Hyd at £20,000 ar gael i rai busnesau i warchod twristiaid rhag y glaw

Chwarel Dinorwig yn y glaw, yn edrych i lawr i gyfeiriad LlanberisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd mwy o fusnesau twristaidd yng Nghymru'n beio tywydd gwael, yn hytrach na chynnydd mewn costau byw, am y cwymp yn nifer yr ymwelwyr y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Gallai busnesau twristaidd gael hyd at £20,000 i wella eu cyfleusterau, er mwyn ceisio gwarchod ymwelwyr rhag tywydd gwael.

Gobaith Llywodraeth Cymru yw y bydd y gronfa o £1m yn helpu i ymestyn y tymor twristaidd, wrth i'r hinsawdd fynd yn fwyfwy ansefydlog.

Yn ôl ffigyrau Croeso Cymru, roedd 55% o fusnesau yn credu bod tywydd gwael yn rheswm pam bod llai o ymwelwyr yn ystod haf y llynedd.

Ond er i'r cyhoeddiad gael ei groesawu gan rai busnesau, mae un arbenigwr economaidd yn dweud bod angen buddsoddiad llawer mwy i wneud gwahaniaeth.

'Man cychwyn da'

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae twristiaeth yn cyfrannu £3.8bn i economi'r wlad bob blwyddyn.

Mae Dan yr Ogof, system o ogofau 17km (10 milltir) yn ardal Bannau Brycheiniog, yn denu degau o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ac wedi gwneud cais am y grant.

Mae Ashford Price, cadeirydd yr atyniad, yn gobeithio defnyddio'r arian i adeiladu mwy o gysgod wrth y swyddfa docynnau, a gorsafoedd y trên sy'n mynd o gwmpas y safle.

Y gobaith yw sicrhau bod modd mwynhau atyniadau fel Dan yr Ogof, hyd yn oed pan nad yw'r tywydd cystal.

"Does 'na ddim ymbarél yn y byd sy'n gallu gwarchod Cymru gyfan rhag y tywydd," meddai.

Ashford Price, cadeirydd Dan yr Ogof ym Mannau Brycheiniog
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ashford Price yn gobeithio y gall y grantiau wella profiad ymwelwyr, waeth beth yw'r tywydd

"Ond o ddifri', pan mae ymwelwyr yn dod maen nhw'n talu arian da i ddod i weld pethau.

"Y peth pwysig yw bod Cymru'n gwneud rhywbeth, yn wahanol i lefydd eraill.

"Os ydyn nhw'n gwybod bod ni'n gwneud ein gorau i edrych ar eu holau, hyd yn oed yn y glaw, bydd hwnna'n cael brownie points i ni."

Ychwanegodd y byddai'n hoffi gweld mwy o arian ar gael yn y dyfodol, ond bod y grant yn "fan cychwyn da".

'Pobl yn disgwyl safon'

Bydd y Gronfa Gwrthsefyll Tywydd yn rhedeg am flwyddyn, gyda grantiau o rhwng £5,000 a £20,000 ar gael.

Gallai'r arian fynd tuag at bethau fel gorchuddion i ymwelwyr a llefydd eistedd, systemau draenio, neu welliannau i arwynebedd llwybrau a meysydd parcio.

Bydd yn rhaid i fusnesau fod yn atyniadau twristaidd sydd wedi'u cofrestru, yn ddim mwy na chanolig ei maint, ac wedi bod yn masnachu am o leiaf blwyddyn fel cwmni, partneriaeth neu fenter gymdeithasol.

Rheilffordd y Graig, sy'n cludo ymwelwyr i frig Craig Glais yn Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rheilffordd y Graig, ar ben y promenâd yn Aberystwyth, yn cludo ymwelwyr i frig Craig Glais yn edrych dros y dref

Mae Alun Davies, rheolwr Rheilffordd y Graig yn Aberystwyth, wedi bod yn gweithio ar yr atyniad ers 20 mlynedd ac yn cytuno nad oedd tywydd gwael y llynedd wedi helpu busnesau.

"Dwi'n bendant bod y tywydd wedi gwneud gwahaniaeth i ni llynedd," meddai.

"Yn y tywydd braf mae pawb yn dod mas i fwynhau, ac maen nhw'n fwy bodlon i wario arian."

Mae nawr yn gobeithio gwneud cais ar gyfer grant i godi gorchudd wrth y fynedfa i ymwelwyr aros, at ddefnydd pobl anabl yn enwedig.

"Mae pobl yn disgwyl safon y dyddiau hyn," meddai.

"Dydyn nhw ddim yn disgwyl cerdded mewn mwd, maen nhw moyn lle sy'n sych a glân, a rhoi'r profiad iddyn nhw fod nhw wedi bod ar eu gwyliau."

£1m yn ddigon?

Gan fod twristiaeth yn rhan bwysig o'r economi "mewn sawl rhan o Gymru", meddai Dr Edward Thomas Jones, o Brifysgol Bangor, mae'n bosib nad yw cronfa o £1m yn ddigon i wneud gwahaniaeth.

"Mae'r syniad gan Lywodraeth Cymru yn un da, ond mae gen i gwestiynau a fydd hyn yn ddigon o arian i wirioneddol gael effaith ar y busnesau," meddai.

"Genna ni syniad o faint mae'n costio i adeiladu gwahanol bethau, a'r teimlad gen i ydi nad yw hyn yn ddigon o arian."

Mae'n cydnabod bod arian cyhoeddus yn brin ar hyn o bryd, ond yn dweud bod ffyrdd o gyfeirio cyllid at gynlluniau fel y Gronfa Gwrthsefyll Tywydd.

"Mae hwn yn enghraifft berffaith o beth allai'r dreth dwristiaeth ei gefnogi, a dyna 'dan ni'n ei weld mewn llawer o wledydd eraill," meddai.

Deinosor yn atyniad Dan yr Ogof
Disgrifiad o’r llun,

Nid ogofau tanddaearol yn unig sydd yn Dan yr Ogof - mae gan y safle, fel nifer o atyniadau eraill, hefyd ardaloedd awyr agored

Wrth gyhoeddi'r gronfa, dywedodd yr ysgrifennydd cabinet dros dwristiaeth, Rebecca Evans bod gan Gymru "lawer iawn i'w gynnig ym maes twristiaeth".

"Ond wrth i'r tywydd, sydd wedi creu ein tirweddau trawiadol trwy gydol hanes, ddod yn fwy a mwy anodd i'w ragweld, mae wedi cael ei nodi fel y ffactor mwyaf sy'n effeithio ar nifer yr ymwelwyr i atyniadau Cymru," meddai.

"Ychwanegodd bod y gronfa wedi ei chreu ar ôl "gwrando ar bryderon pobl sy'n gweithio yn y sector atyniadau twristiaeth", ac y byddai'n "eu helpu i baratoi ar gyfer patrymau tywydd fwy amrywiol" yn ogystal ag ymestyn y tymor twristiaeth.