Cyllid personolCynilion

Trwy agor dy gyfrif banc dy hun neu drwy reoli dy arian yn llwyddiannus, byddi’n dysgu sut i ymdrin â dy gyllid personol yn ofalus a sicrhau dy fod yn gallu rheoli ad-daliadau ar fenthyciadau.

Part of Mathemateg RhifeddRhif

Cynilion

Gallwn ddisgrifio cynilion fel yr arian rwyt ti’n ei roi i’r naill ochr yn rheolaidd. Efallai y byddi’n penderfynu cynilo canran benodol o dy gyflog.

Cyfrifon cynilo

Weithiau bydd pobl yn defnyddio math arbennig o gyfrif banc o’r enw cyfrif cynilo. Bydd y banc yn talu arian i mewn i’r cyfrif cynilo. Mae hwn yn cael ei alw’n llog ac mae’r arian sy’n cael ei dalu i mewn gan y banc yn dibynnu ar y gyfradd llog, sy’n cael ei rhoi fel canran o swm yr arian sydd yn y cyfrif cynilo. Bydd y banc yn talu mwy o arian i mewn os yw’r gyfradd llog yn uchel – a bydd yn talu llai o arian i mewn os bydd y gyfradd llog yn is.

Enghraifft

Mae Jess yn cynilo er mwyn prynu cyfrifiadur newydd ar gyfer ei blwyddyn olaf yn y coleg. Mae arni angen cyfanswm o £890. Mae ganddi £250 yn ei chyfrif yn barod. Mae’n cael lwfans o £320 y mis gan ei theulu. Mae 20% o’i lwfans yn mynd yn syth i’w chyfrif cynilo. Faint o fisoedd fydd Jess yn ei gymryd i gynilo’r arian sydd ei angen arni?

£890 - £250 = £640

I ganfod faint o arian y bydd Jess yn ei gynilo bob mis (20% o 320), cyfrifa 10% yn gyntaf:

10% o £320 = £32

Yna dybla hyn i gael 20%:

20% o £320 = £32 × 2 = £64

Os bydd hi’n cynilo £64 y mis, rhanna’r cyfanswm sydd angen iddi ei gynilo â 64 i weld faint o fisoedd fydd hi’n ei gymryd:

£640 ÷ £64 = 10

Mae hyn yn golygu bod angen iddi gynilo am 10 mis.