwyddyn dramor, ac ond yn adennill £350 miliwn. Roedd benthyciadau gan America yn hanfodol os oedd economi'r DU am gael ei hadfer.
Roedd un o bob tri thŷ wedi cael eu dinistrio gan y bomio, yn ogystal â nifer fawr o ffatrïoedd a siopau. Collodd Prydain 264,433 o filwyr a 60,595 o sifiliaid yn ystod y rhyfel. Roedd nifer o bobl eraill wedi dioddef creithiau corfforol a meddyliol ac yn methu â pharhau â bywyd normal.
Roedd 177 o longau masnach a dwy ran o dair o’r Llynges wedi cael ei suddo, felly roedd cyflenwadau bwyd yn isel. Parhaodd dogni bwyd am 10 mlynedd arall. Arhosodd treth incwm yn uchel er mwyn helpu’r Llywodraeth dalu am y gwaith ailadeiladu.
Y cyfnod yma oedd diwedd yr ymerodraeth Brydeinig, ac roedd ei lle yn y byd wedi dirywio oherwydd ei bod yn amhosibl cystadlu â grym economaidd America.
Roedd yn rhaid i’r dogni barhau oherwydd prinder bwyd a deunyddiau crai. Yn aml gelwir y cyfnod yma yn hanes Prydain yn Oes y llymderCyfnod o amgylchiadau economaidd anodd wrth i’r llywodraeth dorri ar wariant..
Ond roedd yna beth gobaith oherwydd:
- roedd bron pawb yn gyflogedig (cyflogaeth lawn)
- roedd yna deimlad optimistaidd am ddyfodol gwell o ganlyniad i’r fuddugoliaeth
- roedd yna deimlad o newid - fel y dangosodd buddugoliaeth y Blaid Lafur yn yr etholiad
- roedd nifer yn derbyn diwedd yr ymerodraeth
Roedd yna deimlad optimistaidd yng Nghymru hefyd ar ddiwedd y rhyfel. Roedd nifer o faciwîs, Bevin BoysWedi’u henwi ar ôl Ernest Bevin, gwleidydd Llafur, dyma’r bechgyn ifanc o Brydain a orfodwyd i weithio mewn pyllau glo ar draws y DU, rhwng Rhagfyr 1943 a Mawrth 1948., milwyr y cynghreiriaid a merched yn y byddinoedd tir wedi profi bywyd yng Nghymru am y tro cyntaf yn ystod y rhyfel. Roedd nifer o ddynion ifanc wedi mynd â straeon am Gymru i weddill y byd wrth iddyn nhw wasanaethau yn y rhyfel. Roedd hynny yn arwain at gydnabod bod gan Gymru hunaniaeth oedd yn wahanol i weddill Prydain, ac roedd pobl yng Nghymru a thu allan yn ymwybodol o hynny.