Dessa a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Americanes sy’n canu, yn cyfansoddi ac yn rapio yw Dessa (Margret Wander), ac mae hi’n enwog yn bennaf fel artist hip-hop. Ar y cyd â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBC NOW), defnyddiodd yr hwiangerdd Gymraeg, Tŷ Bach Twt, yn ysgogiad.
Mae Dessa yn cyfuno’r gân hon â themâu ac arddulliau sy’n cystadlu â’i gilydd, gan gynnwys rap a blues.
Mae yma rywfaint o ganu digyfeiliant gydag atalnodi gan y gerddorfa i gefnogi’r harmoni a’r rhythm.
Mae arddull y cyfeiliant offerynnol yn amrywiol. Mae’r darn yn dechrau gydag arddull finimalaidd, gyda dim ond ychydig o offerynnau’n chwarae ychydig yn unig o nodau. Er enghraifft, mae’r sielo’n chwarae nodyn pedal a’r dwlsimer Appalachaidd yn cyflwyno’r alaw a rhywfaint o harmoni sy’n cyfeilio mewn trydyddau. Yn ddiweddarach yn y gân, mae nifer o offerynnau’n ymuno â’i gilydd i chwarae mewn arddull gerddorfaol fwy traddodiadol.
Y rapwyr/cantorion o America, Dessa ac Abby Wolf, yn perfformio fersiwn cyfunol o’r hwiangerdd Gymraeg, 'Tŷ Bach Twt', gydag aelodau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC