Cyllid personolAdlog – haenau canolradd ac uwch

Trwy agor dy gyfrif banc dy hun neu drwy reoli dy arian yn llwyddiannus, byddi’n dysgu sut i ymdrin â dy gyllid personol yn ofalus a sicrhau dy fod yn gallu rheoli ad-daliadau ar fenthyciadau.

Part of Mathemateg RhifeddRhif

Adlog – haenau canolradd ac uwch

Yn y rhan fwyaf o gyfrifon cynilo, maen nhw’n talu math arbennig o log sy’n cael ei alw’n adlog. Gydag rwyt ti’n cael llog ar dy log. Mae hyn yn rhoi mwy o arian i ti yn y pen draw!

Enghraifft

Mae Rhiannon wedi penderfynu defnyddio cyfrif cynilo sy’n talu cyfradd o 4% . Mae’n penderfynu buddsoddi £800 mewn cyfrif cynilo am dair blynedd. A fydd Rhiannon yn gallu ariannu trip teithio am flwyddyn, sy’n debygol o gostio £1,000? Rhaid i ti ddangos dy holl waith cyfrifo a rhoi rheswm dros dy ateb.

Tabl yn dangos llog sydd wedi cronni dros 3 blynedd

Mae hyn yn golygu na fydd Rhiannon yn gallu ariannu ei thaith gan y bydd tua £100 yn fyr.

Mae dull cyfrifo byrrach hefyd. Rydyn ni’n gwybod ein bod eisiau adio’r llog at y swm gwreiddiol o 100%.

Mae hynny’n golygu ein bod eisiau 104% ar gyfer bob blwyddyn.

Felly, rydyn ni’n cael:

800 × 1.04 × 1.04 × 1.04

neu 1,020 × \(1.04^3\) = £899.8912

Byddi’n dysgu sut i gyfrifo AER yn yr uned Cyllid busnes.