Cyfrifon
Dewis cyfrif
Wrth i ti gychwyn gweithio, efallai y bydd angen i ti agor cyfrif mewn banc neu gymdeithas adeiladu er mwyn sicrhau bod dy arian yn cael ei gadw mewn man diogel. Mae gan y rhan fwyaf o fanciau gynigion arbennig er mwyn denu pobl i ddewis eu cyfrifon. Mae rhai banciau’n cynnig cyfrifon gyda buddiannau ond mae’n rhaid i ti roi isafswm o arian yn y cyfrif bob mis. Fel arfer, dyma dy brif ffynhonnell arian, sef dy gyflog o dy waith ran amlaf.
Hoffai Nia agor cyfrif banc. Mae ganddi £1,500 yr hoffai ei gadw ar gyfer ei gwyliau’r flwyddyn nesaf. Mae ei gwaith yn talu £1,200 bob mis. Beth am i ni edrych pa gyfrif banc fyddai’n rhoi’r fargen orau iddi pe bai’n cadw’r cyfrif banc ar agor am flwyddyn?
Nodwedd | Banc A | Banc B | Banc C |
Cynnig agoriadol | 5% hyd at £1,200 | £150 | £7.50/mis |
Isafswm arian i mewn bob mis | £800 | £1,500 | £600 |
Nodwedd | Cynnig agoriadol |
---|---|
Banc A | 5% hyd at £1,200 |
Banc B | £150 |
Banc C | £7.50/mis |
Nodwedd | Isafswm arian i mewn bob mis |
---|---|
Banc A | £800 |
Banc B | £1,500 |
Banc C | £600 |
Banc A
5% o £1,200
= \(\frac{5}{100} \times {1,200}\)
= £60
Banc B
Nid yw Nia yn ennill digon o arian i gael y cyfrif hwn.
Banc C
Mae 12 mis mewn blwyddyn ac mae’n cael £7.50 bob mis.
Felly 12 × 7.50 = £90
Datganiadau
Bydd datganiadau banc yn dangos i ti faint o arian sy’n mynd i mewn ac allan o dy gyfrif a byddan nhw hefyd yn dangos ym mhle rwyt ti’n gwario dy arian.
Gelli weld y datganiadau hyn mewn peiriannau twll yn y wal, trwy wasanaethau bancio ar-lein neu gelli ddewis cael datganiadau ar bapur drwy’r post. Byddan nhw’n dangos codau sy’n golygu gwahanol bethau.
Dyma rai codau sydd i’w gweld ar ddatganiadau banc:
Cod | Ystyr | Disgrifiad |
Deb | Debyd | Arian yn gadael dy gyfrif |
DD | Debyd Uniongyrchol | Taliadau misol yn cael eu cymryd allan o dy gyfrif |
DEP neu CREDIT | Arian cadw | Taliad i mewn i dy gyfrif |
S/O | Archeb sefydlog | Dull arall o gymryd taliadau allan o dy gyfrif |
CPT | Peiriant twll yn y wal | Tynnu arian allan o beiriant twll yn y wal |
Cod | Deb |
---|---|
Ystyr | Debyd |
Disgrifiad | Arian yn gadael dy gyfrif |
Cod | DD |
---|---|
Ystyr | Debyd Uniongyrchol |
Disgrifiad | Taliadau misol yn cael eu cymryd allan o dy gyfrif |
Cod | DEP neu CREDIT |
---|---|
Ystyr | Arian cadw |
Disgrifiad | Taliad i mewn i dy gyfrif |
Cod | S/O |
---|---|
Ystyr | Archeb sefydlog |
Disgrifiad | Dull arall o gymryd taliadau allan o dy gyfrif |
Cod | CPT |
---|---|
Ystyr | Peiriant twll yn y wal |
Disgrifiad | Tynnu arian allan o beiriant twll yn y wal |
Byddi hefyd yn gweld rhifau, gall y rhain gyfeirio at rif dy gyfrif neu’r cod didoli. Defnyddir rhif dy gyfrif banc er mwyn adnabod dy gyfrif a’r cod didoli er mwyn adnabod dy fanc.
Enghraifft
Dyma drafodion banc Claire yn ddiweddar:
1. Faint yw cyflog Claire?
Mae ei gweddill wedi cynyddu o £400 i £2,963. Trwy gyfrifo’r gwahaniaeth, byddwn yn gwybod faint yw ei chyflog.
£2,963 - £400 felly cyflog Claire yw £2,563.
2. Ar 6 Mehefin, mae Claire yn prynu car am £3,000. Faint fydd ei dyled i’r banc?
Mae ganddi £2,596 yn ei chyfrif, ac mae’n talu £3,000.
Y cyfrifiad rydyn ni angen ei wneud yw:
£2,596 - £3,000 = £-404
Felly nawr mae hi £404 mewn dyled.
Question
Dyma drafodion banc Jamie yn ddiweddar:
1. Faint o arian mae Jamie wedi ei wario ar lawrlwythiadau digidol dros y cyfnod hwn?
2. Faint o arian fydd ganddo yn ei gyfrif ar ôl iddo dalu am ei docyn i’r Gŵyl-haf?
1. Mae’r gweddill wedi mynd i lawr o £172 i £155. Y gwahaniaeth yw 17 felly mae wedi gwario £17 ar lawrlwythiadau digidol.
2. £175 - £78.50 = £96.50 sy’n golygu y bydd e £96.50 mewn credyd.