Diwydiant Prydain yn y 1920au
Yn y 19eg ganrif roedd Prydain yn arwain y byd yn ddiwydiannol. Erbyn diwedd y ganrif roedd Yr Almaen, Ffrainc, Japan ac America wedi dal i fyny, ac erbyn dechrau’r 20fed ganrif roedden nhw’n dechrau dal i fyny a herio safle diwydiannol blaenllaw Prydain.
Roedden nhw’n defnyddio dulliau cynhyrchu newydd ac yn cystadlu am farchnadoedd rhyngwladol. Roedd diwydiannau glo, haearn, adeiladu llongau a thecstilau Prydain yn dibynnu’n fawr ar werthu i farchnadoedd byd-eang. Roedd y gystadleuaeth gynyddol o wledydd eraill yn golygu nad oedd y 1920au yn gyfnod cyfforddus i ddiwydiant trwm Prydain. Golygai hyn fod gan Brydain broblemau economaidd cyn Cwymp Wall Street.
Cwymp Wall Street, 24 Hydref 1929
Achosodd Cwymp Wall Street 1929 bryder enfawr i Arlywydd America, Herbert Hoover, ac arweiniodd at gyfnod dramatig a elwir yn Ddirwasgiad Mawr.

Sut arweiniodd hynny at Ddirwasgiad ym Mhrydain?
Cafodd Dirwasgiad America effaith sylweddol ar economi’r DU. Achosodd polisïau economaidd America i nifer o wledydd eraill, yn cynnwys Prydain a’r Almaen, lithro i ddirwasgiad economaidd.

Defnyddiodd Arlywydd Hoover dariffau uchel er mwyn ceisio atal pobl America rhag prynu nwyddau o wledydd eraill. Roedd y tariffau yma yn golygu bod nwyddau na chynhyrchwyd yn America yn ddrytach, ac arweiniodd hynny at ostyngiad mewn galw ac elw. Aeth busnesau i’r wal wrth i bobl stopio prynu nwyddau a dechreuodd y Dirwasgiad Mawr, gan achosi diweithdra uchel.
Mae’n ymddangos bod yr ymadrodd Pan fo America yn tisian, mae gweddill y byd yn dal annwyd
yn un cywir.
Prif ysgogydd y Dirwasgiad oedd Cwymp Wall Street, ond roedd ffactorau eraill hefyd wedi cyfrannu at droi’r Cwymp yn Ddirwasgiad. Doedd yr UDA ddim yn gallu rhoi benthyg arian i wledydd Ewrop mwyach a gofynnon nhw am rai o’r benthyciadau yn ôl.
Efallai y dylid ei alw’n gatalydd oherwydd ei fod wedi cyflymu effaith achosion eraill a chyflymu’r cwymp economaidd.
Arweiniodd hynny at gwymp cwmnïau, yn arbennig o gofio bod y diwydiannau trwm yn benodol wedi bod mewn trafferthion ers 1918. Roedd cau cwmnïau neu leihau gweithluoedd yn arwain at ddiweithdra difrifol.