Cerddoriaeth gyfunolBeth yw cerddoriaeth gyfunol?

Cerddoriaeth gyfunol yw pan fydd cyfansoddwyr yn cyfuno dwy arddull gerddorol neu ragor i greu darn newydd o gerddoriaeth.

Part of CerddoriaethCerddoriaeth boblogaidd

Beth yw cerddoriaeth gyfunol?

Er bod llawer o gerddoriaeth yn gallu cynnwys dylanwadau o bob cwr o’r byd, mae cerddoriaeth gyfunol yn ynddo’i hun.

Mae cerddoriaeth gyfunol yn gyfuniad o ddwy arddull gerddorol neu ragor. Er enghraifft, mae roc a rôl, a ddatblygodd yn yr Unol Daleithiau yn yr 1940au a’r 50au, yn gyfuniad o ganu gospel, jazz, rhythm a blues, a chanu gwlad.

Mae diwylliannau eraill y byd wedi dylanwadu ar gyfansoddwyr drwy gydol hanes, ond mae cerddoriaeth bop gyfunol wedi dod yn fwy cyffredin ers yr 1960au.

Mae’r llinell amser ganlynol yn dangos rhai o’r albymau a’r artistiaid mwyaf nodedig ym maes cerddoriaeth gyfunol ers yr 1960au.

Artistiaid yn cynnwys: Machito; Miles Davies; Dizzy Gillespie; Bob Marley; Frank Zappa; Paul Simon; Bjork; Santana; Damet Akalin.

Dyma rai enghreifftiau o brojectau cerddoriaeth gyfunol yn yr 20fed ganrif, ynghyd â’u tarddiad:

  • Afro Celt Sound System (cynnwys Saesneg) - Cerddoriaeth Wyddelig draddodiadol, cerddoriaeth draddodiadol Gorllewin Affrica, dawns electronig
  • Esperanza Spalding (cynnwys Saesneg) - gyda
  • Dizzy Gillespie and Machito (cynnwys Saesneg) - cerddoriaeth Giwbaidd-Affricanaidd gyda jazz
  • Buena Vista Social Club - cyfuniad o elfennau Affricanaidd ac elfennau o Dde America gyda gitâr Americanaidd
  • Capercaillie (cynnwys Saesneg) - Cerddoriaeth draddodiadol yn yr iaith Aeleg o'r Alban gyda thechnoleg cerddoriaeth fodern
  • Demet Akalin - Cerddoriaeth werin o Dwrci gyda y Gorllewin
  • Nitin Sawhney - cerddoriaeth Asiaidd gydag elfennau o jazz, electronica a dylanwadau byd-eang eraill

Mae Bohemian Rhapsody, cân Queen o 1975, yn enghraifft o gyfuno nifer o arddulliau cerddorol i greu cân chwe munud sy’n gyfansoddiad di-dor. Gwaith un symudiad yw rhapsodi sy’n cynnwys ystod gyferbyniol o gyweiredd, naws a lliw. Ar ôl y rhagarweiniad, mae Bohemian Rhapsody yn cynnwys baled, darn operatig, darn roc blaengar, a’r coda i gloi.

More guides on this topic