Cerddoriaeth roc
Dechreuodd cerddoriaeth roc yn UDA yn yr 1950au cynnar, ar ffurf roc a rôl. Roedd genres fel rhythm a blues, cerddoriaeth werin a jazz wedi dylanwadu arni. Yn ddiweddarach, datblygodd hyn yn nifer o genres gwahanol fel roc bluesGenre sy’n cyfuno elfennau o gerddoriaeth blues ac elfennau o roc. Gan amlaf, mae gan fandiau sy’n perfformio yn y genre hwn gitâr drydan, gitâr fas a drymiau, ac weithiau allweddellau a harmonica hefyd., roc glamArddull o gerddoriaeth roc sy’n tarddu o ddiwedd yr 1970au yn y DU. Roedd modd adnabod y cerddorion drwy eu gwisgoedd, gwalltiau colur a pherfformiadau hynod. a roc seicedeligMath o gerddoriaeth roc sydd wedi’i hysbrydoli gan y diwylliant seicedelig..
Yn yr 1970au, roedd cerddoriaeth hynod o amrywiol i’w chlywed, gyda nifer o arddulliau yn dod i’r amlwg – roedd ffync, soul, gwahanol fathau o roc a disgo i gyd yn boblogaidd yn ystod y degawd hwn. Mae roc caled yn is-genre o gerddoriaeth roc, a datblygodd hwn yng nghanol yr 1960au a dod yn fwy poblogaidd yn yr 1970au. Fel arfer, bydd y llais yn ffyrnig, y gitarau wedi’u hystumio, a bydd cit drymiau ac yn aml allweddellau’n cael eu defnyddio.
Isod mae sioe sleidiau’n dangos yr artistiaid o bwys mewn cerddoriaeth bopCerddoriaeth sydd ag apêl gyffredinol ac yn aml yn cael ei chysylltu ag arddulliau’r 1950au. Wedi’i seilio ar elfen rythmig gref. yn y degawdau rhwng 1970 a 2010.
Image caption, 1970
Mae artistiaid amlwg yng ngherddoriaeth boblogaidd yr 1970au yn cynnwys: (yn glocwedd) Queen, Gloria Gaynor, Rainbow, The Clash
Image caption, 1980
Mae artistiaid amlwg yng ngherddoriaeth boblogaidd yr 1980au yn cynnwys: (yn glocwedd) Joy Division a New Order, Grace Jones, Eric B. & Rakim, Kate Bush
Image caption, 1990
Mae artistiaid amlwg yng ngherddoriaeth boblogaidd yr 1990au yn cynnwys: Nirvana (chwith), Oasis (dde)
Image caption, 2000
Mae artistiaid amlwg yng ngherddoriaeth boblogaidd y 2000au yn cynnwys: (yn glocwedd) Dizzee Rascal, Candelas (y band roc o Gymru), Adele
1 of 4
Roc indie
Yn yr 1970s a’r 80au, datblygodd genre roc indie (neu roc annibynnol) yn y DU ac UDA. Yn wreiddiol, roedd y math hwn o gerddoriaeth yn cael ei recordio gan labeli a oedd â chyllidebau isel. Roedd hynny’n galluogi bandiau i ddatblygu eu sain heb i neb ymyrryd. Mae roc indie yn cynnwys amrywiaeth eang o arddulliau. Mae bandiau fel The Smiths, Arctic Monkeys, The Cure a’r band o Gymru, Candelas, yn cael eu hystyried yn fandiau indie.